ROBERTS, WILLIAM JOHN (1904-1967), gweinidog (Methodist Wesleaidd) ac eciwmenydd

Enw: William John Roberts
Dyddiad geni: 1904
Dyddiad marw: 1967
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (Methodist Wesleaidd) ac eciwmenydd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Alun Roberts

Ganwyd W. J. Roberts 7 Rhagfyr 1904 yn 27 Y Sgwâr, Blaenau Ffestiniog, Meirionnydd, yr hynaf o dri phlentyn William Roberts, chwarelwr, a'i wraig Ellen Jones. Cyhoeddodd ei daid, William Roberts, Maentwrog, yntau'n chwarelwr, a fuasai'n bregethwr lleyg adnabyddus gyda'r Wesleaid, gasgliad o'i bregethau dan y teitl Cyfraith y Ty (1905).

Addysgwyd W. J. (fel y câi ei adnabod trwy ei fywyd) yn ysgol sir Ffestiniog, 1917-22 pan enillodd dystysgrif hyn y Bwrdd Canol Cymreig gyda rhagoriaeth yn Lladin, Cymraeg a daearyddiaeth. Bu'n athro ysgol am ychydig cyn penderfynu yn 1926, pan oedd yn 21 oed, i hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth fethodistaidd, gan ddilyn llwybrau dau ewythr iddo, Thomas Gwilym Roberts ac Evan Roberts. Treuliodd flwyddyn ym Mhorthaethwy yng nghylchdaith Biwmaris, ac yna aeth i Goleg Diwinyddol y Wesleaid yn Handsworth gan raddio'n BA o Brifysgol Birmingham yn 1930.

Dechreuodd ar ei weinidogaeth yng nghapel Bethel, Llanberis lle y bu am flwyddyn, ond oherwydd prinder cyfleoedd yn yr eglwysi Cymraeg ar y pryd, teimlai rheidrwydd i symud i'r achos Saesneg a mynd yn 1931 i Rydaman yng nghylchdaith Llanelli a Chaerfyrddin. Bu am flwyddyn yn St John's, Caer, yn gynorthwyydd i'r Parchg. J. Wardle Stafford, llywydd y Gynhadledd Fethodistaidd ar un adeg, ac yna dreulio 11 mlynedd yn ne-ddwyrain swydd Caerhirfryn, yn nghapel Kersley Mount yng nghylchdaith Bolton, Neuadd Ganol y Methodistiaid ac eglwys Monton yng nghylchdaith Eccles, ac eglwys Brunswick yng nghylchdaith Pendleton. Y mae'r dyddiaduron a gadwodd dros y blynyddoedd hynny yn rhoi syniad da o fywyd llawn ac amrywiol gweinidog Methodistaidd, gydag ambell gipolwg ar ddigwyddiadau cenedlaethol o'i safbwynt ef.

Fel llawer o rai eraill ar y pryd, ystyriai cytundeb Munich 1938 yn galed ar Czechoslovakia ond yn anorfod er mwyn osgoi rhyfel. Ar 3 Medi 1939 cwtogodd ei wasanaeth boreol a hepgor y bregeth fel y gallai aelodau'r gynulleidfa ddychelwyd adref i glywed darllediad y prif weinidog am 11.15. Dangosodd yr un gofal am ei gynulleidfa adeg y blitz ar Fanceinion y flwyddyn ganlynol trwy dorri ei wasanaeth yn Kearsley. Dengys y dyddiaduron ei ddiddordebau hamdden, casglu stampiau (am amser byr) ac yn arbennig, gerdded (ni ddysgodd yrru car byth) ac y mae cyfeiriadau at ei gyfeillgarwch cryf â rhai o gewri Methodistiaeth Cymru megis E. Tegla Davies a D. Tecwyn Evans (y naill a'r llall heb ddysgu gyrru car).

Yn 1943 priododd Maria Beryl Evans, merch David Evans, awdur yr emyn poblogaidd, 'O! ganu bendigedig' (Rhoddodd Tegla iddynt gopi o'i lyfr diweddaraf, Dechrau'r Daith, yn anrheg briodas). Bu Beryl yn gydymaith tra chefnogol a chydymdeimladol iddo ar hyd ei weinidogaeth. Cawsant ddau o blant, mab a merch.

Yn 1947, ac ar ôl derbyn gwahoddiadau o gylchdeithiau mor wasgaredig â Phenfro a Gogledd swydd Efrog, penderfynodd W. J. symud i ganolbarth Lloegr, i Hill Top, West Bromwich, lle yr arhosoddd am dair blynedd cyn dychwelyd, wedi chwarter canrif, i Gaer. Gweinidogaethodd yn Neuadd Ganol y Methodistiaid, City Road, hyd 1957 gan weithredu hefyd yn gaplan Côr Meibion Cestrian, swydd a ddaeth ag ef i gyswllt â rhai o brif unawdwyr y dydd. Daliodd ati i weithio'n galed fel y dengys ei eiriau mewn llythyr at gyfaill sy'n cyfeirio at ei wythnos mor llawn o waith fel na châi gyfle i ddarllen o ddifrif. Gydol ei fywyd bu'n ddarllenwr awchus ac yn gasglwr llyfrau, yn eu plith gopi o argraffiad cyntaf Hymns for the use of Families and on Various Occasions Charles Wesley.

Yn 1957 symudodd i St John's Street lle yr oedd yn weinidog arolygol cylchdaith Grosvenor Park gan ennill bri fel pregethwr, bugail a gweinyddwr. Yr oedd yn brif ysgogydd sefydlu brawdoliaeth Clerigwyr a Gweinidogion Caer er mwyn hyrwyddo undod rhwng yr eglwysi lleol. Er mai siop siarad oedd y cyfarfod cyntaf, teimlai fod dod ag Anglicaniaid a gweinidogion yr eglwysi rhyddion at ei gilydd am y tro cyntaf yn gryn orchest. Yn ystod ei gyfnod yng Nghaer yr oedd W. J. yn amlwg ym mywyd cyhoeddus y ddinas ac yn cynrychioli'r eglwysi rhyddion ar bwyllgor addysg Cyngor y Ddinas. Gwelwyd ei golli gan lawer pan ymadawodd i Bramhall de Manceinion yn 1962, yn arbennig holl aelodau ei eglwysi y byddai'n ymweld â hwy yn gyson. Yr oedd W. J. yn ymwelydd diarhebol ac yn yr oedd yn llawen fod dros 400 o aelodau ganddo yn eglwys Bramhall ond yn anffodus llesteiriwyd ei weinidogaeth yno gan gryn afiechyd er mawr siom i'w gylch eang o gyfeillion. Er iddo ymdrechu i gyflawni ei ddyletswyddau bu farw yn y tresi ar 22 Ebrill 1967 ychydig fisoedd cyn iddo gynllunio i ymddeol yn gynnar i Landrillo-yn-Rhos.

Er iddo dreulio bron y cyfan o'i weinidogaeth yn Lloegr, bu W. J. yn deyrngar i'r achos Cymraeg trwy ei fywyd. Pregethai'n gyson yn y Gymraeg a'r Saesneg yng Nghymru ond ei gyfraniad pennaf oedd yn yr egni a'r weledigaeth a ddug i achos eciwmeniaeth y bu'n lladnerydd drosti erioed. Yn ystod y 1950au ymchwiliodd i gryfder Methodistiaeth yng Nghymru gan gyhoeddi ei gasgliadau yn The Methodist Recorder a mannau eraill a chan bwysleiso'r pwysigrwydd i'r cylchdeithau Cymraeg a Saesneg gydweithio'n nes â'i gilydd. Fel yr ysgrifennodd at W. E. Sangster, dylai Methodistiaeth yng Nghymru feddwl amdani ei hun yn un teulu a thwy hynny gymryd ei lle ochr yn ochr â'r enwadau eraill.

Fel cyd-ysgrifennydd y Pwyllgor Sefydlog dros Fethodistiaeth yng Nghymru, a godwyd yn 1957 i hybu cydweithio rhwng yr achosion Cymraeg a Saesneg, bu'n weithgar yn hyrwyddo sefydlu pwyllgorau ardal trwy Gymru gyda'r bwriad o uno Methodistiaeth er ei fod yn cydnabod y cymerai amser i sylweddoli hyn. Cydnabuwyd ei waith a'i sêl yn 1966 pan wnaed ef yn aelod oes o'r Gymanfa Gymreig, yr hyn a barodd lawenydd mawr iddo. A chofio ymrwymiad W. J. i eciwmeniaeth, yr oedd yn briodol iddo weithredu'n gynullydd y pwyllgor dros Drafodaethau Anglicanaidd a Methodistaidd yng Nghymru yn y 1960au. Elwodd y pwyllgor ar ei wybodaeth eang o gyfraith a chyfundrefn eglwysig yn yr eglwys Anglicanaidd lawn gymaint ag yn ei eglwys ei hun. Cyfeiriodd un o'r ysgrifau coffa iddo fod esgobion o Gymru'n dod i ymweld ag ef yn ei salwch mor fynych â gweinidogion. Adeg ei farw yr oedd W. J. yn dal i weithredu'n un o is-lywyddion Cyngor Eglwysi Cymru ac yr oedd yn briodol fod llywydd y Cyngor, Esgob Bangor, wedi traddodi un o'r anerchiadau yn yr ail wasanaeth angladd ar 27 Ebrill 1967 yng nghapel Methodistaidd Ebeneser, Blaenau Ffestiniog. Wedi'r gwasanaeth claddwyd W. J. Roberts ym mynwent Bethesda yn y dref. Yno hefyd y claddwyd ei wraig yn 1980.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2012-07-27

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.