Canlyniadau chwilio

289 - 300 of 572 for "Morgan"

289 - 300 of 572 for "Morgan"

  • MORGAN, DAVID (1814 - 1883), diwygiwr crefyddol yn 1842 ac ordeiniwyd ef yng nghymdeithasfa Trefin ar 20 Mai 1857. Yn y flwyddyn ganlynol daeth i gysylltiad â Humphrey R. Jones, a oedd newydd ddychwelyd o Unol Daleithiau'r America yn ddwfn o dan ddylanwad diwygiad crefyddol yno, ac a enynasai eisoes fflam diwygiad yng ngogledd Aberteifi. Ymunodd Morgan ag ef, a than ddylanwad y ddau efengylwr ar y dechrau, a Morgan ei hunan ar ôl hynny, wedi i
  • MORGAN, DAVID EIRWYN (1918 - 1982), prifathro coleg a gweinidog (B) Ganwyd David Eirwyn Morgan ar 23 Ebrill 1918 ym Mryn Meurig, Heol Waterloo, Pen-y-groes, sir Gaerfyrddin, yn un o bedwar o blant - tri mab ac un ferch - David a Rachel Morgan. Gweithiai ei dad yn y lofa leol ond yr oedd ef a'i deulu'n mynychu'r oedfaon yn Saron, eglwys y Bedyddwyr Cymraeg yn Llandybïe, ac yno y bedyddiwyd Eirwyn gan y Parchg Richard Lloyd, ac yno ymhen amser y dechreuodd bregethu
  • MORGAN, DAVID JENKINS (1884 - 1949), athro a swyddog amaeth Ganwyd ym Mlaendewi, Llanddewibrefi, Ceredigion, 23 Medi 1884, yn ail blentyn a mab hynaf Rhys Morgan, gweinidog eglwys Bethesda (MC), yn y pentre, a Mary ei wraig (ganwyd Jenkins). Ar ddydd olaf Awst 1887 derbyniwyd ef i'r ysgol fwrdd leol, chwe diwrnod ar ôl ei chwaer a oedd 14 mis yn hŷn nag ef, a bu yno hyd 14 Mai 1897. Agorwyd ysgol sir Tregaron yn neuadd y dre dridiau'n ddiweddarach. Yr
  • MORGAN, DAVID LLOYD (1823 - 1892), meddyg yn y llynges Ganwyd yn Rhosmaen, Llandeilo-fawr, mab David Morgan. Astudiodd ffisigwriaeth yn Llundain a Phrifysgol S. Andrews. Ymunodd â'r llynges yn 1846, a dyrchafwyd ef yn staff-feddyg (surgeon) yn 1854. Gwelodd lawer o droeon hynod ar draethau gorllewin Affrica (1847-9) ac yn y Crimea (1850-6), ac yn China gyda'r fyddin (1857-61). Yn 1862-5 yr oedd yn swyddog meddygol ar H.M.S. Euryalus, arolygwr
  • MORGAN, DAVID THOMAS (c. 1695 - 1746), 'Jacobite' mab Thomas a Dorothy Morgan, y tad yn ail fab William Morgan, Coed-y-gorres, a'r fam yn ferch David Mathew, Llandaf, ac ŵyres Syr Edmund Stradling, S. Donat's. Trwy ei fam yr oedd, felly, yn perthyn i deuluoedd tiriog amlwg Sir Forgannwg; trwy ei dad yr oedd, efallai, yn perthyn i Forganiaid Tredegar. Disgrifir ef 'o Benygraig ' (gerllaw Quakers Yard), ym mhlwyf Merthyr Tydfil, eiddo a etifeddodd
  • MORGAN, DEWI (Dewi Teifi; 1877 - 1971), bardd a newyddiadurwr Ganwyd Dewi Morgan 21 Rhagfyr 1877 ym Mrynderwen, Dôl-y-bont, Ceredigion yn fab i William Morgan (1852-1917) a Jane Jones (1846-1922). Pan oedd yn ddwy oed symudodd y teulu i Garn House ym Mhen-y-garn lle bu ei dad yn cadw siop groser ac yn rhedeg busnes glo a chario nwyddau. Ychydig o addysg ffurfiol a gafodd Dewi: ar ôl cyfnod yn helpu gyda busnes ei rieni aeth i weithio at y Cambrian News yn
  • MORGAN, DYFNALLT (1917 - 1994), bardd, beirniad llenyddol a chyfieithydd Ganwyd Dyfnallt Morgan ym Mhenydarren, Merthyr Tudful ar 24 Mai 1917, yn unig blentyn i Osborne Morgan (1881-1937) a'i wraig Frances Jane (ganwyd Hawes, 1882-1966). Roedd teulu ei dad wedi symud o Geredigion i Ferthyr yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac roedd gwreiddiau teuluol ei fam yn Llanddewi Brefi. Cyfarfu ei rieni yn Llanddewi ar ôl i'w fam symud i'r pentref o Lundain i fyw gyda'i
  • MORGAN, EDWARD (1783 - 1869), clerigwr efengylaidd, cofiannydd a chroniclydd ffeithiau pwysig ynglŷn â'r diwygiad Methodistaidd yng Nghymru Mab ydoedd i David Morgan, Pîl (Pyle), Sir Forgannwg, ac yno, yn Tŷ Tanglwst, y ganed ef, a'i fedyddio 7 Tachwedd 1783. Aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, 1802 (B.A. 1806, M.A. 1811). Derbyniodd ficeriaeth Syston, Leicestershire, yn 1814, ac at hynny cafodd ficeriaeth Ratcliffe, gerllaw, yn 1818. Hwylusir ymchwil i hanes y diwygiad Methodistaidd yng Nghymru o droi ato. Ei arwr mawr a'i gynddelw oedd
  • MORGAN, EDWARD (1817 - 1871), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd ym mhentre Cwmbelan, ger Llanidloes, 20 Medi 1817, mab Edward Morgan, amaethwr a gwneuthurwr gwlanenni. Wedi bod am beth amser yn gynorthwywr mewn siopau yn Llanidloes, aeth i Goleg y Bala yn 1839, ac oddi yno, yn Ionawr 1840, i Ddyffryn Ardudwy i gadw ysgol. Yno y dechreuodd bregethu yn 1841. Dychwelodd i'r Bala yn 1842; bu yn y Dyffryn drachefn o 1843 hyd 1845, ac yn y flwyddyn honno
  • MORGAN, EDWARD (E.T.; 1880 - 1949), chwaraewr rygbi Ganwyd 22 Mai 1880 yn Aber-nant, cwm Cynon, Morgannwg, ac addysgwyd ef yng Ngholeg Crist, Aberhonddu ac Ysbyty Guy, Llundain. Dr. 'Teddy' (felly ' E.T.') Morgan sgoriodd y cais mwyaf hanesyddol yn hanes y gêm yng Nghymru, os nad yr enwocaf erioed. Ef oedd piau'r cais a sicrhaodd fuddugoliaeth o 3-0 i Gymru dros Grysau Duon Seland Newydd yng Nghaerdydd ar 16 Rhagfyr 1905. Nid yn unig yr oedd yn
  • MORGAN, EDWARD (bu farw 1749), ficer - gweler MORGAN, JOHN
  • MORGAN, ELAINE NEVILLE (1920 - 2013), sgriptwraig, newyddiadurwraig, ac awdures Ganwyd Elaine Morgan yn Nhrehopcyn, Pontypridd, ar 7 Tachwedd 1920, yn unig blentyn i William 'Billy' Floyd (1891-1939), pwmpiwr yng nglofa'r Great Western, a'i wraig Olive (g. Neville, 1894-1981). Treuliodd ei phlentyndod yn 54 Telelkebir Road, Trehopcyn, y cartref prysur, aml-genhedlaeth, a rannai ei rhieni gyda'i mam-gu a thad-cu ar ochr ei mam, Frederick a Martha. Roedd y teulu'n gefnogol i'r