Ganwyd yng Nghaerdydd, 30 Rhagfyr 1926. Ei hanner-chwaer oedd y gyfansoddwraig, Morfydd Llwyn Owen. Addysgwyd ef yn Cardiff High School a Choleg Iesu, Rhydychen, lle graddiodd mewn Litterae Humaniores a Diwinyddiaeth. Fe'i hordeiniwyd gan eglwys y Methodistiaid Calfinaidd ar ei apwyntiad yn Athro'r Testament Newydd yn y Coleg Diwinyddol Unedig, Aberystwyth, yn 1949. Yn 1953 symudodd i Goleg y Brifysgol, Bangor, i fod yn ddarlithydd ym maes y Testament Newydd. Yn 1962 ymunodd â'r Athro Hywel D. Lewis, gynt o Goleg Bangor, yng Ngholeg y Brenin, Llundain, i gychwyn darlithio ar Athroniaeth Crefydd ac fe'i dyrchafwyd yn ddarllenydd yno yn 1963. Cafodd ei apwyntio'n Athro Athrawiaeth Gristnogol yno yn 1971 a bu yn y gadair honno hyd ei ymddeoliad yn 1983.
Ei gyhoeddiad a ddenodd sylw'r byd ysgolheigaidd gyntaf oedd ei astudiaeth feirniadol o'r diwinydd Almaenig dylanwadol, Rudolf Bultmann, Revelation and Existence (1957). Yn ei gyfrolau sylweddol eraill canolbwyntiodd ar yr athrawiaeth am Dduw: The Moral Argument for Christian Theism (1965), The Christian Knowledge of God (1969), Concepts of Deity (1971), a Christian Theism: a Study in Its Basic Principles (1984). Hwn hefyd oedd testun ei Ddarlith Davies yn 1986, The Christian Experience of God. Cyhoeddodd hefyd astudiaeth ar un o'i ragflaenwyr mewn cadair yng Ngholeg y Brenin: W. R. Matthews: Philosopher and Theologian (1976). Cyhoeddwyd The Basis of Christian Prayer (2006) wedi ei farwolaeth. Roedd hefyd wedi cwblhau dwy gyfrol arall, ond ni chyhoeddwyd hwy hyd yn hyn. Mae'r naill yn ymdrin â sylfaen a natur cred Gristnogol a'r llall yn trafod Cristnogaeth a Phlatoniaeth. Ar sail ei gefndir cyfoethog mewn astudiaethau Beiblaidd, mewn athroniaeth ac mewn diwinyddiaeth, bu'n lladmerydd clir a disglair o ffydd resymol wedi'i seilio ar brofiadau crefyddol dwys: 'Fel mater o ffaith hanesyddol', meddai, 'pwysai'r ffydd Gristnogol yn ei ffurf wreiddiol, feiblaidd, ar brofiad'.
Trwy gydol ei yrfa academaidd cadwodd ei gartref yng Nghaerdydd gan barhau â'i ymlyniad wrth yr eglwys a'i magodd, Plasnewydd, ac yn y ddinas hon y bu farw ar 26 Hydref, 1996.
Dyddiad cyhoeddi: 2013-01-28
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.