Canlyniadau chwilio

709 - 720 of 1038 for "Ellis Owen"

709 - 720 of 1038 for "Ellis Owen"

  • OWEN, WILLIAM (1785 - 1864), hynafiaethydd Ganwyd 1785 ym Miwmares, a bu'n ddisgybl yn yr ysgol ramadeg yno. Gwasnaethodd fel môr-filwr yn y rhyfel yn erbyn Napoleon. O 1824 ymlaen cysylltir ei enw â thref Caernarfon, lle yr adwaenid ef fel William Owen ' Y Pab.' Yn ôl ei dystiolaeth ef ei hun, derbyniodd y llysenw hwn mewn canlyniad i ryw bamffled a gyhoeddodd yn 1829 yn amddiffyn y safiad a wnaeth ardalydd Môn yn Nhŷr Arglwyddi dros
  • OWEN, WILLIAM (Philotheoros; 1789 - 1841), pregethwr gyda'r Bedyddwyr, ysgolfeistr, ac almanaciwr
  • OWEN, WILLIAM (Gwilym Meudwy, Gwilym Glan Llwchwr; 1841 - 1902), bardd cocos a chrwydryn Ganwyd yn Aber Cenfi, plwyf Llandybïe, Caerfyddin, 23 Gorffennaf 1841 yn fab i William a Sarah Owen. Hanai'r teulu o Faldwyn a bu'r tad yn wehydd yng Nghil-y-cwm, Llanwrda a Llanymddyfri cyn symud i weithfa wlân Cwmllwchwr yn 1836. Yn ôl Watcyn Wyn (Y Diwygiwr, 1902, t. 262) yr oedd William Owen yn or-ŵyr i John Owen, Machynlleth, awdur y gerdd hir Troedigaeth Atheos. Prentisiwyd Gwilym Meudwy i
  • OWEN, WILLIAM (1813 - 1893) Prysgol,, cerddor Ganwyd 12? Rhagfyr 1813 mewn tŷ (lle y saif capel y M.C. heddiw) yn Lôn-popty, Bangor, mab William ac Ellen Owen. Chwarelwr oedd y tad yn chwarel Cae Braichycafn, Bethesda. Pan oedd tua blwydd oed, symudodd ei rieni i'r Tŷ Hen (bellach dan domen y chwarel) yn ardal Bethesda, ac yn 10 oed dechreuodd y mab weithio yn y chwarel. Symudasant wedyn (ac yntau'n 16) i Cae'r sgubor-wen - tyddyn a ddaeth
  • OWEN, WILLIAM (1830 - 1865), cerddor Ganwyd 11 Mai 1830 yn Nhremadog, Sir Gaernarfon, mab William a Beti Owen. Cafodd ei addysg yn Ysgol Frutanaidd Pont-ynys-galch, Porthmadog, ac wedi hynny o dan Owen Griffith, Garn Dolbenmaen. Wedi marw ei dad bu raid iddo gynorthwyo ei frawd i gario ymlaen fasnach goed ei dad. Dechreuodd astudio cerddoriaeth yn ieuanc, a chafodd wersi ar ganu'r organ gan Mrs. Coventry (nith i'r iarll Coventry) a
  • OWEN, WILLIAM (Gwilym Ddu Glan Hafren; 1788 - 1838)
  • OWEN, WILLIAM (1624 - 1677) - gweler OWEN, Syr JOHN
  • OWEN, Syr WILLIAM (1607 - 1670), tirfeddiannwr - gweler OWEN, Syr JOHN
  • OWEN, WILLIAM DAVID (1874 - 1925), cyfreithiwr a newyddiadurwr Ganwyd 21 Hydref 1874 yn Nhŷ Franan, Bodedern, sir Fôn, yn fab i William a Jane Owen. Bu'n ddisgybl-athro yn ysgol y pentref, ac yn ddiweddarach yn Y Garth, Bangor (tan L. D. Jones). Bu hefyd yn fyfyriwr yng ngholeg Normal Bangor. Wedi treulio ysbaid fel athro ysgol, trodd at newyddiaduriaeth. Wedi hyn cafodd ei wneud yn fargyfreithiwr, ac yn olaf dychwelodd i sir Fôn fel cyfreithiwr yn Rhosneigr
  • OWEN, WILLIAM GRIFFITH (1857 - 1922), gweinidog gyda'r Bedyddwyr - gweler OWEN, OWEN GRIFFITH
  • OWEN, WILLIAM HENRY (1845? - 1868), organydd - gweler OWEN, JOHN
  • OWEN, WILLIAM HUGH (1886 - 1957), gwas sifil Ganwyd 16 Chwefror 1886 yn fab i Thomas Owen, Caergybi, Môn. Ymunodd ag adran forwrol y London and North Western Railway yn 1906 cyn dod yn un o staff personol David Lloyd George a chyflawni nifer o genadaethau pwysig ar ei ran. Ar ddechrau Rhyfel Byd I ymunodd â'r Peirianwyr Brenhinol a mynd i Ganada yn 1917 a chynrychioli'r Swyddfa Ryfel yno fel cyfarwyddwr camlesi a dociau. Yr oedd yn gyfrifol