Canlyniadau chwilio

697 - 708 of 1037 for "Ellis Owen"

697 - 708 of 1037 for "Ellis Owen"

  • OWEN, ROBERT (1771 - 1858), Sosialydd Utopaidd Ganwyd yn y Drenewydd, Sir Drefaldwyn, 14 Mai 1771, mab Robert Owen, cyfrwywr ac 'ironmonger,' a'i wraig, merch amaethwr lleol o'r enw Williams. Ychydig o addysg ffurfiol a gafodd gan iddo adael cartref yn 10 oed i gael ei brentisio yn Stamford, sir Lincoln, gyda gwerthwr dillad, James McGuffog, gŵr o'r Alban. Ar ôl bod am gyfnod byr yn gynorthwywr i ddilledydd yn Llundain symudodd i Fanceinion
  • OWEN, ROBERT (Eryron Gwyllt Walia; 1803 - 1870), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a bardd Ganwyd 3 Ebrill 1803, yn Ffridd-bala-deulyn, yn agos i Dalsarn, Dyffryn Nantlle, Sir Gaernarfon, yn fab i Griffith Owen, brodor o'r Waunfawr, ac Anne Owen, gynt Roberts, merch y Ffridd a chwaer y pregethwyr Robert Roberts, Clynnog, a John Roberts, Llangwm. Aeth ei rhieni i fyw i Gaernarfon yn fuan wedi ei eni ef, ac yno y'i maged. Derbyniodd addysg well na'r cyffredin yn ysgol y Parch. Evan
  • OWEN, ROBERT (1885 - 1962), hanesydd, llyfrbryf ac achyddwr Ganwyd ym Mhen-y-parc, (Twllwenci ar lafar), Llanfrothen, Meirionnydd, 8 Mai 1885 [yn fab i Jane Owen yn ôl NLW MS 19295B], a'i fagu gan ei nain, Ann Owen, merch i wehydd o Aberffraw, Môn. Gadawodd ysgol elfennol Llanfrothen yn 13 oed i fynd yn was bach ar fferm Plas Brondanw. Bu'n gweini ar ffermydd yn yr ardal am dair blynedd cyn cael swydd yn glerc yn chwarel Parc a Chroesor. Treuliodd 30
  • OWEN, ROBERT (bu farw 1685), Crynwr Ŵyr oedd i Robert Owen o Ddolserau, Dolgellau, cyfreithiwr yn Llys y Goror yn Llwydlo a mab i'r ' barwn ' Lewis Owen. Yn y Rhyfel Cartrefol, safodd gyda'r Senedd, ac fel ustus heddwch triniodd y Breniniaethwyr yn bur llym; awgryma llythyr (Gweithiau Morgan Llwyd, ii, 291-2) gan John Jones o Faes-y-garnedd at Forgan Llwyd yn 1651 fod Owen yn fyr o ' discretion and Christian prudence,' a bod perygl
  • OWEN, Syr ROBERT (1658 - 1698), gwleidydd - gweler OWEN, Syr JOHN
  • OWEN, ROBERT LLUGWY (1836 - 1906), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, athro, ac awdur Ganwyd ym Metws-y-coed ym mis Hydref 1836, yn fab i Joseph Owen. O Ysgol Frutanaidd Llanrwst aeth yn 14 oed i weithio mewn chwarel yn Ffestiniog. Dechreuodd bregethu (yng Nghapel Curig) yn 1857; aeth i ysgol 'Eben Fardd' yng Nghlynnog ac oddi yno i ysgol yn Nulyn - bu'n athro cynorthwyol yn honno. Bu yng Ngholeg y Bala o 1860 hyd 1863, ac ymaelododd ym Mhrifysgol Llundain. Galwyd ef yn 1863 i
  • OWEN, THOMAS (1748 - 1812), clerigwr a chyfieithydd bedyddiwyd 3 Medi 1748, mab Thomas a Margaret Owen, Rhiwlas, ym mhentre Pentraeth, Môn. Ar 20 Mawrth 1767 ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, gan raddio yn B.A. yn 1770. Yn gynnar yn 1771, geilw ei hun yn ddirprwy i lyfrgellydd Bodley. Urddwyd ef yn ddiacon yn Ordeiniad y Drindod, 1771, gan esgob Rhydychen ar lythyr gollyngdod oddi wrth esgob Bangor, gyda hawl i guradiaeth Llanddeusant ym Môn
  • OWEN, THOMAS ELLIS (1764 - 1814), clerigwr Ganwyd yng Nghonwy 5 Rhagfyr 1764, ond nis bedyddiwyd cyn 25 Mawrth 1765; mab i William Owen, dilledydd a threthgasglydd, a'i wraig Elizabeth Ellis, Glan-y-wern, Mochdre, ferch John Ellis, atwrnai. O ysgol Westminster aeth yn 1785 i Goleg Eglwys Crist, Rhydychen; graddiodd yn 1789. Penododd ei goleg ef yn 1790 yn ficer South Stoke (swydd Rhydychen), ond ar 10 Rhagfyr 1794 cafodd reithoraeth
  • OWEN, WILLIAM (c. 1486 - 1574), cyfreithiwr mab Rhys ab Owen o Henllys, Sir Benfro, a Jane, merch Owen Ellyott o Earwere yn yr un sir; tad George Owen o Henllys. Yr oedd yn gefnder agos i Syr Thomas Elyot. Ar ôl pedair blynedd ar bymtheg o gyfreithio llwyddodd i brofi ei hawl i farwniaeth Cemais yn Sir Benfro. Yr oedd yn aelod o'r Middle Temple, ac yn cyfranogi o'r un ystafelloedd â Syr Anthony Fitzherbert, un o ynadon y 'Common Pleas
  • OWEN, WILLIAM (Gwilym Alaw; 1762 - 1853), amaethwr a llenor
  • OWEN, WILLIAM (1750 - 1830), clerigwr efengylaidd Olynydd Thomas Charles o'r Bala yn Sparkford a Milborne Port, Gwlad yr Haf; mab hynaf Joseph Owen, rhydd-ddeiliad y Fron Goch, Nanhyfer, Sir Benfro; ganwyd yn 1750. Ordeiniwyd ef yn ddiacon ar 15 Awst 1773 ac yn offeiriad ar 6 Awst 1775. Bu'n gurad yn ei gartref, sef Nanhyfer, 1775-9, yn Sparkford, 1783-5, ac yn Milborne Port, 1785-91, gan ddyfod yn gurad 'parhaol' yn Milborne Port yn nes ymlaen
  • OWEN, WILLIAM (1785 - 1864), hynafiaethydd Ganwyd 1785 ym Miwmares, a bu'n ddisgybl yn yr ysgol ramadeg yno. Gwasnaethodd fel môr-filwr yn y rhyfel yn erbyn Napoleon. O 1824 ymlaen cysylltir ei enw â thref Caernarfon, lle yr adwaenid ef fel William Owen ' Y Pab.' Yn ôl ei dystiolaeth ef ei hun, derbyniodd y llysenw hwn mewn canlyniad i ryw bamffled a gyhoeddodd yn 1829 yn amddiffyn y safiad a wnaeth ardalydd Môn yn Nhŷr Arglwyddi dros