Ganed Seaborne-Davies ym Mhwllheli ar 26 Mehefin 1904, yn fab i David S. Davies, capten ar y môr a Claudia Davies, ei wraig. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Pwllheli, a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle graddiodd gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf yn y gyfraith yn 1924. Cyflawnodd yr un gamp yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt, lle daeth ar ben y rhestr yn nhreipos y gyfraith a dyfarnwyd iddo Wobr Yorke ym 1928. Tra oedd yn Aberystwyth, gwasanaethodd fel llywydd Cyngor y Myfyrwyr. Galwyd ef i'r bar, ond fel darlithydd yr enillodd ei fywoliaeth yn ddiweddarach, a bu'n Ddarllenydd yn y gyfraith ym Mhrifysgol Llundain o 1929 tan 1945. Yn ystod blynyddoedd y rhyfel, gwasanaethodd o fewn Adran Genedligrwydd y Swyddfa Gartref, ac ym 1944-45 ef oedd ysgrifennydd y Pwyllgor Dirymiad Cenedligrwydd.
Ym mis Mai 1945, yn dilyn dyrchafiad David Lloyd George, yr AS dros Fwrdeistrefi Caernarfon ers 1890, i Dy'r Arglwyddi yn y mis Ionawr blaenorol, llwyddodd i gadw'r Bwrdeistrefi'n driw i'r Blaid Ryddfrydol mewn isetholiad, gan ennill 27,754 o bleidleisiau yn erbyn yr Athro J. E. Daniel, a safai dros Blaid Cymru, yr unig ymgeisydd arall yn yr etholiad. Penderfynodd y Ceidwadwyr a'r Blaid Lafur fel ei gilydd i beidio ag enwebu ymgeisydd - yn unol â thelerau'r cytundeb a fodolai dros y rhyfel. Ond yn yr etholiad cyffredinol y mis Gorffennaf canlynol collodd Seaborne-Davies o drwch blewyn yn unig ei sedd i'r Ceidwadwr D. A. Price-White. Fel canlyniad bu'n cynrychioli'r etholaeth am un o'r tymhorau byrraf gan unrhyw aelod seneddol yn yr ugeinfed ganrif. Yn ystod yr ymgyrchoedd etholiadol hyn a ddenodd gryn sylw, galwodd Seaborne-Davies yn gyson am benodi Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru ac am sefydlu Cyngor Ymgynghorol dros Gymru yn y gobaith o daclo'r problemau niferus a wynebai'r dywysogaeth.
Yn ddiweddarach daeth Seaborne-Davies yn Athro'r Gyfraith Gyffredin o fewn Prifysgol Lerpwl rhwng 1946 a 1971. Tra oedd yn Lerpwl gwasanaethodd fel Deon Cyfadran y Gyfraith, 1946-56, penodwyd ef yn warden Neuadd Derby ym 1947, gan barhau yno tan 1971, ac yn Is-Ganghellor o 1956 tan 1960. Ef oedd yn bennaf gyfrifol am gynllunio adeilad Cyfadran y Gyfraith ym Mhrifysgol Lerpwl ac adlewyrchai'n gryf ei argyhoeddiad bod y myfyrwyr yno'n haeddu dim ond y gorau. Gwasanaethodd hefyd fel cadeirydd Pwyllgor Cynllunio Trwyddedau Lerpwl o 1960 tan 1963. Ar ôl ei ymddeoliad parhaodd i fynychu nifer fawr o ddigwyddiadau yn y brifysgol gan amlygu brwdfrydedd a diddordeb mawr.
Cyhoeddodd nifer sylweddol o erthyglau uchel eu parch mewn sawl cylchgrawn proffesiynol ar gyfer cyfreithwyr, yn fwyaf arbennig ar hanes breintlythyrau. Ymddangosai llawer ohonynt yn y Law Quarterly Review, y Modern Law Review a Nineteenth Century. Ar ôl ymddeol ym 1971, symudodd Davies i Gaernarfon lle y dilynai rygbi. Bu'n Llywydd am Oes Clwb Rygbi Prifysgol Lerpwl ac Is-lywydd Clwb Rygbi Cymry Llundain, a daeth yn Llywydd ar Glwb Chwaraeon Pwllheli am ddeng mlynedd. Gwasanaethodd fel ynad heddwch yn Lerpwl a Chaernarfon, a bu'n Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1967-68.
Roedd Davies yn siaradwr ar-ôl cinio arbennig iawn, yn difyrru ei gynulleidfa gyda chronfa faith o straeon Cymreig, yn amrywio o'r academaidd at yr athletaidd, ac yn addas ar gyfer pob math o gynulleidfa. Ond y tu ôl i hyn oll roedd ymrwymiad hollol ddifrifol. Traddododd ddarlithiau dros y byd i gyd, ac ym 1967 traddododd ddarlith flynyddol BBC Cymru ar y testun 'Welsh makers of English law'. Drwy gydol ei fywyd bu ei ddoniau'n gyfrifol am ei ddenu i fywyd cyhoeddus, gweinyddiaeth, addysgu a lles myfyrwyr.
Daliodd nifer fawr o swyddi cyhoeddus, gan gynnwys gwasanaethu fel llywydd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1958, 1973 a 1977. Roedd yn berchen ar gartref yn Y Garn, Pwllheli ac yn 8 Gayton Crescent, Hampstead, Llundain. Bu farw 21 Hydref 1984.
Dyddiad cyhoeddi: 2011-06-21
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.