Ganwyd W. R. Owen yng Nghaergybi ar yr 22ain o Orffennaf 1906, yn fab i'r Capten Richard Griffith Owen (1878-1973), o Lanwnda, Sir Gaernarfon a'i wraig Margaret Ann Lewis (1883-1980) a oedd yn enedigol o Gaergybi. Rhedodd y tad i ffwrdd i'r fyddin yn 15 oed, a bu'n aelod o'r Royal Welch Fusiliers ac yn Is-gapten yn y fyddin Brydeinig a oresgynnodd Ardal Genhadaeth (Legation Quarter) Beijing/Peking yn ystod y Boxer Rebellion ym 1900. Gadawodd y fyddin i fynd i weithio fel 'gard' (gwyliwr) ar yr Irish Mail, y trên o Gaergybi i Orsaf Euston wedi iddo gyfarfod â Margaret Ann Lewis. Priodwyd y ddau yng Nghaergybi ym 1905, a bu iddynt 3 o blant, William Richard, Ellen Mary (Elma) (1910-1999) a Mona (1923-2005). Symudodd y teulu i fyw ym Mhenbedw tua 1915 pan oedd W.R. tua 9 oed, cyn symud yn ôl i Fangor pan oedd tua 18 oed. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Gynradd Caergybi ac yn Ysgol Gynradd ac Uwchradd Penbedw. Roedd yn arlunydd da iawn, ond penderfynodd beidio derbyn y cynnig i astudio mewn coleg celf, gan ddewis gweithio yn Llyfrgell Prifysgol Bangor lle perswadiwyd ef i hyfforddi fel Llyfrgellydd gan Thomas Shankland. Cyfarfu â Nellie Roberts (1909-1995), merch o Fangor, a oedd yn gweithio fel cynorthwywraig i berchennog y County Theatre ym Mangor tua 1931. Fe briododd y ddau ym Mangor ar yr 11eg o Ragfyr 1933, a bu iddynt 2 ferch, Rhiannon a Dwynwen.
Bu W. R. Owen yn Llyfrgellydd Dinas Bangor o 1937 tan 1941. Roedd yn weithgar ar nifer o bwyllgorau lleol yn yr ardal, ac ef oedd Swyddog lletya'r faciwîs a ddaeth i ogledd Cymru o Lerpwl a Phenbedw yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cafodd ei wrthod gan y Lluoedd Arfog oherwydd problemau gyda'i olwg, ond gwasanaethodd fel is-gapten yn y Gwarchodlu Cartref. Roedd darlledu'n datblygu'n gyflym yn ystod y rhyfel gyda'r galw cynyddol am newyddion cyfredol ac adloniant, ac fe gymrodd W. R. Owen y risg o adael ei swydd barhaol saff yn y Llyfrgell i fanteisio ar y cyfle i gychwyn gyrfa newydd gan ymuno gyda'r BBC yng Nghaerdydd ym 1942 fel cynhyrchydd yng ngofal rhaglenni radio ar record. Bu'n flaenllaw'n sefydlu Adrannau Rhaglenni Recordiedig a Darlledu Tramor, gan osod cynsail gadarn i ddatblygiad darlledu modern yng Nghymru. Roedd ganddo ddiddordeb byw mewn darlledu a materion cyfoes, a bu'n arloesol wrth gychwyn recordio a darlledu prif ddigwyddiadau Cymru mewn uned recordio symudol. Teithiodd yn helaeth hefyd drwy Ewrop a'r Dwyrain pell yn y cyfnod yma, gan gychwyn y 'Forces favourites', rhaglen radio a oedd yn cysylltu milwyr yn y Dwyrain Pell â'u teuluoedd adref yng Nghymru.
Roedd ei bersonoliaeth hawddgar yn gymorth iddo wneud cyfeillion yn hawdd, ac roedd wrth ei fodd yn cwmnïa a chymdeithasu, felly doedd dim yn rhoi mwy o fwynhad iddo na chrwydro Cymru ben baladr i chwilio am ddefnyddiau rhaglenni. Cofnodir iddo deithio mwy na 10,000 milltir yn ei uned recordio symudol ym 1946 yn mynychu cyfarfodydd a digwyddiadau awyr agored, yn cyfweld pobl ymhob twll a chornel o Gymru, ymhob tywydd ar gyfer ei raglen gylchgrawn fisol 'Radio Record'. Oherwydd ei brofiadau helaeth o deithio tramor, bu'n frwdfrydig a gweithgar iawn yn cynorthwyo i sefydlu Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, ac fe fu'n gyfrifol am sicrhau bod y BBC yn darlledu'r rhaglenni cyntaf o'r eisteddfod gyntaf yn Llangollen ym 1947. W. R. Owen oedd yn gyfrifol am recordio perfformiad buddugol Côr plant Obernkirchen o ddwyrain yr Almaen yn canu'r gân 'Der Fröliche Wanderer' neu'r 'Happy Wanderer' yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ym 1953 gan droi'r côr yn ffenomenon rhyngwladol a fu ar frig y siartiau ac yn canu ymhob cwr o'r byd yn dilyn y darllediad. Cafodd ei anrhydeddu am ei waith yn yr Eisteddfod drwy fod yn Llywydd y Dydd yn Eisteddfod 1969. Ef hefyd a fu'n gyfrifol am gynhyrchu'r rhaglenni 'Tocyn Wythnos' a 'Pigion y Dydd' o'r Eisteddfod Genedlaethol, yn ogystal â bod yn gysylltiedig â digwyddiadau pwysig yng Nghymru gan gynnwys yr Arwisgo yng Nghaernarfon ym 1969, un o'i swyddogaethau olaf i'r BBC, lle'r oedd yn gyfrifol am logisteg y darllediad.
Ym 1950, fe'i penodwyd yn swyddog arbennig ar gyfer Gwyl Prydain ym 1951, yn casglu gwybodaeth am ddigwyddiadau a oedd yn cael eu trefnu yng Nghymru yn ystod yr wyl, gyda golwg ar eu haddasrwydd at bwrpas darlledu.
Roedd yr Adran Ddarlledu Tramor yn darlledu rhaglenni radio ar faterion cyfoes â Chymreig mewn rhaglen o'r enw 'Welsh Magazine', a daniodd ddiddordeb W. R. Owen yn Y Wladfa. Treuliodd gyfnod yno ym 1955 yn recordio a chynhyrchu'r rhaglenni Cymraeg cyntaf i'w darlledu am Batagonia. Cyfarfu ag arweinyddion y cymunedau Cymreig a ffigyrau dylanwadol y dalaith, a darlledwyd tair rhaglen, gan gynnwys Cymanfa Ganu o'r Gaiman a chyfweliadau yn llawn atgofion a storïau gan drigolion Chubut a Chwm Hyfryd. Arweiniodd hyn at ailgynnau'r diddordeb a'r cyswllt rhwng y ddwy wlad, a sefydlwyd pwyllgorau i drefnu dathlu canmlwyddiant y mudo cyntaf. Roedd W. R. Owen gyda'r cyntaf i groesawu'r fintai fach o Wladfawyr a ddaeth draw i Gymru ym 1965 i ddathlu canmlwyddiant y mudo, ac ef a fu'n bennaf gyfrifol am drefnu'r daith i fintai o Gymry blaenllaw i fynd allan i'r Wladfa yn yr un flwyddyn. Cyflwynwyd set o recordiau radio Cymraeg i Lysgennad Ariannin yn Llundain ym 1965 yn cynnwys cyfweliadau W. R. Owen â nifer o Wladfawyr. Roedd yn daer ei groeso i unrhyw Gymro ar ymweliad â'r henwlad o bob rhan o'r byd, a pharhaodd ei ddiddordeb yn y Cymry ar Wasgar wedi iddo adael ei swydd a symud i fod yn gynrychiolydd y BBC yng ngorllewin Cymru a phennaeth swyddfa Abertawe. Wedi cyfnod o 6 mlynedd yn Abertawe, dychwelodd W. R. Owen i Fangor ym mis Rhagfyr 1963 i fod yng ngofal swyddfeydd y BBC fel olynydd i Sam Jones. Ymddeolodd ym 1971 wedi gyrfa lwyddiannus.
Disgrifiwyd ef gan lawer fel person egnïol a deinamig, yn llawn brwdfrydedd heintus, a oedd yn barod iawn i ganmol, er i eraill ddisgrifio'i sgiliau rheoli fel 'unbenaethol'. Ni fu pall ar ei ysfa i grwydro a chwrdd â phobl wedi ymddeol, a bu wrthi'n ddyfal yn trefnu ac arwain teithiau i'r cyfandir. Roedd yn hoff iawn o chwarae bowls, ac yn ddilynwr brwd o Dîm Rygbi Cymru. Cymerai ddiddordeb byw mewn cymdeithasau lleol gan gynnwys Clwb Rotari Bangor, Cylch Cinio Bangor a'r Clwb Probus, a bu'n genhadwr prysur a llwyddiannus dros sefydlu cylchoedd Cinio Cymraeg yn y De a'r Gogledd, ac ef oedd i fod yn brif westai'r cylchoedd cinio unedig yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe ym 1982, ond nid oedd yn ddigon cryf i wynebu'r daith o Fangor i Abertawe. Bu farw ym Mangor wedi cyfnod o salwch ar y 31ain o Awst 1982. Cynhaliwyd y gwasanaeth angladdol yn Eglwys Dewi Sant, Bangor ac amlosgwyd ei gorff yn Amlosgfa Bangor.
Rhoddodd ei ferch Dwynwen Belsey ei gasgliad o ffotograffau, sleidiau, ffilm, recordiadau a llawysgrifau yn ymwneud â Phatagonia i'r Llyfrgell Genedlaethol.
Dyddiad cyhoeddi: 2014-04-10
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.