Canlyniadau chwilio

61 - 72 of 154 for "Howel"

61 - 72 of 154 for "Howel"

  • INGRAM, JAMES (bu farw 1788), cynghorwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a gweinidog gyda'r Annibynwyr wedyn ni wyddys pa bryd y ganwyd ef, ond ei gartref oedd Cwm Brith ym mhlwyf Cefn-llys, sir Faesyfed (Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, xxxv, 47). Daeth yn llencyn dan ddylanwad Howel Harris, ac ym mis Tachwedd 1742 (Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, xxxv, 24) yn Errwd, cytunwyd iddo fod yn glerc a chydymaith i Harris ar ei deithiau; efe, ar ôl 1743, a gadwai
  • JAMES, THOMAS (bu farw 1751), cynghorwr bore gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ar lannau Gwy; gwelir rhai o'i adroddiadau arnynt yn Meth. Cymru, i, 165; iii, 315, 331. Cyfeiria Howel Harris ato'n fynych yn ei ddyddlyfrau, ac y mae yng nghasgliad Trefeca (Ll.G.C.) 10 o lythyrau oddi wrth Thomas James at Harris, heblaw un at Ann Williams (Harris) ac un at George Whitefield, a 17 o lythyrau gan Harris at Thomas James, heblaw un gan Ann Williams ato; ymestyn yr ohebiaeth o fis
  • JENKINS, HERBERT (1721 - 1772), cynghorwr bore gyda'r Methodistiaid, a gweinidog Annibynnol wedyn ef i'r mudiad Methodistaidd, a thybir iddo ddechrau cynghori yn 1740. Esgynnodd yn gyflym i fri fel cynghorwr, a'i enw ef sy'n flaenaf ar y rhestr o 'gynghorwyr cyhoedd' a awdurdodwyd gan sasiwn Watford yn Ionawr 1743. Ni phennwyd cylch neilltuol yng Nghymru iddo, ond yr oedd i fod at alwad Howel Harris ac i gydweithio â'r Methodistiaid Seisnig. Yn wir, serch ei fod wedi pregethu 'n dderbyniol iawn
  • JOHNS, DAVID Llanfair Dyffryn Clwyd, ficer Gwr o Feirion. Yn B.M. MS. 9817, mewn llythyr, geilw ei hun 'David Johns al's ap John ap Hugh ap Howel,' ac yr oedd 'Howel ap Jenkyn o Ynys y Maengwyn,' gwr y bu Tudur Aled yn ei foli, yn hendaid iddo. Urddwyd ' David ap John' yn ddiacon ar 1 Tachwedd 1569, ac yn offeiriad (' David ap John, alias Johns ') ar y Nadolig 1570. Fe'i penodwyd ('collated') yn offeiriad Llanfair Dyffryn Clwyd ar 22 Medi
  • JONES, CAIN, almanaciwr Mab John Edwards ('Sion y Potiau'). Ni wyddys ddyddiad ei eni, ond bedyddiwyd ei frawd Abel, a fu'n weinidog gyda'r Bedyddwyr ym Merthyr Tydfil, yn Llansantffraid Glyn Ceiriog, 21 Rhagfyr 1740, a theg yw casglu fod Cain yn hŷn nag Abel. Ar farwolaeth Gwilym Howel, yn 1775, ymgymerodd â golygu'r almanac Tymmhorol, ac wybrennol Newyddion. Bu'n gyfrifol am 20 rhifyn a gyhoeddwyd gan Eddowes yn
  • JONES, DAVID (c. 1630 - 1704?), ficer Llanbadarnfawr yn 1658, a'i droi allan yn 1662. Bu fyw yn ddigon hir yn y Coedmor, Pencarreg, i'r enw hwnnw lynu wrtho. Cafodd drwydded gyffredinol i bregethu, 28 Hydref 1672. Enwir ef yn rhestr Henry Maurice, 1675, fel unig weinidog eglwys Sir Aberteifi. Ysgrifennai Howel Harris yn Llangeitho, 28 Mawrth 1743, iddo gael ' much sweetness in hearing a farewell sermon of one David Jones, 1691, being turned out
  • JONES, DAVID (1741 - 1792), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, a llenor Ganwyd yn Ynys-domlyd, Cwmaman (Caerfyrddin); ond aeth i sir Fynwy i ddilyn ei grefft fel teiliwr. Argyhoeddwyd ef dan bregethu Howel Harris; ac ar hyd ei oes wedyn bu sawr Methodistiaeth yn drwm arno, serch mai â'r Bedyddwyr, ym Mhen-y-garn, yr ymaelododd. Dechreuodd bregethu, ac yn 1773 urddwyd ef yn gynorthwywr i Miles Harri fel gweinidog; fel 'Dafydd Jones o Bontypŵl' yr adwaenir ef orau. Yr
  • JONES, EDMUND (1702 - 1793), pregethwr Annibynnol ac awdur Ganwyd ym mhlwyf Aberystruth, sir Fynwy, 1 Ebrill 1702, mab John a Catherine Lewis, Penllwyn, tyddyn yn ymyl gorsaf ffordd haearn Nantyglo (yn awr), y rhieni yn aelodau yn eglwys Annibynnol Penmaen. Cafodd ychydig addysg o dan Howel Prosser, curad Aberystruth. Dechreuodd bregethu yn 1722 bu'n cynorthwyo gweinidog Penmaen, a chafodd ei ordeinio yno yn 1734. Yn 1727 a 1728 bu dadlau cyhoeddus poeth
  • JONES, LEWIS (1702? - 1772), gweinidog gyda'r Annibynwyr cael ei ordeinio yn Llanedi - nid annaturiol fyddai casglu hefyd mai yn y cylch hwnnw y ganed ef. Bu am flynyddoedd lawer yn llwyddiannus iawn ym Mhen-y-bont. Yr oedd yn bregethwr tanllyd a phoblogaidd, yn Galfin pybyr, ac yn un o'r fintai o Annibynwyr (fel ei gyfaill Edmund Jones, a sonia amdano yn ei lythyrau a'i ddyddlyfrau) a gydweithiai â Howel Harris ar ddechrau'r mudiad Methodistaidd - y mae
  • JONES, MORGAN HUGH (1873 - 1930), hanesydd, a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd gedwid gynt (yn ddiofal i'w ryfeddu) yn Nhrefeca. Ond bodlonodd ef i gopïo, i restru, i gasglu enwau a dyddiadau a mân ffeithiau; ac yr oedd ei wastadrwydd, ei drefnusrwydd, ei fanylder, ei amynedd diderfyn, yn ei gymhwyso bron yn wyrthiol at y gwaith. Y mae ei restr o'r llythyrau, ei Itinerary fanwl o symudiadau Howel Harris, ei gyfraniadau i lyfryddiaeth Methodistiaeth, wedi arbed amser dirfawr, a
  • JONES, ROBERT (1706? - 1742) castell Ffonmon,, bonheddwr tiriog , Gwlad-yr-haf; bu iddynt bump o blant, un bachgen a phedair merch. O bryd i bryd croesawodd Howel Harris a Charles Wesley i gastell Ffonmon, ond gan ei fod o blaid Arminiaeth, daeth yn gyfaill cadarn ac yn ddilynwr gweithgar i Wesley, gan arloesi'r ffordd iddo i bregethu mewn nifer o eglwysi Bro Morgannwg. Bu farw 8 Mehefin 1742, a chladdwyd ef ym Mhenmarc, Morgannwg.
  • JONES, THEOPHILUS (1759 - 1812), hanesydd sir Frycheiniog siroedd Cymru; gwaith chwilotwr dyfal a manwl. Y mae rhagfarnau'r awdur yn rhy amlwg i beri trafferth - ei wrth-Babyddiaeth, ei wrth-Ymneilltuaeth, ei wrth-Fethodistiaeth (eto noder yr ysgrif ar Howel Harris, 121-5 o'r gyfrol goffa uchod, nad yw'n gwbl angharedig), a'r elfen ryddieithol ynddo a'i dallai i ragoriaethau Henry Vaughan. Cyhoeddwyd 2il arg., gyda rhai chwanegiadau, gan Edwin Davies yn 1898