ROBERTS, JOHN, 'Jack Rwsia' (1899-1979), glöwr, cynghorydd ac aelod amlwg o'r Blaid Gomiwnyddol

Enw: John Roberts
Ffugenw: Jack Rwsia
Dyddiad geni: 1899
Dyddiad marw: 1979
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: glöwr, cynghorydd ac aelod amlwg o'r Blaid Gomiwnyddol
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: D. Ben Rees

Ganwyd 1 Mai 1899 ym Mhenrhyndeudraeth, Sir Feirionnydd, yn fab i John Roberts, glöwr, a Mary Jones, merch i of o Harlech. Magwyd ef gan ei nain a'i daid ym Mhenrhyndeudraeth a chafodd addysg yn ysgolion y dref. Pan adawodd yr ysgol yn 1913 trefnodd ei nain, Sarah Jones, iddo deithio i gartref ei rieni yn Abertridwr, lle cafodd waith ym mhwll glo'r Windsor, dau fis cyn i'r pwll glo cyfagos, yr Universal, Senghenydd ffrwydro gan golli 439 o fywydau. Ymunodd â Chapel yr Annibynwyr yn Abertridwr ac yno y cyfarfu â merch o'r enw May Jones. Priodwyd hwy ar 3 Ebrill 1920 yn Eglwys y Plwyf Eglwysilan. Collwyd ei merch gyntaf-anedig yn ei babandod yn ystod Streic y Glowyr yn 1921.

Ysbrydolwyd John Roberts yn Is-etholiad etholaeth Caerffili ym mis Awst 1921 gan yr Albanwr, Robert (Bob) Stewart ond ar ddydd y pleidleisio (24 Awst) dim ond 2,592 o bleidleisiau a gafodd o'u cymharu â'r ymgeisydd Llafur, Morgan Jones a dderbyniodd 13,699 a'r Rhyddfrydwr-Ceidwadwr, W. R. Edmunds â'i 8,958. Er hyn gwnaeth Stewart gymaint o effaith ar y glöwr ifanc, nes iddo benderfynu noson y cyfrif ymuno â'r Blaid Gomiwnyddol. Siaradodd mor rymus yn ystod Streic 1926 o blaid Rwsia gan ganmol ei chefnogaeth i'r dosbarth gweithiol nes iddo gael ei lysenwi yn Jack Russia, a dyna'r enw a lynodd wrtho weddill ei oes.

Ar 31 Rhagfyr 1932 bu farw ei briod May o glefyd anaemia yn 34 mlwydd oed gan ei adael i fagu eu merch Margaret nad oedd ond deg oed, ar ei ben ei hun: hyfforddodd hi'n athrawes ysgol yn ddiweddarach. Digwyddodd y brofedigaeth hon yr un adeg ag y cafodd ei ddiswyddo o'r pwll glo. Ym mis Chwefror fe'i cyhuddwyd o ddwyn glo (gwerth £3-2-0) a dwy estyllen (gwerth pedwar swllt) ac fe'i cafwyd yn euog gan yr Ynadon a'i ddirwyo i ddeg swllt am bob un o'r ddau gyhuddiad. O hyn allan bu mewn trybini gyda'r heddlu. Cymerodd ran ym Mawrth 1933 yn y gwrthdaro ym Medwas rhwng y glowyr a gefnogai Undeb Ddiwydiannol Glowyr De Cymru, yr hyn a elwid ar lafar gwlad yn Undeb Spencer, ac Undeb Ffederasiwn Glowyr De Cymru. Anfonwyd 24 o'r arweinwyr i sefyll eu prawf yn Llys Mynwy. Carcharwyd pob un ohonynt, gan gynnwys John Roberts, yng ngharchar Caerdydd am dymor o chwe mis.

Safodd John Roberts yn Ymgeisydd Comiwnyddol yn etholiadau'r Cyngor Dosbarth yn Abertridwr yn 1932 a 1933 a bu bron ag ennill sedd yn 1934. Erbyn 1935 defnyddiodd yn effeithiol y bocs sebon o un stryd i'r llall yn Abertridwr gan ennill yn erbyn Daniel Walter Thomas, ymgeisydd y Blaid Lafur. Am y deunaw mlynedd nesaf bu'n Gynghorydd hynod o weithgar ar Gyngor Dosbarth Caerffili. Erbyn hyn yr oedd yn arwr Abertridwr. Seiclodd o'r pentref yr holl ffordd i Lundain yn 1936 i'w uniaethu ei hun a thaith y di-waith.

Ar Ionawr 1937 penderfynodd ymrestru yn y Frigâd Ryngwladol a theithiodd i frwydro yn Sbaen yn y Rhyfel Cartref. Yn gwmni iddo yr oedd Alun Menai Williams, Penygraig, mab y bardd Eingl-Gymreig, Huw Menai. Fe'u rhwystrwyd yn Perpignan gan heddlu Ffrainc a'u hanfon adref ar y trên trwy Marseilles ac yna ar long. Ym mis Mai 1937 mentrodd yr eildro yng nghwmni glöwr o Gomiwnydd o Abertridwr, Leo Price. Llwyddodd i groesi mynyddoedd y Pyrenees a chael ei dderbyn i'r Bataliwn Prydeinig. Dangosodd ddewrder anghyffredin ym mrwydr Brunete (Gorffennaf 1937) ac fe'i dyrchafwyd yn Commissar o'r XC Brigade ar drothwy Brwydr Aragon (Awst 1937). Fe'i clwyfwyd yn ei ysgwydd yn Quinto, bu yn Ysbyty Benicasin, ac yna cafodd gyfrifoldeb yn Ysgol Hyfforddi Swyddogion Brigâd XV yn Tarazona de la Mancha. Ceir yr hanes hwn yn gyflawn yng nghyfrol ddiddorol ei wyr, Richard Felstead, No Other Way: Jack Russia and the Spanish Civil War: A Biography (Port Talbot, 1981). Anfonwyd ef adref o Sbaen yn Ionawr 1938 i ymladd am ei sedd fel Cynghorydd. Pan gyrhaeddodd Abertridwr darganfu iddo gael ei ethol yn ddiwrthwynebiad.

Gweithiodd yn ddygn dros gymorth i Sbaen o fewn y Cyngor ac ym Mhwyllgor Cymorth i Sbaen pentref Abertridwr. Yn 1944 apwyntiwyd ef yn rheolwr Neuadd Gweithwyr Abertridwr ac yn 1946/7 ef oedd Cadeirydd Cyngor Dosbarth Trefol Caerffili, ac yn rhinwedd ei swydd bu yn Ynad Heddwch am y flwyddyn.

Yr oedd yn Gymro twymgalon ac yn ddiacon yng nghapel yr Annibynwyr Cymraeg Abertridwr. Disgrifiai ei hun yn un o ddisgyblion T. E. Nicholas (Niclas y Glais), yn sefyll yn y traddodiad Cristnogol-Gomiwnyddol. Chwaraeodd ran amlwg iawn yn gwahodd Eisteddfod Genedlaethol Caerffili yn 1950 ac yna yn trefnu ar ei chyfer. Ef oedd Is-gadeirydd y Pwyllgor Gwaith ac ymfalchïai yn 'Awdl y Glöwr' a gipiodd y Gadair. Dysgodd ddarnau helaeth o awdl y Parchedig Gwilym R. Tilsley ar ei gof. Yr oedd ganddo feddwl uchel o weinidogion ei enwad, a soniai yn gyson am gyfraniad y Parchedig T. H. Griffiths, ysgrifennydd llawn amser Cymdeithas Dydd yr Arglwydd yng Nghymru a fu'n weinidog arno.

Ymddeolodd yn 1966 a threuliodd weddill ei oes yn ffyddlon i'r capel ac yn hybu llenyddiaeth a gweithgareddau'r Blaid Gomiwnyddol yn yr etholaeth. Methodd â chael Ymgeisydd Seneddol Comiwnyddol i etholaeth Caerffili ar ôl Mai 1929 pan safodd J. R. Wilson. Bodlonodd ar y sefyllfa ond ni laesodd ddwylo na cholli ei gred yn ei ddaliadau comiwnyddol. Edmygai yn fawr y canwr Paul Robeson. Clywodd ef yn canu yn Sbaen yn Ionawr 1938 yn Tarazona de la Mancha, a bu yn gwrando arno yn Eisteddfod Glyn Ebwy yn 1958. Ei hoff ffilm oedd Proud Valley oherwydd cysylltiad Robeson â hi.

Priododd yr eildro ym mis Gorffennaf 1957 gyda Elizabeth (gynt Preece) a chafodd gysuron aelwyd gynnes drachefn. Bu farw yn 30 Ionawr 1979 yn Ysbyty'r Glowyr Caerffili, a bu'r angladd yng nghapel Annibynwyr Abertridwr ac yn Amlosgfa Thornhill, Caerdydd. Ymddangosodd ysgrifau coffa amdano yn y Morning Star, South Wales Echo, Western Mail a Rhymney Valley Express.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2011-02-25

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.