Ganed ef ym Mangor ar 5 Medi 1906, yn fab i Price Ffoulkes White, pel-droediwr rhyngwladol Cymreig, a Charlotte Bell. Addysgwyd ef yn Ysgol Friars, Bangor a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Gweithiodd fel cyfreithiwr o 1932 tan 1956 ac ef oedd y prif bartner o fewn cwmni Price White, cyfreithiwyr, Bae Colwyn. Ymunodd âr Fyddin Diriogaethol ym 1928-29, a gwelodd wasanaeth milwrol ar faes y gad drwy gydol yr Ail Ryfel Byd, gan wasanaethu yn Dunkirk, yna gyda bataliwn gwarchodlu'r glannau, ac yna yn Ffrainc, y Dwyrain Canol, ynys Sisilia, yr Eidal, a Dwyrain Affrica.
Bu'n aelod o Gyngor Sir Gaernarfon, 1939-41, a bu hefyd yn aelod o Gyngor Dinas Bangor. Ef oedd AS Ceidwadol hen sedd Lloyd George sef Bwrdeistrefi Caernarfon o 1945 tan 1950. Cipiodd y sedd gyda mwyafrif bychan o 336 o bleidleisiau'n unig oddi ar AS Rhyddfrydol Yr Athro D. R. Seaborne-Davies a'i daliodd ar ran y Rhyddfrydwyr yn yr isetholiad ym mis Mai. Yn etholiad cyffredinol Gorffennaf 1945 safodd Price-White fel cefnogwr i'r carn i Syr Winston Churchill yn ei ymgyrch i sicrhau buddugoliaeth yn y rhyfel yn erbyn Japan. Ar ôl hynny diflannodd yr etholaeth pan ail-ddosbarthwyd ffiniau'r etholaethau seneddol. Penodwyd ef yn Brif Gynorthwywr Pencadlys Rhanbarth y Canolbarth o'r Bwrdd Trydan Cyffredinol ym 1957.
Ei gartref oedd Dolanog, Pwllycrochan Avenue, Bae Colwyn. Priododd Gwyneth Harris ym 1934, a bu iddynt un mab ac un ferch. Bu farw 6 Mawrth 1978.
Dyddiad cyhoeddi: 2011-06-23
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.