Erthygl a archifwyd

JONES, GARETH RICHARD VAUGHAN (1905 - 1935), newyddiadurwr

Enw: Gareth Richard Vaughan Jones
Dyddiad geni: 1905
Dyddiad marw: 1935
Rhiant: Ann Gwenllian Jones (née Jones)
Rhiant: Edgar William Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: newyddiadurwr
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd

Ganwyd Gareth Jones ar 13 Awst 1905 yn Eryl, Ffordd Romilly, y Barri, yr iengaf o dri o blant Edgar William Jones (1868-1953), athro ysgol, a'i wraig Ann Gwenllian (g. Jones, 1867-1965). Cafodd ei addysgu gartref gan ei fam yn gyntaf, ac wedyn mynychodd Ysgol Sir y Barri lle roedd ei dad yn brifathro. Roedd ei fam wedi gweithio fel tiwtor i wyrion y diwydiannwr John Hughes a sefydlodd dref Hugheskova (Donetz heddiw) yn yr Wcráin.

Roedd Gareth Jones yn ieithydd dawnus ac astudiodd Ffrangeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth (1922-1926) cyn ennill ysgoloriaeth i astudio Ffrangeg, Almaeneg a Rwsieg yng Ngholeg y Drindod Caergrawnt, lle graddiodd gyda dosbarth cyntaf yn 1929. Siaradai'r tair iaith yn rhugl yn ogystal â Chymraeg a Saesneg.

Ymddiddorai'n fawr mewn materion rhyngwladol, ac mewn llythyr at ei rieni yn Chwefror 1929 esboniodd ei awydd i deithio ac adrodd am y byd:

I should consider myself a flabby little coward if I ever gave up the chance of good and interesting career for the mere thought of safety. I have no thought for a man whose acceptance or judgement of a post depends on the answer to the question: Will it give me a pension?... I have come to the conclusion that the only life I can live with interest and which can really be of use is one connected with foreign affairs and with men and women of today; not with the writers of centuries ago.

(LlGC Ffeil 18 )

Ar ôl graddio o Gaergrawnt, bu Jones yn gweithio am ychydig fisoedd ar ddesg dramor The Times, ond dywedwyd wrtho fod angen iddo gael mwy o brofiad cyn y gellid ei ystyried am swydd barhaol. Yn Ionawr 1930 aeth i weithio fel cynghorwr materion tramor i David Lloyd George, gŵr yr oedd gan Jones barch mawr ato, a lluniodd adroddiadau ar ddatblygiadau o fewn yr Ymerodraeth Brydeinig, Cynghrair y Cenhedloedd a'r Undeb Sofietaidd. Teithiodd i adrodd ar y tensiynau gwleidyddol, economaidd ac ethnig cynyddol yng nghanolbarth Ewrop, yn enwedig mewn ardaloedd y tu allan i'r Almaen newydd ond gyda phoblogaethau mawr o Almaenwyr ethnig, ac ar ddadfeiliad sefydliadau democrataidd fel y gwelwyd yn 'Etholiadau Brest' a rigiwyd yng Ngwlad Pwyl. Yn Awst 1930 ymwelodd am y tro cyntaf â Hugheskova (Stalino ar y pryd), lle gwelodd brinder bwyd ac amgylchiadau enbyd.

Daeth ei gyfnod gyda Lloyd George i ben oherwydd toriadau cyllid, ond cafodd Jones ei recriwtio i weithio gydag Ymgynghorwyr PR Ivy Lee and Associates yn Efrog Newydd yn gynnar yn 1931. Yn Awst 1931 anfonwyd ef gyda Jack Heinz III i adrodd ar y cynlluniau pum mlynedd yn yr Undeb Sofietaidd, lle gwelodd gyflwr y wlad yn dirywio. Gwnaeth gyfweliad hefyd â gweddw Lenin, Nadezhda Krupskaya, a chyhoeddodd ei adroddiad yn y Western Mail.

Ar ôl dychwelyd i Brydain gweithiodd Jones i Lloyd George am gyfnod byr cyn mynd i deithio eto yn Ewrop gan sgrifennu ar gyfer y Western Mail. Roedd yn Leipzig ar 30 Ionawr 1933 pan ddaeth Hitler yn Ganghellor, a theithiodd i Berlin lle cafodd gyfle i gwrdd ag ysgrifennydd Hitler a'i wahodd i hedfan gyda'r Fuhrer yn ei awyren breifat i rali yn Frankfurt. Dyna sail ei ysgrif 'With Hitler across Germany' a gyhoeddwyd yn y Western Mail ar 28 Chwefror 1933.

Ym Mawrth 1933 aeth Jones i'r Undeb Sofietaidd i weld drosto'i hun y newyn o waith dynion y buasai'n ymchwilio iddo ers peth amser. Ar ôl bod ym Mosgo treuliodd sawl diwrnod yn cerdded drwy ddwyrain yr Wcráin gan wneud nodiadau manwl yn ei ddyddiaduron ar effeithiau'r prinder bwyd a'r braw ehangach. Ar 29 Mawrth 1933 cyhoeddwyd erthygl ganddo mewn papurau newyddion ym Mhrydain ac America yn datgelu i'r byd y dioddefaint enbyd a diangen a welodd yn yr Undeb Sofietaidd, er i rai newyddiadurwyr a weithiai ym Mosgo fel Walter Duranty o'r New York Times geisio tanseilio ei adroddiad.

O Ebrill 1933 i haf 1934 gweithiodd Jones fel newyddiadurwr ar y Western Mail yng Nghaerdydd. Yn Hydref 1934 cychwynnodd ar 'Daith o amgylch y Byd' a fyddai'n arwain at gyfres o erthyglau ar UDA o dan Roosevelt, Siapan, Ynysoedd y Philipinau, Singapôr, Cambodia a Tsieina. Tra'n teithio ym Mongolia cafodd ei ddal gan filwyr Siapaneaidd. Pan ryddhawyd ef cafodd ei anfon ar hyd llwybr honedig ddiogel trwy ardal banditiaid, lle cafodd ei herwgipio a'i ddal am un niwrnod ar bymtheg. Saethwyd ef yn farw yn Nhalaith Chahar, Tsieina, ar 12 Awst 1935, noswyl ei ben-blwydd yn ddeg ar hugain oed. Roedd Llywodraeth Prydain yn amau'n fawr mai'r awdurdodau Sofietaidd oedd yn gyfrifol am ei farwolaeth, er bod amheuon hefyd fod Siapan â rhan ynddi. Claddwyd ei lwch ym mynwent Merthyr Dyfan, y Barri.

Ar ôl ei farwolaeth cydweithiodd y Western Mail ag ymgyrch i godi arian am ysgoloriaeth er cof amdano, gan gynnwys cyhoeddi detholiad o ysgrifau Jones, In Search of News.

Rhoddwyd papurau Gareth Jones, gan gynnwys y dyddiaduron lle cadwodd nodiadau ar gyfer ei erthyglau, i Lyfrgell Genedlaethol Cymru gan ei nith, Dr Margaret Siriol Colley. Digidwyd detholiad o'r ffeiliau gyda chymorth gan Sefydliad Hawliau Dinesig Wcrainiaid Canada, Cynghrair Genedlaethol Merched Wcrainaidd America a Sefydliad Teulu Temerty. Yn 2006 dadorchuddiwyd plac yn yr Hen Goleg, Aberystwyth, yn coffáu ei ran yn datgelu'r Holdomor yn yr Wcráin, ac yn 2008 dyfarnwyd iddo Urdd Teilyngdod yr Wcráin.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2023-02-22

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Erthygl a archifwyd Frig y dudalen

JONES, GARETH RICHARD VAUGHAN (1905 - 1935), ieithydd a newyddiadurwr

Enw: Gareth Richard Vaughan Jones
Dyddiad geni: 1905
Dyddiad marw: 1935
Rhiant: Ann Gwenllian Jones (née Jones)
Rhiant: Edgar William Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ieithydd a newyddiadurwr
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Gwilym Davies

Ganwyd 13 Awst 1905, mab Edgar a Gwen Jones, y Barri, Sir Forgannwg. Cafodd ei addysg yn ysgol ganolradd y Barri (yr ysgol yr oedd ei dad yn bennaeth arni), Coleg y Brifysgol, Aberystwyth (B.A. gydag anrhydedd y dosbarth cyntaf mewn Ffrangeg), a Coleg y Drindod, Caergrawnt (B.A. gydag anrhydedd y dosbarth cyntaf mewn Ffrangeg, Almaeneg, a Rwseg). Yn 1930 dewiswyd ef yn ysgrifennydd preifat i David Lloyd George i ddelio â materion a chwestiynau tramor. O 1931 hyd 1933 bu yn U.D.A. yn astudio tueddiadau economaidd, yn yr Eidal yn delio â mesurau i wella ac esmwytháu cyflwr trigolion y 'Pontine Marshes,' ac yn Rwsia yn astudio moddion byw a chynhaliaeth. Yn 1933 ymunodd â staff y Western Mail, Caerdydd, ac yn 1934 cychwynnodd ar daith o amgylch y byd. Wedi taith lawn o beryglon trwy ganolbarth China cafodd ei lofruddio gan garnladron a herwyr yng nghanolbarth Mongolia ar 12 Awst 1935.

Cyhoeddwyd cyfrol o'i waith - In Search of News - ar ôl ei farw, a chasglwyd arian (trwy apêl at y cyhoedd) i sefydlu ysgoloriaeth deithio er cof amdano.

Awdur

  • Y Parchedig Gwilym Davies, (1880 - 1955)

    Ffynonellau

  • Adnabyddiaeth bersonol

    Darllen Pellach

  • Archifau LlGC: Gareth Vaughan Jones
  • Margaret Siriol Colley, More than a grain of truth: the biography of Gareth Richard Vaughan Jones ( London 2020 )
  • Ray Gamache, Gareth Jones: Eyewitness to the Holodomor ( Cardiff 2018 )
  • Martin Shipton, Mr Jones - The Man Who Knew Too Much: The Life and Death of Gareth Jones ( Cardiff 2021 )
  • Ray Gamache, Gareth Jones: On Assignment in Nazi Germany 1933-34 ( Cardiff 2021 )
  • Gwefan Gareth Richard Vaughan Jones, Hero of Ukraine, (1905 -1935), cyrchwyd Awst 2020
  • Erthygl Wicipedia: Gareth Jones

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Erthygl a archifwyd

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.