Canlyniadau chwilio

3625 - 3636 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

3625 - 3636 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • WILLIAMS, DAFYDD RHYS (Index; 1851 - 1931), llenor a newyddiadurwr Ganwyd 8 Mai 1851 yn Tai Hywel o'r Llwyn, Cefn Coed y Cymer, sir Frycheiniog, mab i borthmon. Yn 13 oed aeth i weithio o dan y ddaear. Dechreuodd gystadlu mewn eisteddfodau, gan ennill ar ddrama yn Aberdâr ac ar bryddest yn Treherbert. Parodd cyfres o erthyglau a ysgrifennodd i'r Gwladgarwr (Aberdâr) ar ' Beirdd a barddoniaeth ' gryn gyffro ymysg y beirdd. Yn 1878 aeth i Lundain lle y parhaodd i
  • WILLIAMS, DANIEL (1643? - 1716), diwinydd Presbyteraidd a chymwynaswr i Ymneilltiaeth Ganwyd yn Wrecsam neu ei chyffiniau, ni wyddys yn iawn pa bryd, nac enwau ei rieni, ond yr oedd ganddo chwaer, Elizabeth (a fu farw 1728) yn briod â lledrwr a thirfeddiannwr yn Wrecsam o'r enw Hugh Roberts. Ni wyddys chwaith ddim am gwrs ei addysg; yr oedd yn bregethwr rheolaidd cyn bod yn 19 oed. Y tu allan i Gymru y bwriodd y cwbl o'i yrfa - y mae'n anodd credu mai ef oedd y ' Daniel Williams
  • WILLIAMS, DANIEL (1878 - 1968), gweinidog (EF) ac awdur Ganwyd 17 Mehefin 1878 yn fab i Richard Williams, ' gweithiwr prin ei geiniogau yng nghreigiau'r Penmaen ', a'i wraig Anne, ym Modnant, Llanfairfechan, Sir Gaernarfon. Addysgwyd ef yn ysgol genedlaethol y pentre, a threuliodd ddwy flynedd yn ysgol Cynffig Davies, Porthaethwy, cyn iddo gael ei dderbyn yn ymgeisydd am y weinidogaeth Wesleaidd yn 1901. Gwasanaethodd am flwyddyn gyngolegol yn
  • WILLIAMS, DANIEL HOWELL (1894 - 1963), aerodynamegydd Ganwyd 27 Mehefin 1894, yn Ffestiniog, Meirionnydd, yn fab i Griffith J. Williams, ysgolfeistr, a'i wraig Mary Helena. Cofrestrwyd ef fel Daniel John ond mabwysiadodd yr enw Howell, cyfenw morwynol ei fam. Yr oedd yn nai i Syr Richard J. Williams (Maer Bangor, 1913-20); addysgwyd ef yn Ysgol Friars, Bangor, ac ym mis Hydref 1912 aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru gydag ysgoloriaeth mynediad
  • WILLIAMS, DANIEL JENKINS (1874 - 1952), gweinidog (MC\/Presb.) a hanesydd achos y MC yn America farw 29 Mai 1952 yn Ysbyty Columbia, Milwaukee, a chladdwyd ef ar 2 Fehefin, wedi gwasanaeth yn eglwys Jerusalem, Wales, Wisconsin yn agos i fan ei eni. Bu iddo un mab, y Brigadydd Robert Hugh Williams, a fu farw yn 1983. Y mae ei dair cyfrol yn gyfraniadau pwysig tuag at hanes y Cymry yn y Taleithiau Unedig : The Welsh of Columbus, Ohio: a study in adjustment and assimilation (1913); The Welsh
  • WILLIAMS, DANIEL POWELL (Pastor Dan; 1882 - 1947), sefydlydd a llywydd cyntaf yr Eglwys Apostolaidd, yr unig Gymro i sefydlu eglwys fyd-eang Ganwyd 5 Mai 1882 yn Garn-foel, tyddyn ger Pen-y-groes yn nyffryn Aman, Sir Gaerfyrddin, yn un o ddeuddeg plentyn William ac Esther Williams. Gan i'r tad golli ei olwg pan nad oedd Daniel ond 10 oed bu raid iddo adael yr ysgol ychydig fisoedd wedyn er mwyn chwyddo peth ar incwm y teulu, ond bychan oedd cyflog wythnos crwtyn o ddryswr o dan ddaear. O feddwl am y gwaith enfawr a gyflawnodd yn ei
  • WILLIAMS, DANIEL THOMAS (Tydfylyn; 1820 - 1876), gweinidog gyda'r Annibynwyr, bardd a cherddor
  • WILLIAMS, DAVID (1702 - 1779), Morafiad Cymraeg cynnar Ganwyd ym mhlwyf Llandwrog (Arfon), 2 Awst 1702. Erbyn 1728 beth bynnag, yr oedd yn Llundain, yn rhwymo llyfrau. Ymunodd ef a'i wraig â'r seiat Forafaidd yn 1739. Bu hi farw 5 Rhagfyr 1766, ac yn niwedd 1767 penderfynodd yntau ddychwelyd i fro ei febyd. Efe a ddug Mrs. Alice Griffith (gweler Griffith, William, 1719 - 1782) i gyswllt â Morafiaeth, ac a barodd i David Mathias gael ei anfon i Wynedd
  • WILLIAMS, DAVID (1877 - 1927), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac athro coleg Ganwyd 4 Mai 1877 yng Nghaergybi, yn fab i Eliezer ac Elizabeth Williams. Darllenasai ei dad (bu farw 1914), brodor o Sir y Fflint, a oedd yn saer coed ac yn flaenor yn ei eglwys, lawer o ddiwinyddiaeth, ac yr oedd ganddo grap ar Roeg. Cadw siop a wnai'r fam (bu farw 1923). Aeth y mab i ysgolion Caergybi, Biwmaris a Chroesoswallt (tan Owen Owen, 1850 - 1920. Yna aeth i goleg y Brifysgol
  • WILLIAMS, DAVID (1793? - 1845), awdur Ganwyd c. 1793 yng Nglandŵr, gerllaw Abertawe. Daeth yn aelod gyda'r Annibynwyr yn y Mynydd-bach. Ymfudodd i Mexico, gan adael Hwlffordd, Sir Benfro, ar 12 Mawrth 1825 a chyrraedd Vera Cruz ar 13 Mai; dysgodd beth Sbaeneg yn ystod y fordaith. Cyhoeddodd Llythyrau Cymro yn Mexico at ei Gyfeillion yn Nglandwr wrth Abertawy … (Abertawy, 1827); cyhoeddwyd dwy ran allan o dair a arfaethid a chafwyd
  • WILLIAMS, DAVID (1779 - 1874) Troedrhiwdalar, gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd 27 Ionawr 1779 yn Nantydderwen, plwyf Llanwrtyd, sir Frycheiniog. Hanoedd o hen linach enwog yn y fro, ac o ochr ei fam o deulu John Penry; cafodd hyfforddiant crefyddol ar aelwyd ei rieni, a bu am ysbaid yn ysgol offeiriad plwyf Llanwrtyd. Derbyniwyd ef yn aelod yn Llanwrtyd gan Isaac Price. Prentisiwyd ef yn grydd. Aeth i Lanymddyfri yn 1796 a Merthyr Tydfil yn 1797, a bu ganddo ran
  • WILLIAMS, DAVID (1709 - 1784), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd yn 1709 yn ail fab i William a Catherine David, Pwll-y-pant (rhwng Caerffili a Llanbradach) - yr oedd y teulu'n dda eu byd. Bu yn academi Caerfyrddin dan Perrott, ac yn 1734 urddwyd ef yn weinidog eglwys (Saesneg) Trinity, Caerdydd. Bechan a marwaidd oedd cynulleidfa Trinity, ond yr oedd David Williams (fel ei ragflaenydd) hefyd yn fugail Annibynwyr gwasgarog plwyf Eglwysilan, a ymgynullai