Canlyniadau chwilio

793 - 804 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

793 - 804 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • EVANS, DAVID (1886 - 1968), Athro prifysgol yn yr Almaeneg ac awdur Ganwyd 18 Tachwedd 1886 yn ardal Blaen-ffos, Penfro, yn fab i John Evans (bu farw 18 Ionawr 1914 yn 81 mlwydd oed) ac Elizabeth ei wraig (bu farw 30 Ionawr 1937 yn 86 mlwydd oed) o Fwlchnewydd, plwyf Castellan. Addysgwyd ef yn ysgol sir Aberteifi, lle'r oedd yr Almaeneg ar y pryd yn rhan amlwg o'r maes llafur, ac ar ôl cyfnod diffrwyth o ffermio gartref derbyniwyd ef yn 1907 i Goleg Prifysgol
  • EVANS, DAVID CLEDLYN (1858 - 1940), ysgolfeistr, daearegydd a hynafiaethydd chorfeistr, yn feirniad eisteddfodau, a rhoddai wersi canu a gwersi offerynnol. Ond yn anad dim yr oedd yn hynafiaethydd a daearegwr gwych. Cyhoeddwyd yn The Quarterly Jnl. of the Geological Soc. yn 1906 ei bapur nodedig ar greigiau Ordofigaidd gorllewin Caerfyrddin a ddarllenwyd ganddo gerbron y Gymdeithas Ddaearegol. Cynhwysa fap lliw o'r ardal, nifer o drychluniau, a dau dudalen o enwau'r ffosilau a
  • EVANS, DAVID DAVIES (1787 - 1858) Pontrhydyrynn, gweinidog y Bedyddwyr, a golygydd Ganwyd 27 Mawrth 1787, yn Dolgoch, Sir Aberteifi. Magwyd ef ym Maesyberllan, eglwys ei dad, David Evans. Dechreuodd bregethu 21 Ionawr 1807, a bu 18 mis yng Ngholeg y Fenni. Derbyniodd alwad o'r Tabernacl, Caerfyrddin, i olynu Titus Lewis; ordeiniwyd ef ym Maesyberllan cyn mynd yno, a sefydlwyd 25 Mawrth 1812. Cliriodd ddyled yr addoldy newydd yno drachefn. Pregethai yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac
  • EVANS, DAVID DELTA (Dewi Hiraddug; 1866 - 1948), newyddiadurwr, awdur, gweinidog (U) Gwyddoniadur Cymreig, 1896. Mae ei gynhyrchion yn doreithiog. Yn eu plith y mae dwy nofel, Daniel Evelyn, heretic (1913) a The Rosicrucian (1918). Gweithiau eraill ganddo yw Pethau newydd a hen (1900); The ancient bards of Britain (1906); Hiwmor synnwyr a halen (1937); Rhedeg ar ôl cysgodion (1940); Saviours of men; An argosy of common sense; At y Golygydd (detholiad o lythyrau i'r wasg, 1937-42); Days of
  • EVANS, Syr DAVID EMRYS (1891 - 1966), addysgydd a chyfieithydd Ganwyd 29 Mawrth 1891, mab T. Valentine Evans, gweinidog (B), Clydach, Morgannwg. Cafodd ei addysg yn ysgol sir Ystalyfera, a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle graddiodd gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn Lladin yn 1911 a Groeg yn 1912. Cafodd radd B.Litt. Rhydychen o Goleg Iesu, ac etholwyd ef yn gymrawd o Brifysgol Cymru. Bu'n athro yn ysgol uwchradd y Pentre, Cwm Rhondda, ac
  • EVANS, DAVID GWILYM LLOYD (1933 - 1990), cricedwr a dyfarnwr criced Ganwyd David Evans ar 27 Gorffennaf 1933 yn Lambeth, Llundain, ond ychydig wedi hynny symudodd ei deulu i Ben-y-groes, Sir Gaerfyrddin. Bu'n ddisgybl yn ysgol elfennol y pentref ac yna yn Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman. Yn ŵr priod, yr oedd ganddo ddau blentyn. Chwaraeodd David Evans i glwb criced Rhydaman a gwnaeth argraff ar aelodau pwyllgor Morgannwg mewn gêm dysteb yn erbyn y sir. Chwaraeodd dros
  • EVANS, DAVID JOHN (1884 - 1965), gweinidog (MC) ac awdur hyd ei farwolaeth. Priododd, 1943, Mary Muriel Williams, Aberystwyth. Bu farw 1 Mai 1965. Daeth i amlygrwydd yn 1926 pan gyhoeddodd lawlyfr, Prif gymeriadau'r Hen Destament, a wrthodwyd gan ei Gyfundeb oherwydd ei olygiadau rhyddfrydol. Yn 1935 cyhoeddodd Hanes Capel Seion, cyfrol ddefnyddiol iawn ym maes hanes lleol.
  • EVANS, DAVID LEWIS (1813 - 1902), athro coleg a gweinidog Undodaidd Ganwyd 24 Gorffennaf 1813, yn Penrallt, Rhuddlan, Sir Aberteifi. Bu yn yr ysgol yn Rhydybont dan y Parch. William Jones a Blaenbydernyn dan y Parch. John Davies, a bu'n cadw ysgol ei hun yn Llandeilo, Ffaldybrenin, a Llanwenog (1832-4). Aeth i Goleg Caerfyrddin (1834-8), a bu wedyn yn weinidog Llandyfaen (Onnenfawr), Llandeilo (1838-40), Bloxham a Milton, Rhydychen (1840-2), gan ddychwelyd i
  • EVANS, DAVID LLOYD (1861 - 1912), siopwr, trafaeliwr, a cherddor Ganwyd 29 Rhagfyr 1861, mab Evan ac Ellen Evans, Adwy-ddu, Penrhyndeudraeth, Sir Feirionnydd. Cafodd ei wersi cerddorol cyntaf yn nosbarthiadau John Roberts, Porthmadog, a thrwy astudio Gramadeg Cerddoriaeth ' Alawydd ' a llyfrau eraill daeth yn gerddor da. Bu ' Cân y Cryd ' a'r ddeuawd ' Mae'r byd yn llawn o ganu ' yn boblogaidd, a chafodd ei ranganau ' Trig gyda mi,' ' Oleuni Mwyn,' a'r
  • EVANS, DAVID OWEN (1876 - 1945), bargyfreithiwr, diwydiannwr, a gwleidydd Ganwyd 5 Chwefror 1876 yn Penbryn, Sir Aberteifi, mab i William Evans, amaethwr. Addysgwyd ef yng ngholeg Llanymddyfri a'r Imperial College of Science, Llundain. Yn 1897 ymunodd â'r gwasanaeth gwladol, a gosodwyd ef yn adran y trethi. Yn 1899 priododd Kate Morgan. Tra'r oedd yn y gwasanaeth gwladol astudiodd y gyfraith a galwyd ef i'r Bar yn Gray's Inn yn 1909. Gweithredodd fel bargyfreithiwr, a
  • EVANS, DAVID PUGH (1866 - 1897), cerddor Ganwyd mewn ffermdy o'r enw Llainwen, ger Ffynnon Henri, plwyf Cynwyl Elfed, Sir Gaerfyrddin, mab Daniel ac Elizabeth Pugh Evans. Cafodd ei fagu mewn teulu cerddorol. Yn fachgen aeth i wasnaethu mewn siop ddillad yn Llanelli, ac ymunodd â chôr capel Seion o dan arweiniad R. C. Jenkins. Dysgodd sol-ffa yn nosbarth D. W. Lewis, Brynaman, a chynghanedd yn nosbarth Dr. Joseph Parry a gynhelid gan y
  • EVANS, DAVID TECWYN (1876 - 1957), gweinidog (EF) Jesus of history (T.R. Glover). Cyhoeddodd esboniad i'r Ysgol Sul ar I Corinthiaid (1926), casgliad o weddïau (1945), llawer o'i bregethau mewn cyfnodolion a llyfrau, a pheth o hanes ei fywyd yn Atgofion cynnar (1950).