Canlyniadau chwilio

301 - 312 of 572 for "Morgan"

301 - 312 of 572 for "Morgan"

  • MORGAN, ELENA PUW (1900 - 1973), nofelydd, awdur straeon byrion a ffuglen i blant Ganwyd Elena Puw Morgan ar 19 Ebrill 1900 yng Nghorwen, Sir Feirionnydd, yn ferch i'r Parch. Lewis Davies (1859-1934), gweinidog gyda'r Annibynwyr, a'i wraig Kate (g. Ellis, 1868-1942). Fel plentyn roedd hi'n llyfrbryf o'r iawn ryw, yn darllen yn eang yn Gymraeg a Saesneg, gan gynnwys awduron clasurol megis Shakespeare, Shelley, a Tennyson. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Merched y Bala, ond oherwydd
  • MORGAN, ELIZABETH (1705 - 1773), garddwraig Ganwyd Elizabeth Morgan yn Amwythig ac fe'i bedyddiwyd yn eglwys St. Chad yno ar 5 Tachwedd 1705. Hi oedd yr ail o bump o blant, ac unig ferch John Davies (1668/9–1732), offeiriad, a'i wraig Honora (g. Sneyd, 1668-1714). Roedd ei thad yn fab i Mutton Davies o deulu Gwysanau yn Sir y Fflint a Llannerch yn Sir Ddinbych. Roedd ei mam yn ferch i Ralph a Frances Sneyd o Keele Hall, Swydd Stafford. Yr
  • MORGAN, ELUNED (1870 - 1938), llenor a gwladychydd ym Mhatagonia Ganwyd ar fwrdd y llong Myfanwy ym Mae Biscay yn ferch i Lewis Jones a'i bedyddio â'r cyfenw 'Morgan.' Magwyd hi yn y 'Wladfa Gymreig' a'i haddysgu yn yr ysgol Gymraeg yno gan R. J. Berwyn a 'Glan Tywi.' Daeth i Gymru yn 1885, a thrachefn yn 1888 pan arhosodd yn ysgol y Dr. Williams yn Nolgellau am ddwy flynedd. Wedi dychwelyd i'r Wladfa cadwodd ysgol breswyl i enethod yn Nhrelew am ddwy flynedd
  • MORGAN, EVAN (1809 - 1853), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur Ganwyd yn 1809, mab Evan Morgan, un o flaenoriaid hen gapel Seion, Caerdydd. Saernïwyr cerrig beddau oedd THOMAS MORGAN (1816 - 1858), ei frawd, ac yntau. Dechreuodd bregethu yn 1830, yr un adeg ag Edward Matthews, cyfaill mawr y teulu. Ordeiniwyd ef yn sasiwn Llangeitho, 1841. Trigodd yng Nghaerdydd ar hyd ei oes, a bu rhyw gyswllt bugeiliol rhyngddo a Seion. Priododd, 1836, Mary Morgan, Clunhir
  • MORGAN, EVAN (1846 - 1920), cerddor
  • MORGAN, EVAN FREDERIC (ail IS-IARLL TREDEGAR), (1893 - 1949), bardd, arlunydd, milwr, a gwleidydd Ganwyd 13 Gorffennaf 1893 yn 33 Cadogan Terrace, Llundain, yn unig fab Courtenay Evan Morgan, 3ydd BARWN TREDEGAR, a'r Is-iarll cyntaf o greadigaeth 1926 a'r Fonesig Katherine Agnes Blanche Carnegie, merch y 9fed Iarll Southesk. Bu farw ei chwaer Gwyneth Erica (ganwyd 5 Ionawr 1895) mewn amgylchiadau sy'n dal yn ddirgelwch yn Rhagfyr 1924: cafwyd hyd i'w chorff yn afon Tawys a chyhoeddwyd dedfryd
  • MORGAN, FRANCES ELIZABETH - gweler HOGGAN, FRANCES ELIZABETH
  • MORGAN, FRANK ARTHUR (1844 - 1907) Ganwyd Frank Arthur Morgan ar 24 Chwefror 1844 yng Nghae Forgan, Llanrhidian, Bro Gwyr, yn drydydd mab Charles Morgan (1796-1857), bargyfreithiwr yn Lincoln's Inn, ffermwr a thirfeddiannwr lleol, a'i wraig Caroline, merch y Parch. John James (1772-1850) a'i wraig gyntaf Jane Gammon o Ben-maen. Roedd y Morganiaid yn fargyfreithwyr hynod lwyddiannus yn Llundain, ac yn berchen ar ystadau yn
  • MORGAN, GEORGE CADOGAN (1754 - 1798), gweinidog ac athro Ariaidd, a gwyddonydd Ganwyd yn 1754 ym Mhenybont-ar-Ogwr, yn ail fab i William Morgan (meddyg) a'i wraig Sarah Price, chwaer yr athronydd Richard Price - mab arall oedd William Morgan, 1750 - 1833. O ysgol ramadeg y Bont-faen aeth yn 1771 i Goleg Iesu, Rhydychen, â'i fryd ar urddau Anglicanaidd; ond newidiodd ei olygiadau diwinyddol, ac aeth i academi Hoxton. Bu'n weinidog yn Norwich (1776-85) a Yarmouth (1785-6
  • MORGAN, GEORGE OSBORNE (1826 - 1897), gwleidydd Mab Morgan Morgan, ficer Conwy o 1838 hyd 1870 (a oedd yn fab i David Morgan, o Lanfihangel-genau'r-glyn, a'i wraig Avarina Richards o deulu Ffos-y-bleiddiaid - gweler o dan Lloyd, Vaughan), a'i briod Fanny Nonnen, merch John Nonnen, Gothenburg, Sweden; ganwyd 8 Mai 1826 yn Gothenburg pan oedd ei dad yn gaplan yno (1821-35). Bu yn ysgolion Friars ac Amwythig, ac yng ngholegau Balliol a Worcester
  • MORGAN, GRIFFITH (Guto Nyth-brân; 1700 - 1737), rhedegydd enwog
  • MORGAN, GWENLLIAN ELIZABETH FANNY (1852 - 1939), hynafiaethydd Ganwyd yn Nefynnog, 9 Ebrill 1852, yn ferch i Philip Morgan (gweler ach y teulu yn Theophilus Jones, History of the County of Brecknock, 3ydd arg., iv, 134-8, a chymharer yr ysgrif ar ' Morgan, Thomas, 1769 - 1851 '), a fu'n gurad parhaol Penpont (1841-64) a Battle gerllaw Aberhonddu (1859-64, ac yn rheithor Llanhamlach o 1864 hyd ei farw yn 1868, pan symudodd hithau i Aberhonddu. Yr oedd ' Miss