WILLIAMS, LLYWELYN (1911 - 1965), gweinidog (A) a gwleidydd

Enw: Llywelyn Williams
Dyddiad geni: 1911
Dyddiad marw: 1965
Priod: Elsie Williams (née Macdonald)
Rhiant: Jessie Williams (née Phillips)
Rhiant: William Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (A) a gwleidydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd yn Llanelli, 22 Gorffennaf 1911, yn un o bedwar plentyn William Williams, glöwr hyd nes i'w iechyd dorri ac iddo dreulio gweddill ei fywyd gweithio yn casglu yswiriant, a'i wraig Jessie (ganwyd Phillips). Magwyd y plant ar aelwyd ddiwylliedig yn 63 Marble Road, a thrwythwyd hwynt yn hawliau crefydd ac addysg, mewn cariad at Gymru a sêl dros ryddid cymdeithasol. Yr oedd Olwen Williams, cyn- brifathrawes ysgol Gymraeg Llanelli, yn chwaer iddo. Bu dylanwad cymdeithas Capel Als (A) yn drwm ar y plant, a diau i bregethu coeth y gweinidog Daniel John Davies arwain dau ohonynt i'r weinidogaeth. Addysgwyd Llywelyn yn ysgol gynradd Stebonheath ac ysgol ramadeg y bechgyn yn Llanelli. Aeth i Goleg y Brifysgol, Abertawe gydag ysgoloriaeth a graddiodd mewn Cymraeg ac athroniaeth yn 1933. Ar ôl cwrs diwinyddol yn y Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin, ordeiniwyd ef yn weinidog ym Methesda, Arfon yn 1936. Ymadawodd yn 1943 i'r Tabernacl, Abertyleri, ac ymhen tair blynedd galwyd ef i olynu Howell Elvet Lewis yn y Tabernacl, King's Cross, Llundain. Yn 1950 etholwyd ef yn yr is-etholiad yn dilyn marwolaeth George Daggar yn A.S. dros Abertyleri, ac enillodd bob etholiad wedyn gyda mwyafrifoedd o dros 20,000. Yn Nhŷ'r Cyffredin cafodd gyfle i droi ei sêl dros gyfiawnder cymdeithasol a heddwch byd i sianelau eang. Parhaodd ei ymroddiad o blaid buddiannau Cymru yr un mor gadarn, a gwnaeth ei areithiau gloyw argraff ddofn ar ei gydaelodau. Bu'n cynrychioli Prydain ar Gyngor Ewrop yn Strassburg yn 1954. Yn 1955 bu ar daith ddarlithio yn America ar bynciau'n cynnwys yr ymgyrch yn erbyn newyn, Cynllun Colombo, y Wladwriaeth Les ym Mhrydain, a Chyngor Ewrop. Yn 1957 dadleuodd dros wahodd Mao Tse Tung a Chou En-Lai i Brydain, ac yn 1958 yr oedd yn un o ddeuddeg A.S. a fu ar daith yn T.U.A. Yn 1963 yr oedd yn llywydd Cymdeithas Hen Bensiynwyr Cymru. Bu'n gadeirydd Grŵp Llafur yr Aelodau Seneddol Cymreig.

Yng nghanol ei brysurdeb cyfrannodd i'r wasg yng Nghymru - Y Wers Gydwladol yn Y Cyfarwyddwr, 1941-42, teyrnged i Hugh Gaitskell yn Barn yn 1963, a Newyddion o'r Senedd i'r Cymro yn 1964-65. Ef oedd awdur Hanes eglwys y Tabernacl, King's Cross, 1847-1947 (1947). Dioddefodd oddi wrth gyfres o ymosodiadau ar ei galon o 1960 ymlaen.

Priododd Elsie, merch yr Arglwydd Macdonald o Waunysgor ar 17 Awst 1938 yn Ashton-in-Makerfield, a bu iddynt fab a merch. Bu farw 4 Chwefror 1965 wedi ewyllysio ei gorff i Ysgol Feddygol Caerdydd ar gyfer ymchwil feddygol a chladdwyd ei weddillion ym mynwent amlosgfa Thornhill, Caerdydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.