Canlyniadau chwilio

3613 - 3624 of 3963 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

3613 - 3624 of 3963 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • WILLIAMS, BENJAMIN (Gwynionydd; 1821 - 1891), clerigwr ac awdur Ganwyd 24 Mehefin 1821 yn Seilach, plwyf Penbryn, Sir Aberteifi; yr oedd yn gefnder i D. Silvan Evans. Annibynnwr oedd ar y cychwyn, eithr ymunodd â'r Eglwys; cafodd gymorth i dderbyn addysg yn Abergwaun, a bu'n feistr un o ysgolion Madam Bevan. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1874 a daeth yn gurad i'w hen noddwr, D. H. Davies, offeiriad Troedyraur ac wedyn yn Nhir-yr-abad; yn ddiweddarach cafodd
  • WILLIAMS, BENJAMIN HAYDN (1902 - 1965), swyddog addysg Mab Benjamin a Margaret Jane Williams; ganwyd yn Rhosllannerchrugog, Dinbych, 9 Hydref 1902. Cafodd ei addysg yn yr ysgol sir, Rhiwabon. Bu'n ddisgybl-athro yn 1921-22; yna aeth yn efrydydd i Brifysgol Lerpwl ac yn 1925 ennill gradd mewn gwyddoniaeth, gydag anrhydedd uchel mewn cemeg. Ym mhen dwy flynedd, graddiodd yn Ph.D. O 1927 hyd 1931, bu'n gwneud gwaith ymchwil gyda'r Adran Scientific and
  • WILLIAMS, BENJAMIN MORRIS (1832 - 1903), cerddor Ganwyd 28 Rhagfyr 1832 yn Penybraich ger chwarel Cae Braich y Cafn, Bethesda, Sir Gaernarfon. Dechreuodd weithio yn y chwarel yn 8 oed, cafodd flwyddyn o ysgol yn 12 oed, ac aeth yn ôl i'r chwarel i weithio. Yn 1853 dechreuodd ddysgu'r grefft o argraffu cerddoriaeth gyda Robert Jones, Bethesda, ac ef a gysododd yr oratorio ' Storm Tiberias ' (' Tanymarian '), a ' Requiem ' (' Tanymarian ') i'r
  • WILLIAMS, BENJAMIN THOMAS (1832 - 1890), bargyfreithiwr ac addysgiaethydd Ganwyd 19 Tachwedd 1832, mab hynaf Thomas Rayson Williams, gweinidog Annibynnol, Merryvale, Arberth, Sir Benfro, a Mira, ei wraig. O 1846 hyd 1851 bu'n efrydydd yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin, lle y troes yn Undodwr. Aeth i Brifysgol Glasgow yn 1851 fel ysgolor Dr. Williams, a graddiodd yn B.A. yn 1853 ac yn M.A. yn 1854. Yno hefyd enillodd y brif wobr mewn rhesymeg a medal arian mewn
  • WILLIAMS, BRANDON MEREDITH RHYS- - gweler RHYS-WILLIAMS, BRANDON MEREDITH
  • WILLIAMS, CATHERINE ANNE - gweler WILLIAMS, HUGH
  • WILLIAMS, CHARLES (1633 - 1720), cymwynaswr Bu mor anffodus a lladd cefnder iddo (Morgan o Benrhos) mewn gornest, â gorfu iddo ffoi o'r wlad. Aeth i Smyrna, a throi at fasnach yno ac mewn gwledydd eraill, megis Rwsia, a chasglodd gyfoeth dirfawr. Llwyddodd John Hanbury o Bont-y-pŵl (gweler dan ' Hanbury ') i rwyddhau'r ffordd iddo i ddychwelyd i Brydain, yn nheyrnasiad William III, ond ymddengys iddo drigiannu yn Llundain, heb dynnu sylw
  • WILLIAMS, CHARLES (1807? - 1877), pennaeth Coleg Iesu, Rhydychen Ganwyd yn y Bontfaen, a'i fedyddio 22 Mehefin 1807, yn drydydd mab William Williams (1765 - 1847), gwr o Ddolgellau a fu am 59 mlynedd yn athro ysgol y Bontfaen. O'r ysgol honno, aeth Charles Williams yn 1823 i Goleg Iesu, Rhydychen, a graddio yn 1827 yn y dosbarth blaenaf yn y clasuron a'r ail mewn mathemateg; bu'n gymrawd o'i goleg o 1829 hyd 1845. Derbyniodd radd M.A. yn 1830, B.D. yn 1837, a
  • WILLIAMS, Syr CHARLES (bu farw 1642), gwleidydd - gweler WILLIAMS, Syr TREVOR
  • WILLIAMS, Syr CHARLES HANBURY (1708 - 1759), ysgrifennwr dychangerddi a llysgennad Ganwyd 8 Rhagfyr 1708, pedwerydd mab y milwriad Major John Hanbury, Pont-y-pŵl. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Eton. Yr oedd yn fab-bedydd i Charles Williams, Caerlleon-ar-Wysg; etifeddodd ganddo ef stad Coldbrook a thiroedd eraill, a swm mawr o arian; a mabwysiadodd y cyfenw ychwanegol Williams. Priododd 1 Gorffennaf 1732 â Frances, merch iarll Coningsbury. Ysgrifennodd Charles Hanbury Williams
  • WILLIAMS, Syr CHARLES JAMES WATKIN (1828 - 1884), aelod seneddol a barnwr Ganwyd 23 Medi 1828, mab hynaf Peter Williams, rheithor Llansannan (Llangar wedi hynny), a'i briod Lydia Sophia, merch James Price, Plas yn Llysfaen, sir Ddinbych. Bu yn ysgol Rhuthyn; cymerodd gwrs meddygol yn University College Hospital, Llundain, a bu'n feddyg yno am ysbaid. Wedi penderfynu myned yn fargyfreithiwr, aeth i S. Mary's Hall, Rhydychen, ond ni bu yno ond am amser byr; yn 1851
  • WILLIAMS, CHRISTMAS PRICE (1881 - 1965), gwleidydd a pheiriannydd Ganwyd 25 Rhagfyr 1881 yn fab i Peter Williams a Mary Price ei wraig, Brymbo Hall, Wrecsam, Sir Ddinbych. Yr oedd ei dad yn gyfarwyddwr ac yn rheolwr Cwmni Dur Brymbo. Addysgwyd ef yn Ysgol Grove Park, Wrecsam, yn yr Wyddgrug a Phrifysgol Victoria, Manceinion, lle graddiodd yn B.Sc. gydag anrhydedd mewn gwyddoniaeth ac yn M.Sc. Enillodd ei fywoliaeth fel peiriannydd yn Sheffield, Warrington a De