Canlyniadau chwilio

685 - 696 of 1037 for "Ellis Owen"

685 - 696 of 1037 for "Ellis Owen"

  • OWEN, OWEN GRIFFITH (Alafon; 1847 - 1916), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a bardd hiwmor hwnnw arni. Golygodd ddetholiad o weithiau llenyddol W. R. Jones ('Goleufryn') yn 1904. O 1913 hyd ei farw bu'n golygu 'r Drysorfa. Dau lyfr a gyhoeddodd, Cathlau Bore a Nawn, cyfrol o farddoniaeth, yn 1912, a Ceinion y Gynghanedd, ysgrifau, yn 1915. Ni bu yn briod. Bu farw 8 Chwefror 1916, a chladdwyd ym mynwent Bryn'rodyn, Arfon. Brawd iddo oedd WILLIAM GRIFFITH OWEN ('Llifon '; 1857 - 25 Medi
  • OWEN, OWEN JOHN (1867 - 1960) y Fenni, argraffydd a chyhoeddwr, arweinydd corawl ac arweinydd eisteddfodol ysgrifennydd. Yn y Fenni ymaelododd yng nghapel yr Annibynwyr Castle St., a daeth yn ddiacon ac yn arweinydd y gân. Yn 1897 prynodd ef a'i frawd, Edwin Vaughan Owen (bu farw 22 Hydref 1950), y Minerva Press, a daeth eu swyddfa yn Neville St. yn fan cyfarfod i Gymry lleol. Ymhlith y llyfrau Cymraeg a gyhoeddwyd gan y Brodyr Owen y mae cofiant eu tad (1907) a gweithiau Eluned Morgan : Dringo'r Andes (1904
  • OWEN, PEGGY - gweler OWEN, MARGARET
  • OWEN, RICHARD (y diwygiwr; 1839 - 1887), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd yn 1839, mab John a Mary Owen, Ystum Werddon, Llangristiolus, Môn. Oherwydd marw ei dad pan oedd Richard yn 11 oed a cholli'r brawd hynaf ymhen tua blwyddyn, bylchog fu cwrs ysgol y bachgen. Pan amlygodd awydd i fyned i'r weinidogaeth teimlai'r arweinwyr fod cryn lawer o waith paratoi arno. Fel y tyfai i fyny gofynnai eglwys fach Cana ar gwr yr ardal am ei gymorth, a daeth yntau i deimlo
  • OWEN, RICHARD (fl. 1552) Cymro a wnaeth gyfieithiad Cymraeg o De Institutione Feminae Christianae, sef un o weithiau mwyaf adnabyddus Juan Luis Vives (ganwyd 1492 yn Valencia, Sbaen), un o feddylwyr ac ysgrifenwyr pennaf ei oes ar gwestiwn addysg. Ni wyddys pwy oedd Richard Owen eithr fe'i cynhwysir yma fel enghraifft o lawer o Gymry yng nghyfnod y Tuduriaid a gymerai ddiddordeb yn hanes a llenyddiaeth Sbaen. Ni
  • OWEN, RICHARD - gweler OWEN, RICHARD JONES
  • OWEN, RICHARD GRIFFITH (Pencerdd Llyfnwy; 1869 - 1930) Ganwyd 1 Ebrill 1869 ym Mhenyryrfa, Talysarn, Sir Gaernarfon, mab Hugh a Mary Owen, Brynycoed, Talsarn. Cafodd ei wersi cerddorol cyntaf gan ei dad. Dysgodd chwarae'r sielo a'r clarinet, ac ysgrifennu i'r gerddorfa. Trefnodd i'r gerddorfa am flynyddoedd ddarnau cerddorol cymanfaoedd canu sirol y Methodistiaid Calfinaidd a'r Annibynwyr yn Arfon a rhai yn y Deheudir ynghyda gŵyl gerddorol Eryri
  • OWEN, RICHARD JONES (Glaslyn; 1831 - 1909), bardd a llenor Fe'i adnabyddir gan amlaf fel Richard Owen. Ganwyd 13 Ebrill 1831 yn Llofft y Tŷ Llaeth, y Parc, ym mhlwyf Llanfrothen, Sir Feirionnydd. Enwau ei rieni oedd John ac Elizabeth Owen. Ychydig o addysg fore a gafodd. Ar ôl cyfnod fel gwas bach yn Ynysfor, aeth i weithio i chwarelau Ffestiniog yn 14 oed. Priododd Elin Jones o Feddgelert, a chartrefodd y ddau ym Meddgelert, lle y ganwyd iddynt ddau fab
  • OWEN, RICHARD MORGAN (1877 - 1932), chwaraewr pêl droed (Rygbi), fel hanerwr mewnol
  • OWEN, ROBERT (1858 - 1885), athro a bardd Ganwyd 30 Mawrth 1858 yn ffermdy bychan Tai Croesion, heb fod ymhell o eglwys Llanaber, Sir Feirionnydd, mab Gruffydd Owen, badwr a ffermwr, a Margaret ei wraig. Casglwyd manylion ei yrfa a chyhoeddwyd rhai o'i ganeuon gan Syr Owen M. Edwards yn 1904 yn un o gyfrolau'r gyfres o lyfrau glas sydd yn unffurf â llyfrau ' Cyfres y Fil; o'r gwaith hwnnw y cymerwyd y manylion a grynhoir yma. Pan oedd y
  • OWEN, ROBERT (1820 - 1902), clerigwr 'Anglo-Catholig' Ganwyd yn 1820 yn drydydd mab i David Owen, Dolgellau; aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, 22 Tachwedd 1838, 'yn 18 oed'; graddiodd yn 1842 (B.D. 1852); bu'n gymrawd o'i goleg, 1845-64, a llanwodd amryw swyddau yno; a bu'n arholwr i'r brifysgol, yn y gyfraith, yn 1859. Urddwyd ef gan Bethell, esgob Bangor, yn 1843, ond ni fynnai unrhyw fywoliaeth eglwysig. Yr oedd yn uchel-Eglwyswr pendant iawn, a
  • OWEN, ROBERT (1834 - 1899) Pennal, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a llenor Ganwyd yn 1834; yr oedd yn fab i Robert Owen, Neuadd Ddu, Blaenau Ffestiniog, a'i fam yn ferch Tyddyn Llwyn, Llanfrothen. Wedi iddo fod yng Ngholeg y Bala (1857-61) bu ym Mhrifysgol Glasgow ar bwys ysgoloriaeth y Dr. Williams, a derbyniodd ei radd yno ym 1865. Bu'n fugail eglwysi Pennal a Maethlon 1865-99. Yr oedd yn llenor a hanesydd da, a daeth o'i law amryw gyfrolau megis Hanes Methodistiaeth