Ganed ef yn Riversdale, Aberaeron ar 4 Ionawr 1945, yn fab i Gwilym a Joyce Jones, ac roedd ganddo ddwy chwaer sef Alice ac Elinor. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Aberaeron a Choleg yr Iesu, Rhydychen, lle enillodd radd mewn hanes. Roedd yn un o'r myfyrwyr cynharaf a mwyaf galluog i astudio yng Ngholeg Llyfrgellwyr Cymru, Llanbadarn Fawr yn ei ddyddiau cynnar. Oherwydd ei gefndir bu hanes Cymru a materion Cymreig yn ganolog i'w safbwyntiau drwy gydol ei oes. Roedd yn ymweld yn rheolaidd ag Aberaeron drwy ei fywyd.
Am gyfnod byr rhwng 1970 a 1972 bu'n llyfrgellydd cynorthwyol yn yr Institute of Historical Research yn Llundain, ac yna enillodd ei fywoliaeth yn llyfrgell Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth o 1972 tan 1977, gan dderbyn dyrchafiad yno fel llyfrgellydd y gyfraith. Dan anogaeth yr Arglwydd Elwyn-Jones, yr Arglwydd Ganghellor o fewn llywodraethau Llafur y 1970au, symudodd i Lundain. Yno gwasanaethodd fel Dirprwy Lyfrgellydd Ty'r Arglwyddi, 1977-91, ac yna fel Llyfrgellydd yno o 1991 tan ei ymddeoliad yn 2006. Jones oedd y llyfrgellydd proffesiynol cyntaf i sicrhau penodiad i'r swydd hon o fewn Ty'r Arglwyddi, ac ymrwymodd yn llwyr i ailgatalogio daliadau'r llyfrgell a hwyluso mynediad i wasanaethau ar-lein. Er mwyn cyflawni'r tasgau hyn, cydweithiodd Jones yn ddedwydd gyda'r Is-iarll Eccles, cadeirydd is-bwyllgor y llyfrgell yno. Yn llyfrgell Ty'r Arglwyddi sefydlwyd sustem hollol integredig i reoli derbyniadau, catalogio a rheoli cylchgronau, i raddau helaeth ar-y-cyd gyda sustem lyfrgellyddol Llyfrgell y Ty Cyffredin. Bu Jones hefyd yn gyfrifol am sefydlu rhaglen gynhwysfawr i sicrhau cadwraeth a chatalogio'r casgliadau hanesyddol oedd yng ngofal Llyfrgell Ty'r Arglwyddi. Oherwydd ei arolygaeth ddoeth, cynyddodd daliadau'r Llyfrgell yn sylweddol, a llwyddodd hefyd i gynyddu nifer aelodau'r staff yno o ryw ddeg yn unig i ddeg-ar-hugain, gan sicrhau penodiad nifer o ymchwilwyr, llyfrgellwyr a staff ysgrifenyddol, y mwyafrif ohonynt o safon eithriadol o uchel - ymateb angenrheidiol i ofyniadau fwyfwy cymhleth y darllenwyr am wybodaeth a chyngor cyflym a chywir. Drwy gydol ei amser yn y swydd, gwnaeth David Jones y defnydd mwyaf effeithiol posibl o'r adnoddau amser a chyllid oedd ar gael iddo. Ym 1999 hefyd sefydlwyd darpariaeth lyfrgellyddol annibynnol ar gyfer Arglwyddi'r Gyfraith, a hynny ar ochr orllewinol Palas San Steffan. Pan ymddeolodd David Jones yn 2006, gwelwyd newidiadau sylweddol o fewn y llyfrgell a ddaeth yn rhan o Adran Gwasanaethau Gwybodaeth lawer iawn ehangach, gyda'r Llyfrgellydd newydd, sef Elizabeth Hallam Smith, wrth y llyw, ac yn cynnwys yr Archifau Seneddol a Swyddfa Gwybodaeth Ty'r Arglwyddi.
Daliodd David Jones ati i ymchwilio'n ddygn drwy gydol ei fywyd, a bu'n cyhoeddi'n gyson drwy'r blynyddoedd. Ac yntau'n bennaf yn llyfryddiaethwr wrth reddf, ymhlith ei gyhoeddiadau niferus ceir Paraguay: A Bibliography (1979), Debates and Proceedings of the British Parliaments: A Guide to Printed Sources (1986), Peers, Politics and Power: The House of Lords 1603-1911 (cyd-olygydd gyda Clyve Jones, 1986), A Parliamentary History of the Glorious Revolution (1988), gwaith a gyhoeddwyd i nodi trichanmlwyddiant y digwyddiad, ac Eirene: A Tribute (2001), teyrnged bersonol gynnes i'r Farwnes (Eirene) White o Rymni, gwraig a fu'n gyfeilles agos iddo am flynyddoedd meithion. Cyhoeddodd hefyd y gyfrol uchel ei bri Nelson and Parliament fel teyrnged dau ganmlwyddiant yn 2005. Yn ystod ei flynyddoedd olaf bu'n gweithio'n ddiwyd iawn ar lyfryddiaeth fanwl ar hanes y senedd, a'r gobaith bellach yw y bydd modd cyhoeddi'r gwaith pwysig hwn yn y dyfodol.
Cyhoeddodd yn ogystal nifer o erthyglau ysgolheigaidd ar wahanol agweddau ar hanes Cymru, rhestri o draethodau ymchwil a gyflwynwyd ar gyfer graddau uwch yn hanes Cymru ar gyfer Cylchgrawn Hanes Cymru, a chofnodion ar gyfer yr Oxford Dictionary of National Biography a'r Bywgraffiadur Cymreig (sydd bellach 'ar-lein'). Nodweddid pob un o'r cofnodion hyn, sylweddol a chyflawn bob un, gan ofal eithriadol, cywirdeb a balchder ar ran yr awdur.
Roedd Jones hefyd yn aelod blaenllaw o'r gymuned Gymreig yn Llundain, a bu'n aelod o nifer fawr o bwyllgorau, y mwyafrif yn ymdrin â Chymru. Roedd bob amser yn barod i deithio nôl i Gymru i fynychu gwahanol gyfarfodydd, gan gyfrannu'n helaeth ac yn adeiladol at eu trafodaethau. Fel ysgrifennydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion rhwng 1994 a 1997, bu'n gyfrifol am wahodd nifer fawr o ddarlithwyr huawdl ac o fri mawr i annerch y Gymdeithas, a gwelwyd cynnydd yn nifer y rhai a fynychai'r cyfarfodydd. Am nifer o flynyddoedd o 1995, bu David Jones hefyd yn ysgrifennydd Ymddiriedolaeth Apêl Cofgolofn Lloyd George a sefydlwyd i drefnu cofgolofn i David Lloyd George yn Sgwâr San Steffan, ymgyrch a brofodd yn ymrwymiad trafferthus tymor hir, ac a gyflawnwyd o'r diwedd yn 2007. Roedd Jones wrth ei fodd fel canlyniad. Daethpwyd â'r ymddiriedolaeth i ben wedyn yn y flwyddyn 2008.
Ymhlith yr anrhydeddau niferus a ddaeth i ran David Jones yr oedd Derwydd er Anrhydedd Gorsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Llandeilo yn 1996, teyrnged haeddiannol i'w waith aruthrol dros ddiwylliant Cymreig; Rhyddfreiniwr Dinas Llundain, 1993; Liveryman Stationers' and Newspapermakers' Company 1994; FSA, FRHistS, a FRSA yn 2006. Penodwyd ef hefyd yn CBE yn 2005 pan oedd ei ymddeoliad ar y gorwel.
Bu farw'n ddisyfyd yn ei gartref Heathfield Court, Chiswick, Llundain, ar 15 Hydref 2010, ac yntau ond yn 65 mlwydd oed, yn fuan ar ôl iddo dderbyn llawdriniaeth. Cynhaliwyd ei angladd cyhoeddus yn Eglwys Henfynyw, Ffos y Ffin, ger Aberaeron, ar brynhawn Sadwrn, 23 Hydref. Er mai dyn swil, tawel ydoedd yn y bôn, llwyddodd i adeiladu cylch eang o gyfeillion triw yn San Steffan ac yng Nghymru fel ei gilydd. Roedd bob amser ar gael i'r arglwyddi, gweithredodd bolisi 'drws agored' yn ei swyddfa, a daeth ei ymrwymiad i'w gwasanaethu yn ddiarhebol o fewn Ty'r Arglwyddi, lle gwerthfawrogid ei rinweddau yn fawr.
Dyddiad cyhoeddi: 2013-10-02
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.