Canlyniadau chwilio

3637 - 3648 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

3637 - 3648 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • WILLIAMS, DAVID (Iwan; 1796 - 1823), gweinidog gyda'r Bedyddwyr of baptism. Cyhoeddwyd ei awdl ar ' Cerddoriaeth ' gyda Grisiau Cerdd Arwest (' Ieuan Ddu '). Ddechrau 1822, byrddiodd ef a'r eiddo long yng Nghaerfyrddin i fyned yn weinidog ac ysgolfeistr yn swydd Dyfnaint, eithr gorfododd ystorm aruthr hwynt i lochesu yn Abertawe. Rhoes Joseph Harris ('Gomer') lety i'r teulu, a chadw David Williams i bregethu i'r Saeson a hyfforddi ei fab John yn y clasuron. Bu
  • WILLIAMS, DAVID (1717 - 1792), gweinidog Annibynnol Methodistaidd Ganwyd yn Is-coed, Llandyfaelog, Sir Gaerfyrddin, mab William Dafydd. Brawd iddo oedd Richard William Dafydd, y cynghorwr. Daeth i Forgannwg yn ieuanc yn was i Christopher Bassett, ieu., Aberddawen, a dechreuodd gynghori gyda'r Methodistiaid c. 1742. Nid oes sicrwydd ai ef oedd y David Williams a benodwyd yn gynghorwr preifat yn sasiwn Watford, 1743, ond gwyddys iddo bregethu llawer yn
  • WILLIAMS, DAVID (Alaw Goch; 1809 - 1863), perchennog pyllau glo ac eisteddfodwr Ganwyd 12 Gorffennaf 1809 yn Llwyn Drain, plwyf Ystradowen, Sir Forgannwg. Tua'r flwyddyn 1821 symudodd ei rieni i Aberdâr a bu'r mab yn dilyn galwedigaeth ei dad, sef llifiwr coed, am beth amser. Ymhen ychydig amser, fodd bynnag, aeth David Williams i fyd y glo, a thrwy ei ddycnwch, ei allu, a'i ddyfalbarhad cyrhaeddodd i safle o bwys ym myd y diwydiant glo yn Neheudir Cymru. Yn Ynyscynon
  • WILLIAMS, DAVID (1799 - 1869), Aelod Seneddol - gweler WILLIAMS
  • WILLIAMS, DAVID (1738 - 1816), llenor a phamffledydd gwleidyddol Ganwyd yn 1738 yn Waunwaelod (y Carpenters' Arms yn ddiweddarach), plwyf Eglwysilan, gerllaw Capel Watford, ar ochr heol (nid y briffordd) yn arwain o Gaerffili i Gaerdydd. William David (un o ddychweledigion Howel Harris), a aned yn Llwynybarcud, plwyf Llanharry, oedd ei dad. Cafodd ei addysg mewn ysgol a gedwid yn y gymdogaeth gan David Williams (1709 - 1784). Yn unol â dymuniad a wnaeth ei dad
  • WILLIAMS, DAVID CHRISTMAS (1871 - 1926), cerddor Ganwyd 12 Medi 1871 yn Llanwrtyd, sir Frycheiniog, mab Gruffydd Christmas ac Elizabeth Evans. Yr oedd y fam yn gantores dda, ac etifeddodd y mab y dalent gerddorol, ac erbyn bod yn 14 oed yr oedd wedi cyfansoddi amryw ddarnau cerddorol. Yn 17 oed aeth i Gaerdydd at Joseph Parry am gwrs o addysg gerddorol. Yn 1890 penodwyd ef yn athro cynorthwyol i Parry yng Ngholeg Cerddorol y De, ac yn organydd
  • WILLIAMS, DAVID DAVID (1862 - 1938), gweinidog (MC) ac awdur Ganwyd yng Ngarthlwynog, Croesor, Meirionnydd, mab David a Grace Williams. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Gelli-gaer, Coleg y Bala, ac yng Ngholegau'r Brifysgol yn Aberystwyth a Chaerdydd. Ordeiniwyd ef yn 1891, a bu'n gweinidogaethu ym Mheniel, Ffestiniog (1890-96); Croesoswallt (1896-1906); Moss Side, Manceinion (1906-15); a David St. (wedi hynny Belvidere Road), Lerpwl (1915-38). Priododd, c
  • WILLIAMS, DAVID EWART PARRY - gweler PARRY-WILLIAMS, DAVID EWART
  • WILLIAMS, DAVID JAMES (1897 - 1972), gwleidydd Llafur Ganwyd ef ar Wauncaegurwen ar 3 Chwefror 1897, yn fab i Morgan Williams, glöwr, a Margaretta Jones. Addysgwyd ef yn ysgol elfennol Gwauncaegurwen, dechreuodd weithio mewn pwll glo ym 1911, a bu wedyn yn fyfyriwr yn y Coleg Llafur Canolog yn Llundain, sefydliad Marcsaidd, 1919-21. Bu yn ddi-waith am gyfnod cyn treulio'r flwyddyn 1922-23 yng Ngholeg Ruskin, Rhydychen. Cyhoeddodd y gyfrol bwysig
  • WILLIAMS, DAVID JAMES (1870 - 1951), ysgolfeistr Ganwyd 18 Chwefror 1870 yng Nghaerffili, Morgannwg, yn fab i Thomas Williams glöwr, ac yn un o dri ar ddeg o blant. Er dechrau gweithio'n blentyn yn y pwll glo, dangosodd allu anghyffredin yn gynnar ac yn 1882 enillodd ysgoloriaeth Gelligaer i Ysgol Lewis, Pengam. Yng nghofrestr yr ysgol honno nodir ysgol fwrdd Bargod fel ei ysgol flaenorol a rhoddir cyfeiriad ei dad fel Greenfield Terrace
  • WILLIAMS, DAVID JOHN (1886 - 1950), ysgolfeistr ac awdur Ganwyd yng Nghorris, 22 Awst 1886, yn fab i H. Williams (ap Idris) a Sarah ei wraig. Addysgwyd ef yn ysgol y bwrdd, Corris; ysgol ganolraddol Tywyn; coleg hyfforddi, Hull (1913-15). Dechreuodd ar ei waith fel athro yng Nghorris fel 'Monitor', yna fel disgybl-athro. Symudodd i Newbridge (sir Fynwy) fel is-athro didrwydded (1905-08). Dychwelodd i Feirion fel prifathro didrwydded yn ysgol Cwm
  • WILLIAMS, DAVID JOHN (1885 - 1970), llenor Ganwyd ym Mhen-rhiw, ffermdy ym mhlwyf Llansawel, Sir Gaerfyrddin, 26 Mehefin 1885, yr hynaf o ddau blentyn John a Sarah (ganwyd Morgans) Williams. Symudodd y teulu i Aber-nant yn 1891 ac aeth ef i ysgol Rhydcymerau, 1891-98. Rhwng 1902 ac 1906 bu'n löwr yn Ferndale, y Rhondda; y Betws, Rhydaman a Blaendulais. Ailgydiodd yn ei addysg yn 1906 pan aeth i Ysgol Stephens Llanybydder. Bu'n ddisgybl