Canlyniadau chwilio

133 - 144 of 218 for "Iau"

133 - 144 of 218 for "Iau"

  • OWEN, CHARLES (bu farw 1746), gweinidog ac athro Ymneilltuol brawd iau i James Owen - am ei dras, gweler yr ysgrif ar hwnnw. Yn 1691-2 yr oedd yn derbyn grantiau i'w gynnal yn academi Bethnal Green, dan Ker; bu wedyn dan addysg ei frawd yng Nghroesoswallt. Yr oedd yn weinidog yn Wrecsam yn 1695 a 1696 beth bynnag, ond ar 13 Ebrill 1697 ymddengys ei enw yn rhestr gweinidogion Lancashire. O 1699 hyd ei farwolaeth, 17 Chwefror 1746, bu'n weinidog
  • OWEN, HENRY (1716 - 1795), clerigwr, meddyg, ac ysgolhaig Hengwrt. Ond Henry Owen a olygodd yr ail arg., 1766, o Mona Antiqua Restaurata Henry Rowlands. Yr oedd yn aelod blaenllaw o'r Cymmrodorion, ac ef a fyddai'n 'golygu' papurau a anfonid i'w darllen o flaen y gymdeithas. Sonnir llawer amdano yn llythyrau'r Morysiaid. Yr oedd yn gymydog ac yn gyfaill i Richard Morris - nid na allai Richard gyfeirio'n ddireidus at ei briodas â llances lawer iawn iau nag ef
  • OWEN, ROBERT (1858 - 1885), athro a bardd yn Abermaw. Nid aeth i Goleg Bangor i baratoi ar gyfer bod yn athro trwyddedig gan iddo golli ei rieni a bod gofal brawd a dwy chwaer - y tri yn iau nag ef - ar ei ysgwyddau. Aeth i Aberystwyth i fod yn is-athro yn ysgol Jasper House ac oddi yno i swydd gyffelyb yn Bourne College, Birmingham. Cafodd y darfodedigaeth afael arno a phenderfynodd fyned i Awstralia i chwilio am atgyfnerthiad corfforol
  • PARRY, BLANCHE (1508? - 1590) ddaliai i fyw yn Allt-yr-ynys yn gyfaill mebyd i Blanche Parry ac yn briod ag Olive Parry o Poston, disgynnydd i frawd iau Harri Ddu o Euas. Arddelid y berthynas hyd yn oed gan William Cecil (Burghley wedyn) - sonia Blanche Parry amdano ef fel 'kinsman' (nid y term penagored 'cousin'), ac ef a ddrafftiodd ei hewyllys hi ac a oedd yn brif ysgutor. Ac yr oedd Fychaniaid a Morganiaid Gwent ac Euas ac
  • PARRY, BLANCHE (1507/8 - 1590), Prif Foneddiges Siambr Gyfrin y Frenhines Elisabeth a Cheidwad Tlysau'r Frenhines Blanche yn ddall tua diwedd ei hoes (Llundain, Palas Lambeth, Papurau Talbot. MS 3198, ff. 552), nid oedd hyn yn gwarafun iddi ymdrin â busnes (fel y dengys ei llythyr ar ran James Parry) ac nid oedd pall ar ei chyneddfau hyd y diwedd. Bu farw Blanche yn ddibriod ddydd Iau, 12 Chwefror 1589/90, yn 82 mlwydd oed, yn fawr ei pharch gan bawb, cryn orchest yn y Llys elisabethaidd. Cyn mis Tachwedd 1578 yr
  • PARRY, JOSEPH (1744 - 1826), peintiwr ac ysgythrwr priododd Elizabeth Smallwood o Macclesfield, ac ym mis Mai 1826 symudodd i Lundain, lle y bu farw ar 15 Medi yr un flwyddyn. Claddwyd ef ym mynwent S. Martin-in-the-Fields. Mab iau Joseph Parry oedd JAMES PARRY (bu farw 1871?), arlunydd. Dangoswyd llawer o'i waith, yn cynnwys golygfeydd o Fanceinion, yn y ddinas honno. Rhagorai fel ysgythrwr a chynhyrchodd lawer o ysgythriadau o'i waith ei hun ac o eiddo
  • PARRY, Syr THOMAS (1904 - 1985), ysgolhaig, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifathro Prifysgol, bardd Ganed ef, yr hynaf o dri brawd, ar 4 Awst 1904 i Richard Edwin Parry, chwarelwr a thyddynnwr, a'i wraig Jane (née Williams) ym Mrynawel, Carmel, Sir Gaernarfon. Priodasai tad Richard Parry deirgwaith: mab iddo o'i briodas gyntaf oedd tad Robert Williams Parry; mab arall iddo, o'i ail briodas, oedd tad T. H. Parry-Williams. Yr oedd gwrthrych yr erthygl hon, ynteu, yn gefnder iau i Williams Parry
  • PAYNE, ELVIRA GWENLLIAN ('Gwen'; g. Hinds) (1917 - 2007), gwleidydd ac actifydd cymunedol Ganwyd Elvira Gwenllian Payne ar 28 Mawrth 1917 yn Stryd Morgan, y Barri, yr hynaf o ddau o blant Leonard Hinds (1887-1942), morwr o Farbados, a'i wraig Gwenllian (g. Lloyd) o'r Barri. Ei brawd iau oedd John Darwin Hinds (1922-1981). Gwasanaethodd ei thad fel taniwr ar longau masnachol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yn nes ymlaen daeth yn löwr. Bu Gwen yn gweithio fel gofalwr yn Llundain, mewn
  • PEARSON, ARTHUR (1897 - 1980), gwleidydd Llafur Trysorydd yr Osgordd ym 1945-51. Dyfarnwyd CBE iddo ym 1949. Ar ôl iddo ddal y swydd o chwip y Blaid Lafur yn ddi-dor am gyfnod o ugain mlynedd, mewn llywodraeth ac yn yr wrthblaid, penderfynodd sefyll i lawr ym mis Hydref 1959, er mwyn rhoi cyfle i wleidydd iau ym mherson Arthur Probert, yr AS ar gyfer Aberdâr, etholaeth lofaol gyfagos. Ar ôl iddo ddychwelyd i'r meinciau cefn, ar 4 Tachwedd 1959 etholwyd
  • PEATE, IORWERTH CYFEILIOG (1901 - 1982), Curadur Amgueddfa Werin Cymru, 1948-1971, ysgolhaig, llenor a bardd Ganwyd 27 Chwefror 1901 yng Nglan-llyn, Llanbryn-Mair yn fab i George Howard ac Elizabeth Peate (née Thomas). Daeth ei frawd hŷn Dafydd Morgan Peate (ganwyd 1898) yn rheolwr banc a phriododd ei chwaer iau Morfudd Ann Mary (ganed 1910) Llefelys Davies, cadeirydd y Bwrdd Marchnata Llaeth ddydd Calan 1942. Bu farw brawd arall, John Howard Peate, yn blentyn ifanc yn 1899. Addysgwyd Iorwerth Peate yn
  • PENNANT, THOMAS (1726 - 1798), naturiaethwr, hynafiaethydd, teithiwr Ganwyd 14 Mehefin 1726, yn y Downing, sir y Fflint, mab David Pennant ac Arabella (gynt Mytton). Daethai ei dad i feddiant o'r Downing yn 1724 ar farwolaeth Thomas Pennant (yr olaf i oroesi o gangen iau o'r teulu), yr hwn a'i cymynroddodd iddo. Cartref cyntefig y Pennantiaid oedd Bychton yn yr un plwyf (Whitford). Y cyntaf i ymsefydlu yn y Downing oedd John Pennant, gor-hendaid y Thomas uchod, a
  • PETTS, RONALD JOHN (1914 - 1991), artist Joy, ond cadwodd gysylltiad â'i frawd iau Peter. Yn ystod y cyfnod hwn cyfarfu â'r arlunydd a'r awdur Brenda Chamberlain (1912-1971) a oedd yn fyfyrwraig yn yr Academi. Fe wnaeth y ddau roi'r gorau i'w hastudiaethau, gan briodi ar 11 Mai 1935 yn Swyddfa Gofrestru Kensington a symud i fyw yn Nhŷ'r Mynydd ger Llanllechid, Gogledd Cymru. Roeddent yn anelu at fod yn hunangynhaliol ac i fyw fel