Canlyniadau chwilio

49 - 60 of 233 for "Gwynedd"

49 - 60 of 233 for "Gwynedd"

  • EVANS, HUGH (Hywel Eryri; 1767 - 1841?), bardd North Wales Chronicle, Corff y Gaingc, Blodau Arfon, Tywysog Cymru, Y Gwladgarwr, etc. Cyhoeddwyd tair neu bedair o gerddi o'i waith - e.e., ' Achwyniad Hywel o'r Yri wrth Wragedd Gwynedd am dderbyniad Morgan Rondl a gwrthodiad Syr John Haidd o'r Gadair Seneddol.' Bu farw ym Mhenygroes rywbryd ar ôl mis Mai 1840.
  • EVANS, MORRIS EDDIE (1890 - 1984), cyfansoddwr ('Pencerdd Gwynedd'). Bu'n organydd capel Edge Lane yn Lerpwl am 36 mlynedd ac arweiniodd Gôr Cymysg Gwalia a Chôr Meibion ATM. Gweithiai ar hyd ei oes fel gwerthwr a gyrrwr gyda chwmni cig y Brodyr Hughes, Aintree. Bu'n byw mewn sawl man yng nghyffiniau Lerpwl a Manceinion ac am gyfnod byr ym Mhrestatyn. Dechreuodd gystadlu'n ifanc ac enillodd nifer dda o wobrau eisteddfodol am emyn-donau, gan gynnwys
  • EVANS, OWEN (1829 - 1920), gweinidog Annibynnol ac awdur Ganwyd 19 Tachwedd 1829 yn Penybontfawr, Sir Drefaldwyn. Hanai o deulu crefyddol iawn - yr oedd yn gâr i Ann Griffiths o ochr ei fam. Bu'n dilyn crefft ffatrïwr yn ifanc. Daeth yn aelod crefyddol yn Llanfyllin pan oedd yn 16 oed. Bu yn yr ysgol gyda ' Ieuan Gwynedd ' am ysbaid ac yn cadw ysgol yn yr un man yn ddiweddarach. Dechreuodd bregethu yn Llanfyllin, a bu'n gweinidogaethu yn Berea, Môn
  • EVANS, WILLIAM (Wil Ifan; 1883 - 1968), gweinidog (A. Saesneg), bardd a llenor yn Gymraeg a Saesneg Eisteddfod Genedlaethol am bryddestau deirgwaith: Y Fenni, 1913 ('Ieuan Gwynedd'); Penbedw, 1917 ('Pwyll pendefig Dyfed'); a Phwllheli, 1925 am ei gân enwocaf, 'Bro fy mebyd'. Beirniadodd droeon yn yr Eisteddfod Genedlaethol a bu'n Archdderwydd Cymru yng Ngorsedd y Beirdd, 1947-50. Yr oedd yn awdur toreithiog yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ymysg ei gyhoeddiadau niferus ceir cyfrolau o gerddi: Dros y nyth (1913
  • EVANS, WILLIAM CHARLES (1911 - 1988), cemegydd a bywydegydd Ganwyd Charles Evans, ym Methel ger Caernarfon, Gwynedd, 1 Hydref 1911, yn drydydd mab o bum plentyn Robert ac Elizabeth Evans; saer maen yn chwarel Dinorwig oedd y tad. Yn dilyn addysg gynradd yn Ysgol Bethel ac uwchradd yn ysgolion 'Central' a gramadeg Caernafon, enillodd Ysgoloriaeth John Hughes i Goleg Brifysgol Cymru Bangor lle y graddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn cemeg yn 1931
  • teulu FITZ WARIN, arglwyddi Whittington, Alderbury, Alveston, Bu'r tiroedd yn Sir Amwythig yn achos anghydfod rhwng y Saeson a'r Cymry hyd gwymp Gwynedd ar law Edward I. Tua diwedd y 12fed ganrif perthynai Maelor Saesneg i Roger de Powys a'i frawd Jonas, ond arglwydd y wlad o gwmpas Whittington oedd FULK FITZ WARIN. Yr oedd gan y Fitz Warin hwn ŵyr o'r un enw ag ef ei hun, a ailfeddiannodd Whittington yn 1204 ar ôl iddo ei ddifreinio dros dro o bob hawl
  • FITZSTEPHEN, ROBERT (bu farw c. 1183), un o goncwerwyr Iwerddon mab Stephen, cwnstabl castell Aberteifi yn 1136, a Nest, merch Rhys ap Tewdwr. Yr oedd yn berchen ar diroedd yng Nghemais a dilynodd ei dad fel cwnstabl Aberteifi. Pan ymosododd Harri II ar deyrnas Owain Gwynedd yng Ngogledd Cymru yn 1157, aeth Robert â llynges i'w gynorthwyo. Fe'i clwyfwyd yn ddrwg yn yr ymladd, ond dihangodd i'r llongau gerllaw. Ymddengys iddo amddiffyn castell Aberteifi dros
  • GILDAS (fl. 6ed ganrif), mynach neu sant Rhufeinig oedd hwnnw, sef Ambrosius Aurelianus (Emrys Wledig oes ddiweddarach), a rhaid iddo gael chwanegu fod ei epil wedi dirywio'n enbyd. Enwir pump o frenhinoedd Prydain ganddo, a dinoetha fywyd llygredig anfad pob un gan arllwys bygythion cosb dragwyddol ar ei ben. Y pwysicaf o'r pump yw Maelgwn Gwynedd. Yn ôl yr Annales Cambriae bu hwnnw farw o'r pla mawr yn 547. Medrir gan hynny amseru'r De Excidio
  • teulu GLYNNE Cangen oedd y teulu hwn o deulu Glyn, Glynllifon, Sir Gaernarfon, y gellir olrhain ei achau yn ôl i Cilmin Droed-ddu, sefydlydd pedwerydd llwyth Gwynedd. Yn 1654 prynodd JOHN GLYNNE (1602 - 1666), ail fab Syr William Glynne, Glynllifon, gastell Penarlâg, y faenol, a'r stad a berthynai iddi. Addysgwyd ef yn Ysgol Westminster, a derbyniwyd ef i Hart Hall, Rhydychen, 9 Tachwedd 1621, ac i Lincoln's
  • GRIFFITH, EDWARD (1832 - 1918) fywyd cymdeithasol yr amserau. Ceir llawer o'i lawysgrifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gan gynnwys ei gasgliad o lawysgrifau Evan Jones ('Ieuan Gwynedd'), David Richards ('Dafydd Ionawr'), a Robert Oliver Rees (gweler N.L.W. Handlist of MSS., i, 232-41). Cymerodd ran amlwg ym mywyd cyhoeddus Sir Feirionnydd a bu'n gadeirydd bwrdd gwarcheidwaid Dolgellau a'r cyngor sir. Gwnaed ef yn ustus heddwch
  • GRIFFITH, ROBERT DAVID (1877 - 1958), cerddor a hanesydd canu cynulleidfaol Cymru cerddorfa, ac yn 1921 ffurfiwyd Cymdeithas Gorawl Bethesda o dan ei arweiniad. Ar ôl symud i Hen Golwyn ef a arweiniai Gymdeithas Gorawl Colwyn a'r Cylch (1929-36). Ymddiddorai hefyd mewn cerddoriaeth gerddorfaol; bu'n aelod selog o gerddorfa Roland Rogers, ac yn weithgar gyda Cherddorfa Gwynedd a Cherddorfa Ieuenctid Morfa Rhianedd. Am gyfnod maith bu galw am ei wasanaeth fel beirniad, arweinydd cymanfa
  • GRIFFITH, WALTER (1819 - 1846), dadleuwr dros Fasnach Rydd Deddfau Ŷd. Penodwyd ef yn siaradwr cyflog yng Ngogledd Cymru dros yr ' Anti-Corn-Law League,' a bu'n cynnal cyfarfodydd yng ngwahanol siroedd Gwynedd; sgrifennai hefyd i'r Dysgedydd ar y pwnc, a chyhoeddodd bamffled, Treth y Bara, yn 1840. Bu farw yn Abergele yn 1846. Dan y ffugenw ' Gwallter Bach,' canodd gryn swm o brydyddiaeth.