JONES, EMRYS (1920-2006), daearyddwr

Enw: Emrys Jones
Dyddiad geni: 1920
Dyddiad marw: 2006
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: daearyddwr
Maes gweithgaredd: Natur ac Amaethyddiaeth
Awdur: Harold Carter

Ganwyd Emrys Jones yn 3 Stryd Henry, Aberaman, Aberdâr, Morgannwg, 17 Awst 1920. Ei rieni oedd Samuel ac Annie (née Williams) Jones. 'Roedd y daearegwr Syr Alwyn Williams, nai i'w fam, yn gefnder iddo. Megis llu o'i gydoeswyr ym mlynyddoedd y dirwasgiad, etifeddiaeth ei fagwriaeth yn y cymoedd glo oedd ymrwymiad llwyr i Gymru, ei hiaith a'i diwylliant ac i radicaliaeth gymdeithasol a pholiticaidd.

O Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Aberdâr aeth ymlaen, ym 1938, i astudio Daearyddiaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Graddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn daearyddiaeth ym 1941 ac enillodd ei MSc ym 1945 a'i PhD ym 1947. Yn Aberystwyth daeth o dan ddylanwad y traddodiad academaidd a sefydlwyd gan H. J. Fleure ac a barhawyd gan Daryll Forde ac Emrys Bowen. Bryd hynny, gelwid yr Adran yn 'Adran Daearyddiaeth ac Anthropoleg' ac er nad oedd llawer o addysgu ffurfiol mewn Anthropoleg, 'roedd dylanwad y pwnc i'w weld yn gryf yn natur y ddaearyddiaeth a ddysgid.

'Roedd apwyntiad Alwyn D. Rees ym 1946 yn ddylanwad cadarnhaol ar natur y defnydd a ddysgid ac yr ymchwilid iddo. Dyma oedd cefndir datblygiad gwaith ymchwil ôl-raddedig Emrys Jones, yn enwedig ei draethawd ymchwil doethurol ar Dregaron. Rhagarweiniad oedd hyn i sawl cyhoeddiad; y mwyaf arwyddocaol ohonynt oedd 'Tregaron: the sociology of a Market Town in Central Cardiganshire' yn Welsh Rural Communities, cyfrol a olygwyd gan Elwyn Davies ac Alwyn Rees (1960). Mae'r teitl a'r cyd-destun yn deilwng o sylw. Galwyd y gyfrol yn ddiamwys 'the Sociology of …' ac fe ymddangosodd ochr yn ochr â chyfres o draethodau ar gymunedau gwledig gan awduron a oedd yn frodorion ardaloedd eu testunau. Mewn cyferbyniad, 'roedd y traethawd gan Emrys ar dref, er yn un fach ei maint, a chan ymchwilydd o gefndir gwahanol.

Treuliodd Emrys flwyddyn ôl-ddoethurol yn yr UDA gydag Ysgoloriaeth Rockefeller mewn gwyddor cymdeithas, yn ymchwilio i Americaneiddio y cymunedau Cymraeg yn Nhalaith Uwch Efrog Newydd. Ei swydd academaidd gyntaf oedd fel darlithydd cynorthwyol yn Adran Daearyddiaeth Coleg y Brifysgol Llundain, 1947-50. Fodd bynnag, ni arweiniodd hyn i ddyrchafiad i raddfa darlithydd lawn oherwydd i Bennaeth yr Adran ar y pryd ystyried fod ei waith o fewn maes cymdeithaseg. Roedd yr anghytundeb yma yn adlewyrchu'r gwahaniaethau cryf ym maes daearyddiaeth ar y pryd a'r gwrthdaro rhwng y dehongliad cyfredol yn Aberystwyth a hwnnw yn y brif ffrwd draddodiadol a mwy confensiynol. Dyfarnwyd gan y confensiwn hwnnw fod yn rhaid i'r pwnc gael ei sefydlu ar a dechrau o'r amgylchedd ffisegol ac yna symud ymlaen i ddehongli ei effaith ar weithgareddau dynol, yn wir, i'w effaith ddiffiniol.

Ond bu Emrys yn gadarn o blaid ei etifeddiaeth o Aberystwyth, gan gredu yng ngoruchafiaeth pwerau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd yng nghreadigaeth y patrymau gofodol a oedd wrth graidd astudiaethau daearyddol. Fwy na hyn, fe luniwyd y tirwedd gweledig gan gyfnodau maith o weithgareddau dynol ac roedd natur y gweithgareddau hynny o'r pwysigrwydd pennaf. Roedd y daliadau gwrthgyferbyniol hyn am natur daearyddiaeth yn tra-arglwyddiaethu ar yr athrawiaeth ddaearyddol y pryd a fynegwyd yn nwy thema pendefyniadaeth amgylcheddol ar y naill law, a'r hyn a elwid yn 'possibilism' ar y llaw arall, lle, yn iaith y cyfnod, yr oedd 'dyn' yn feistr ar y posibiliadau a gynigid iddo gan yr amgylchedd ac yn barnu eu defnydd. Dechreuai Daearyddiaeth, felly, gyda diwylliant ac nid o anghenraid gyda'r amgylchedd ffisigol. Mewn ymateb i'r eglurhad o angenrheidrwydd seiliau amgylcheddol, cyhoeddodd Jones bapur yn Annals of the Association of American Geographers ym 1956 o dan y teitl 'Cause and effect in Human Geography', yn gosod y ddadl o blaid 'possibilism'. Drwy gydol ei waith dilynol, diwylliant neu ffordd o fyw fu elfen graidd a phrif ffrwd ei ymchwil. Nid anodd yw canfod yn hyn o beth ymwybyddiaeth gref yn tarddu o gyfnod ei lencyndod, o sut y penderfynwyd cymeriad cymoedd glo De Cymru gan drachwant y meistri glo a dur. Rhaid oedd cychwyn y dehongliad daearyddol gyda chymeriad y bobl hyn.

Apwyntiwyd Emrys Jones yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Queen's, Belfast, ym 1950, gydag Estyn Evans, un o raddedigion Adran Daearyddiaeth Aberystwyth ac un o gyn-fyfyrwyr Fleure, yn Bennaeth. Dyma gyd-destun gwaith a oedd yn cydymffurfio'n llawer gwell ag athroniaeth ddaearyddol Emrys a thra oedd ym Melfast (1950-58) galluogwyd ef i ddatblygu'r ddwy thema a ddaeth i lywodraethu gweddill ei yrfa. Crynhowyd y gyntaf mewn cyfrol a gyhoeddwyd ym 1977, ar y cyd â John Eyles, o dan y teitl An Introduction to Social Geography. Yn y gyfrol hon, gosodwyd datganiad cadarn o'r angen sylfaenol i ddeall y prosesau cymdeithasol mewn unrhyw ddehongliad o gymeriad arwyneb y ddaear. Yn amlwg, fe ddaeth hyn yn driniaeth holl bwysig yn y ddealltwriaeth o strwythur fewnol dinasoedd ac wrth ymroi i astudio Belfast, llwyddodd i gynhyrchu gwaith arloesol ym maes arbenigl newydd daearyddiaeth ddinesig, sef A Social Geography of Belfast, OUP 1960. Daearyddiaeth ddinesig oedd yr ail thema i oruwchlywodraethu ei lafur.

Erbyn i'r gyfrol ar Belfast gael ei chyhoeddi, 'roedd Emrys wedi symud i Lundain fel Darllenydd mewn Daearyddiaeth Gymdeithasol yn y London School of Economics (1959). Yno fe drosglwyddodd ei waith o Belfast i Lundain a dechreuodd gyfres o gyhoeddiadau ar y ddinas yn cynnwys An Atlas of London and its Region ym 1968. Trosglwyddodd ei ddiddordeb, felly, o'r dref leiaf, man cychwyn ei waith, i'r fwyaf. Daethpwyd i'w gydnabod yn arbenigwr ar ddinasoedd y byd eang. Dilynwyd cyfrol fwy cyffredinol, Towns and Cities (1968) gan Metropolis: the World's Largest Cities, ym 1990.

Daeth Emrys Jones yn Bennaeth ei adran yn yr LSE ym 1961 a bu'n allweddol yn y swydd yma, yn hyrwyddo statws Daearyddiaeth Ddynol. Pan sefydlwyd y Social Science Research Council nid oedd yn cynnwys Daearyddiaeth yn un o'i ddisgyblaethau. Drwy dyfalbarhad Emrys, yn bennaf, cywirwyd hyn pan sefydlwyd y pwyllgor Human Geography Subject Committee ym 1967 gydag Emrys yn aelod yn y blynyddoedd cyntaf. Dyma un maes ymysg llawer lle bu ei egni yn brif ddylanwad yn hyrwyddo daearyddiath a gwyddor cymdeithas. Mae hefyd yn werth nodi mai Pensaernïaeth oedd un o ddiddordebau cyntaf Emrys, a phroblemau ariannol yn unig a barodd iddo astudio daearyddiaeth yn hytrach na Phensaernïaeth. Ymlynodd at y diddordeb drwy gydol ei oes ac yn yr LSE datblygodd ddolen gydiol â'r Bartlett School of Architecture a arweiniodd at ddiddordeb mewn cynllunio. Milton Keynes oedd un o'r ardaloedd o ddiddordeb iddo. Ymddeolodd o'i Gadair ym 1984.

Er iddo ymgartrefu yn Llundain ni phallodd ei ymroddiad i Gymru a'r Pethau. Roedd yn ddylanwad grymus yn Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ac yn Gadeirydd y Cyngor 1983-89 ac yn Lywydd 1989-2002. Dangoswyd ei ymroddiad orau yn y gyfrol a olygwyd ganddo ac a gyhoeddwyd ym 2001 The Welsh in London. 1500-2000, yn rhanol fel dathliad o 250 canmlwyddiant sefydlu'r Cymmrodorion. Mae'n arwyddocaol iddo ysgrifennu llawer o'r gyfrol ei hun. Un enghraifft arall o'i gysylltiadau cryf â Chymru oedd Darlith Llanymddyfri Cymdeithas Cyn-Fyfyrwyr Aberystwyth. Teitl y ddarlith oedd 'Where was Wales' ac fe'i hargraffwyd yn Nhrafodion y Cymmrodorion ym 1994.

Roedd Emrys Jones yn wir ysgolaig. Dyfarnwyd iddo Medal Victoria y Royal Geographical Society, graddau er anrhydedd gan Brifysgol Queen's, Belfast a'r Brifysgol Agored a medal y Cymmrodorion yn 2001. Etholwyd ef yn Gymrawd Hyn yr Academi Frenhinol yn 2003. Roedd yn llyfrgarwr a darllenai'n helaeth lenyddiaeth Saesneg a Chymraeg. Roedd yn wr dengar a chanddo synnwyr hiwmor ddireidus. Priododd â Iona Hughes ym 1948 a bu iddynt ddau o blant, Rhiannon a fu farw ym 1980 a Catrin. Bu farw Emrys yn Hospis St Ffransis yn Berkhamstead ar 30 Awst 2006. Gorwedd ei lwch yn rhannol yn Eglwys y Santes Fair, Berkhamsted ac yn eglwys teulu ei briod ym Mrynsiencyn, Sir Fôn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2012-05-18

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.