WILLIAMS, ALBERT CLIFFORD (1905-1987), gwleidydd Llafur

Enw: Albert Clifford Williams
Dyddiad geni: 1905
Dyddiad marw: 1987
Priod: Beatrice Ann Williams (née Garbett)
Rhiant: Sara Jane Williams
Rhiant: Daniel Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd Llafur
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganed ef yn Blaena ar 28 Mehefin 1905, yn un o nifer o blant Daniel Williams (ganwyd c.1869), glöwr lleol, a'i wraig Sara Jane (ganwyd c.1872). Addysgwyd ef mewn ysgolion elfennol lleol ym Mlaena, sir Fynwy, ac yna dechreuodd ar ei yrfa fel glöwr pan nad oedd ond yn 14 oed. Daeth wedyn yn atgyweiriwr mewn pwll glo. Ef oedd cadeirydd cyfrinfa orllewinol Undeb y Glöwyr, 1936-46. Bu hefyd yn gadeirydd Pwyllgor Iechyd a Lles Sir Fynwy a Bwrdd yr Afon Wy, 1945-65.

Ym 1952 dewiswyd ef yn Ynad Heddwch. Bu hefyd yn aelod o Bwyllgor Rheoli Ysbytai Gogledd Sir Fynwy, Gweithdai ar-y-cyd Sir Fynwy ar gyfer y Deillion, ac Awdurdod Dwr Cymru. Bu'n aelod o Gyngor Sir Mynwy, 1946-64, bu'n henadur ym 1964-65, a pharhaodd felly hyd at ad-drefnu llywodraeth leol ym mis Ebrill 1974 pan ddaeth swydd henadur i ben. Ef oedd is-gadeirydd is-bwyllgor y Ganolfan. Dyfarnwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) iddo ym 1957.

Etholwyd ef yn Aelod Seneddol ar gyfer etholaeth Abertyleri, swydd hollol ddiogel i'r Blaid Lafur, mewn is-etholiad yn Ebrill 1965, yn dilyn marwolaeth Llywelyn Williams, yr Aelod Seneddol ar gyfer yr etholaeth honno. Parhaodd i gynrychioli'r etholaeth yn y senedd tan iddo ymddeol o San Steffan ym mis Mehefin 1970. Ei olynydd yno oedd Jeffrey Thomas.

Ar ôl iddo adael y Senedd, gwasanaethodd ar Gyngor Chwaraeon Cymru (yn ddiweddarach Chwaraeon Cymru) o 1972 tan 1975. Daeth hefyd yn aelod o Awdurdod Datblygu Dwr Cenedlaethol Cymru. Roedd ganddo ddiddordeb dwrn mewn gwylio chwaraeon, yn fwyaf arbennig rygbi.

Trigai yn 'Brodawel', Ffordd Abertyleri, Blaena. Priododd ym 1930 â Beatrice Ann, merch Charles Garbett, a bu iddynt un ferch. Bu farw ym 1987.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2011-08-10

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.