Ganwyd 13 Rhagfyr 1868 yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Trefaldwyn, yn fab i Richard Bellis Jones, ysgolfeistr, a Hannah (ganwyd Vaughan) ei wraig. Addysgwyd ef yn ysgol ei dad ac ar ôl hynny yn y Northern Institute yn Lerpwl ac yn ysgol uwchradd Croesoswallt o dan Owen Owen. O 1885 i 1890 yr oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a dychwelodd yno, ar ôl ysbaid o ddysgu yng Nghroesoswallt, i baratoi at gymryd gradd M.A. (Llundain) yn 1894. Wedi cyfnod byr (1894-99) yn brifathro ysgol sir Llandeilo, penodwyd ef yn brifathro ysgol sir y bechgyn yn Y Barri, lle'r arhosodd nes ymddeol yn 1933. Ar ôl ymddeol bu'n gynghorwr ar faterion Cymreig i'r B.B.C., gan drefnu rhaglenni ysgolion a gweithredu fel ysgrifennydd y Pwyllgor Ymgynghorol ar Grefydd. Bu'n Glerc, trysorydd a Warden Urdd y Graddedigion o bryd i'w gilydd, yr unig berson i ddal y tair swydd. Ef oedd yr unig aelod i wasanaethu'r Bwrdd Canol Cymreig dros holl gyfnod ei fodolaeth. Bu'n aelod o lysoedd a chynghorau ei hen goleg yn Aberystwyth, Coleg y Brifysgol, Caerdydd, ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Ef oedd llywydd Cymdeithas Ysgolion Uwchradd Cymru yn 1910. Yn ystod Rhyfel Byd I ef oedd prif swyddog y Glamorgan Fortress Engineers gyda rheng uchgapten, a dyfarnwyd iddo O.B.E. (filwrol). Rhoes Prifysgol Cymru raddau er anrhydedd iddo, M.A. yn 1922 ac LL.D. yn 1951, a chafodd ryddfreiniaeth y Barri yn 1951.
Yr oedd yn brifathro egnïol, llawn dychymyg, a chanddo allu anghyffredin i ennyn teyrngarwch ac ymroddiad mewn disgyblion ac athrawon. Galluogodd ei bersonoliaeth ef i lywio ysgol lewyrchus a hapus iawn gydag awdurdod cyflawn ond heb ddisgyblaeth ormesol. Meddai ar wybodaeth eang mewn archaeoleg ac yn y celfyddydau, yn arbennig peintio, pensaernïaeth a barddoniaeth; ac yr oedd cannoedd o hen ddisgyblion y deffrowyd eu diddordeb mewn diwylliant am y tro cyntaf ganddo ef. Cymerai ddiddordeb brwdfrydig mewn chwaraeon. Yn Aberystwyth yr oedd yn bencampwr athletaidd, yn aelod (a chapten) o dîm y bêl gron, ac o'r tîm rygbi, ac fel prifathro ychydig oedd y gornestau ysgol nad oedd ef yn eu gwylio.
Ar 22 Rhagfyr 1894 priododd Ann Gwenllian, merch Thomas Jones, Dowlais, a'i gydfyfyriwr yn Aberystwyth. Yr oedd hi'n wraig o gryn allu a aeth, pan oedd tuag ugain oed, yn athrawes i wyrion John Hughes (1814 - 1889), arloeswr datblygiad meteleg Rwsia yn Yuzovka yn nyffryn Donets. Bu iddynt dri o blant, Gareth a dwy ferch, Gwyneth ac Eirian. Bu farw 1 Mai 1953.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.