Canlyniadau chwilio

1 - 12 of 37 for "Ffagan"

1 - 12 of 37 for "Ffagan"

  • BASSETT, CHRISTOPHER (1753 - 1784), offeiriad Methodistaidd Gymru; penodwyd ef yn gurad Sain Ffagan yn 1778, a bu'n gurad wedyn ym Mhorthceri; casglodd seiat Fethodistaidd at ei gilydd yn y ddau le. Teithiodd a phregethodd yn siroedd y Deheudir ymhlith y Methodistiaid. Gwaethygodd ei iechyd yn 1783 ac aeth i dy ei chwaer ym Mryste i atgyfnerthu; bu farw yno o'r darfodedigaeth 8 Chwefror 1784, a dygwyd ei gorff i'w gladdu ym mynwent S. Athan. Canwyd marwnadau
  • DAVID, Syr TANNATT WILLIAM EDGEWORTH (1858 - 1934), daearegwr Ganwyd 28 Ionawr 1858, yn fab i William David, rheithor Sain Ffagan. O Ysgol Magdalen yn Rhydychen, aeth yn 1876 i'r Coleg Newydd yno, a'i fryd ar urddau eglwysig; yn 1878 enillodd le yn y dosbarth blaenaf yn yr arholiad 'Moderations' yn y clasuron, ond yn herwydd afiechyd bu raid iddo ohirio ei arholiad terfynol, a graddio yn 1881 heb 'anrhydedd.' Yn y cyfamser, yr oedd wedi newid cwrs ei fywyd
  • DAVIES, JOHN (Peirianydd Gwynedd; 1783 - 1855), peiriannydd, saer, gof, gwneuthurwr clociau, bardd a cherddor -weithio ag ef. Erys un peiriant nyddu (tua 1820) o'i waith yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, lle y defnyddir ef yn gyson. Bu farw 20 Medi 1855.
  • DAVIES, Syr LEONARD TWISTON (1894 - 1953), noddwr celfyddyd ac astudiaethau bywyd gwerin Cymru. Yr oedd ei wasanaeth a'i haelioni i Lyfrgell ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn dra nodedig. Bu'n drysorydd y Llyfrgell Genedlaethol ac ef ydoedd ei his-lywydd pan fu farw. Bu'n llywydd yr Amgueddfa Genedlaethol ac yn brif symbylydd sefydlu'r Adran Fywyd Gwerin (1936) a arweiniodd at greu'r Amgueddfa Werin Genedlaethol (1947) yn Sain Ffagan. Yr oedd rhestr ei roddion i'r Llyfrgell a'r Amgueddfa
  • EVANS, WILLIAM (bu farw 1589/90), uchelwr clerigol hefyd yn berson Sain Ffagan yn 1560. Ond yn Llandaf yr oedd yn byw. Bu'n ganghellor esgobaeth Llandaf (nid y cabidwl) o 1550 hyd ei farw, ac o 1558 neu 1559 hyd ei farw yn ganon a thrysorydd yr eglwys gadeiriol. Yr oedd hefyd yn brebendari yn Exeter (nodir hynny ar garreg ei fedd; penodwyd ei olynydd fis Mai 1590), ac efallai hefyd yn Henffordd (ni ddywedir hynny ar ei feddrod, ond yr oedd rhyw
  • HUGHES, MARGARET (Leila Megàne; 1891 - 1960), cantores Megàne (ar awgrym de Reszke) derbyniodd ei hymrwymiad proffesiynol cyntaf, sef cytundeb dwy fl. i ganu Massenet yn yr Opera Comique, Paris. (Y mae'r wisg y canai ynddi yn opera Paris yn yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan.) Yr oedd yn Ffrainc ar ddechrau Rhyfel Byd I, a threuliodd gyfnod yn difyrru milwyr clwyfedig, a thynnu sylw gwleidyddion amlwg, yn eu plith yr Arglwydd Balfour, Bonar Law a Winston
  • JONES, BASSETT (fl. ganol y 17eg ganrif), meddyg ac ysgolhaig Mab Richard Jones, yswain ac ustus heddwch, o Lanmihangel (ar Elai), Morgannwg, a Jane ei wraig, ferch Thomas Bassett, o Frofiscin. Aeth Bassett i Goleg Iesu, Rhydychen, yn 1634, ac yna i Brifysgol Franeker yn yr Iseldiroedd, a mannau eraill ar y Cyfandir, lle bu'n astudio anianeg a chemeg. Dychwelodd adref, ac yn 1648 (blwyddyn brwydr Sain Ffagan) cyhoeddwyd yn Rhydychen ei Lapis chymicus
  • JONES, DANIEL (1757 - 1821), clerigwr Methodistaidd Ganwyd c. 1757, brodor, fe dybir, o Lanboidy, Sir Gaerfyrddin. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1781 a'i drwyddedu'n gurad Pencarreg, eithr curad Llanybydder oedd pan ordeiniwyd ef yn offeiriad yn 1782. Daeth i Radyr, Morgannwg, c. 1785, a bu'n gurad yno weddill ei oes. Priododd, 1792, Joan, merch Edmund Williams, Sain Ffagan. Cefnogai'r Methodistiaid, a phregethai yn eu capeli; deuent hwythau i
  • JONES, DORA HERBERT (1890 - 1974), cantores a gweinyddydd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn 1942, a bu'n Llywydd o 1972 hyd ei marwolaeth. Urddwyd hi â'r MBE yn 1967. Diogelwyd casgliad o'i phapurau yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. Yr oedd Dora Herbert Jones yn arloeswraig ym myd gweinyddiaeth ac o ran hawlio lle i ferched mewn swyddi gweinyddol amrywiol, yn arloeswraig ym myd darlledu, ac yn un o'r cwmni ymroddgar a ddiogelodd ac a ddehonglodd ganeuon
  • JONES, EVAN (Ieuan Buallt; 1850 - 1928), amaethwr, hanesydd lleol, a hynafiaethydd farw cyhoeddwyd (yn Abertawe) Doethineb Llafar, yn bennaf fel y'i clybuwyd yng Nghantref Buallt, o gasgliad Evan Jones. Trefnodd yn ei ewyllys fod rhai o'r pethau a gasglasai yn ystod ei oes i'w trosglwyddo i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Bu farw yn ei gartref, Tynypant, Llanwrtyd, 3 Chwefror 1928. Ceir casgliad helaeth o'i lawysgrifau yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan - rhifau 1793/1-654, 2038/1
  • JONES, Syr EVAN DAVIES (1859 - 1949), barwnig, Pentower, Aber-gwaun, sir Benfro, peiriannydd sifil, arglwydd raglaw sir Benfro, etc. ) yng nghadw yn y Llyfrgell Genedlaethol. Yn 1927 rhoes Prifysgol Cymru radd LL.D. ('er anrhydedd') iddo. Yr oedd hefyd yn ' Officer of the Order of the Nile '. Priododd, (1) 1884, Cecilia Ann Evans, merch Jacob Evans, Sain Ffagan, Sir Forgannwg, a (2) 1914, Lily Ann Railton, merch James Railton, Malpas, sir Fynwy. Bu iddo dri mab (eithr collodd dau o'r meibion eu bywydau yn y Rhyfel Mawr cyntaf) a
  • JONES, JOHN (1786 - 1865), argraffydd a dyfeisiwr Wasg Ruthven yn ôl enw'r dyfeisiwr cyntaf, Alexander Ruthven, a gwnâi ei holl waith ar y gweisg hyn. Dysgodd hefyd sut i lunio teip argraffu, a defnyddiai lawer o'i lythrennau ei hun weddill ei oes. Dyfeisiodd hefyd, tua diwedd ei oes, beiriant torri papur. Y mae'r peiriant hwn ac esiamplau o'i deip yn Amgueddfa Sain Ffagan, ynghyd â llawer o'r lluniau a ddefnyddiwyd yn y baledi; y mae un o'r gweisg