Canlyniadau chwilio

49 - 60 of 154 for "Howel"

49 - 60 of 154 for "Howel"

  • HARRY, MILES (1700 - 1776), gweinidog gyda'r Bedyddwyr lythyrau dirifedi i Lundain a lleoedd eraill ym mhlaid y Bedyddwyr. Trwy ei ymdrechion ef, yn bennaf, y cafodd Howel Harris ei ryddhau yn sesiwn Mynwy wedi iddo gael ei gyhuddo o achosi terfysg yn Pontypŵl fis Awst 1739. Cydweithiodd â John Harry a John Phillips i baratoi argraffiad Cymraeg (1725) o Some Discoveries Alleine. Ni chafodd gofiannydd hyd yn hyn, eithr ysgrifennodd ei olynydd yn Penygarn, sef
  • teulu HOLLAND yn bleidiol i achos Owain Glyn Dŵr. Cafodd Robin ddau fab y bydd a fynnom a hwy: HOWEL HOLLAND (a) o'r (3) PENNANT (Pennant Ereithlyn, Eglwys-bach, sir Ddinbych; J. E. Griffiths, op. cit., 24). Mab i hwn, John Holland (siryf Môn yn 1461), a briododd ag Elinor ferch Ithel ap Hywel o'r Berw yn Llanfihangel Ysgeifiog (Môn), ac a ddaeth felly'n hynaif Holandiaid y (4) Berw (J. E. Griffiths, op. cit
  • HOWEL ap GRUFFYDD (bu farw c. 1381) Mab Gruffydd ap Howel (yn disgyn o Collwyn), Bronyfoel, yn nhrefgordd Ystumllyn a phlwyf Ynyscynhaiarn, Eifionydd, ac Angharad ferch Tegwared y Bais Wen. Yr oedd ei nain o ochr ei dad yn ŵyres i Ednyfed Fychan ac yn chwaer i Howel ap Gruffydd (Hywel y Pedolau). Mab iau ydoedd. Enillodd enw iddo'i hun yn rhyfeloedd Edward III yn Ffrainc. Ni ellir, fodd bynnag, gael tystiolaeth i'r traddodiad iddo
  • HOWEL ap GRUFFYDD - gweler HYWEL ap GRUFFYDD
  • HOWEL ap GRUFFYDD (fl. yn ddiweddar yn y 13eg ganrif) Mab Gruffydd ab Ednyfed Fychan. Mewn rhai achau disgrifir ei fam, Gwenllian, fel merch Rhiryd Flaidd; ar gyfrifon amseryddol, fodd bynnag, gellid yn rhwyddach gredu mai yr Howel ab Ifan ap Trahaearn ap Gwgan a enwir mewn achau eraill oedd ei thad. Ynghyd â'i frawd Rhys, tad Syr Gruffydd Llwyd, etifeddodd Howel stadau ei daid yn Deheubarth; yr oedd ei gyfran ef yn cynnwys Llansadwrn, lle yr oedd
  • HOWEL, HARRI (fl. 1637-71), bardd mab Howel ap Sion Ieuan o blwyf Dolgellau, a oedd yntau yn fardd. Yr oedd yn cydoesi â Gruffydd Phylip (gweler Phylipiaid Ardudwy) ac yn canu i'r un teuluoedd ag ef o'r bron. A barnu oddi wrth y deunaw neu fwy o gywyddau a adawodd ar ei ôl bu Harri Howel yn canu i wŷr tiriog yn byw mewn cylch sy'n ymestyn o Fodwrdda yn Llŷn i Gwaenynog a Llwyn Ynn yn nyffryn Clwyd, Nannau a Hafod Dywyll, gerllaw
  • HOWELLS, ELISEUS (1893 - 1969), gweinidog (MC) ac awdur olygydd yr olaf, 1959-63. Cyhoeddodd lyfryn Saesneg ar hanes Eglwys Hermon, Pen-y-bont, yn 1949. Ymddiddorodd am flynyddoedd yn hynafiaid a disgynyddion Howel ac Ann Harris o Drefeca, a cheir ffrwyth ei lafur yn NLW MS 20496C, Ll.G.C.
  • HUGHES, HOWEL HARRIS (1873 - 1956), gweinidog (MC), prifathro'r Coleg Diwinyddol, Aberystwyth athrawiaeth i'r Comisiwn Ad-drefnu ar ôl Rhyfel Byd I, ac ef oedd un o'r pedwar a luniodd y ' Datganiad byr ar ffydd a buchedd Eglwys Bresbyteraidd Cymru '. Cyfrifid ei Esboniad ar lyfr Amos (1924) yn un o'r goreuon o'r gyfres a gyhoeddwyd gan y Cyfundeb. Gwr addfwyn a graslon oedd Howel Harris Hughes, a chofid amdano gan ei wrandawyr a'i ddisgyblion fel sant a phroffwyd.
  • HUGHES, JOHN RICHARD (1828 - 1893), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, nodedig fel efengylydd Ganwyd yn Nhredegar 1828, a magwyd yn Abercarn, Mynwy. Hanoedd o ochr ei dad, Nathan Hughes, o blith y 'Teulu' a gasglasai Howel Harris ato'i hun i Drefeca, ac etifeddodd yntau gryn fesur o angerdd defosiynol a chenhadol ei dras. Cychwynodd ei yrfa fel ysgolfeistr, a bu'n cadw ysgol yn Goginan, ger Aberystwyth. Yno cyflwynodd ei hun i'r weinidogaeth, ac yn 1851, drwy berswâd y Parch. Lewis
  • HYWEL SWRDWAL (fl. 1430-60), bardd honno yn un o'r llawysgrifau ceir ' Howel owrdwal ai cant 1450.' Os yw'r dyddiad hwnnw'n iawn, y mae'r dyddiadau eraill yn cytuno ag ef, ac yr oedd y Dr. John Davies yn agos ati wrth farnu iddo flodeuo rhwng 1430 a 1460. Dywedir yn Y Brython, iii, 137, ar sail llawysgrif a geir yn yr Amgueddfa Brydeinig, mai yn Llanuwchllyn y claddwyd ef. Cyhoeddwyd cynnyrch barddonol Hywel Swrdwal gan ' The Bangor
  • HYWEL YSTORM (neu YSTORYN) (fl. hanner cyntaf y 14eg ganrif), clerwr, neu fardd gogan Ffurf ei enw yn llawysgrif Mostyn 118 (509) yw 'Ystoryn,' ond 'Ystorym' sydd yn y Llyfr Coch, col. 1337, lle ceir uwchben cerdd o'i waith mai ' Howel Ystorym ae cant y ad(d)af eurych.' Priodola G. J. Williams (Traddodiad Llenyddol Morgannwg, 6-8) iddo'r holl ganu gogan dienw sy'n dilyn hyd at ddiwedd col. 1348, a dyna'i sail dros ei ystyried yn gyfoeswr â Chasnodyn - gweler col. 1341, ll. 42. Os
  • IEUAN FYCHAN ap IEUAN ab ADDA (bu farw c. 1458), uchelwr a bardd arglwydd Mostyn a T. A. Glenn iddo gael ei addysg yn abaty Valle Crucis ac, efallai, yn un o'r ddwy brifysgol yn Lloegr. Bu'n ysgwier yng ngwasanaeth Thomas Fitz Alan, iarll Arundel ac arglwydd y Waun (a Nanheudwy); bu hefyd yn ymladd yn Ffrainc. Fe'i dilynwyd ym Mostyn c. 1457 neu 1458 gan ei fab Howel ap Ieuan, tad Richard ap Howel; gweler yr erthygl ar Mostyn (Mostyn).