Canlyniadau chwilio

805 - 816 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

805 - 816 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • EVANS, DAVID THOMAS GRUFFYDD (Barwn Evans o Claughton), (1928 - 1992), cyfreithiwr a gwleidydd ganwyd Penbedw 9 Chwefror 1928, yn fab i John Cynlais Evans a Nellie Euronwy Griffiths. Gadawodd ei daid, David Evans, sir Fôn ym 1884 gan fynd i Benbedw lle y sefydlodd busnes llwyddiannus fel adeiladwr. Ef a roddodd y gadair, y 'gadair ddu' a enillwyd gan Hedd Wyn, yn eisteddfod genedlaethol Penbedw yn 1917. Adeiladodd ran helaeth o Claughton yn ogystal â chapel Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn
  • EVANS, Syr DAVID TREHARNE (1849 - 1907), arglwydd faer Llundain bob apêl arno. Bu'n ustus yn Sir Forgannwg a Surrey, ac yn un o raglawiaid Dinas Llundain. Priododd, 1874, Emily (bu farw 1903), merch Lawrence Boakes, a bu iddynt wyth o blant, pedwar mab a phedair merch. Trigai yn Ewell Grove, Surrey, ac yno y bu farw 14 Awst 1907.
  • EVANS, DAVID TUDOR (1822 - 1896), newyddiadurwr Ganwyd 3 Chwefror 1822, yn Cilgynydd, Llanboidy, Sir Gaerfyrddin, yn fab i John Evans, gweinidog eglwys Annibynnol Penygroes, Sir Benfro, a Hebron, Sir Gaerfyrddin. Pan oedd yn ddyn ifanc yn cadw siop ddillad lwyddiannus yn Arberth rhoddai lawer o'i amser i hyrwyddo addysg, ac enillodd gymeradwyaeth R. R. W. Lingen (gweler yr adroddiad ar addysg yng Nghymru, 1847) am ei waith fel ysgrifennydd
  • EVANS, DAVID TYSSIL (1853 - 1918), gweinidog gyda'r Annibynwyr ac athro yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd Nghaerdydd, 1891, ac, yn ddiweddarch, yn athro. Gofalai am eglwys Trinity, Cowbridge Road, o 1894 hyd 1917. Bu farw 29 Medi 1918, a chladdwyd ef ym Mhenygroes, Sir Benfro. Cyhoeddodd: Cofiant a Phregethau Caleb Morris, Fetter Lane, Llundain, 1900, ac argraffiad Saesneg ohono yn 1902; The Principles of Hebrew Grammar (London, 1912).
  • EVANS, EBENEZER GWYN (1898 - 1958), gweinidog (MC) Ganwyd 31 Mai 1898 yng Ngellilenor Fawr, Llangynwyd, Morgannwg, mab ieuangaf Benjamin a Gwenllian Evans - y fam o gyff Dafydd Morris yr Hendre (1787 - 1858). Addysgwyd ef yn ysgol elfennol ac ysgol sir Maesteg, ac ar ôl dechrau gweithio ar fferm ei dad bu'n athro ysgol am dymor. Ymunodd â'r fyddin yn ystod Rhyfel Mawr I, ac ar ddiwedd y rhyfel aeth i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth (lle graddiodd
  • EVANS, EDMUND (1791 - 1864), pregethwr Wesleaidd Ganwyd 9 Gorffennaf 1791 yn Aberdeunant, Llandecwyn, Sir Feirionnydd. Wedi maith yngyndynnu ymunodd â'r seiat Wesleaidd yn Rhagfyr 1815, gwnaed ef yn flaenor yn Ebrill 1816, a dechreuodd bregethu yn Chwefror 1818. Daeth yn bregethwr poblogaidd a dylanwadol yn fuan, ac adnabyddid ef fel 'Utgorn Meirion.' Gwrthododd alwad i fugeilio hen eglwys y Cilgwyn (1837) gan ddewis aros yn bregethwr
  • EVANS, EDWARD (Heman Gwent; 1823 - 1878), cerddor Ganwyd yn Llanidloes, Sir Drefaldwyn, 2 Tachwedd 1823. Symudodd y teulu i fyw i Rhymni, sir Fynwy, yn 1825, a dechreuodd yntau weithio yn y pwll glo yn ieuanc. Ni chafodd addysg yn blentyn, ond llafuriodd i gasglu gwybodaeth a daeth yn gerddor a llenor da. Wedi priodi yn 1845, agorodd siop lyfrau, a gwnaed ef yn bostfeistr. Yr oedd yn arweinydd canu yn Ebeneser, Twyncarno, ac ef oedd un o'r
  • EVANS, EDWARD (1582), diwinydd mab i glerigwr. Ganwyd ac addysgwyd ef yn Llanrwst ac aeth i Goleg Eglwys Crist, Rhydychen, yn 1598 yn 16 mlwydd oed. Graddiodd yn B.A., 16 Chwefror 1603-4, a M.A., 1606-7. Y mae Anthony Wood yn camgymryd wrth ddywedyd mai'r un yw ef ag Edward Evans, mab i glerigwr o swydd Hants a phregethwr enwog yn y brifysgol, a gyhoeddodd yn 1615 gyfrol o bregethau, sef Verba Dierum or the Dayes report of
  • EVANS, ELLEN (1891 - 1953), prifathrawes Coleg Hyfforddi Morgannwg, y Barri coleg yn 1923. Cymerai ddiddordeb arbennig mewn defnyddio'r Gymraeg mewn ysgol a choleg, a bu ei llyfr The teaching of Welsh (1924) a oedd yn seiliedig ar destun ei thraethawd gradd M.A., ei Llawlyfr i athrawon (1926) a Cynllun Cymraeg (1927) o fudd mawr i athrawon yn nyddiau cynnar Cymreigio gwersi yn yr ysgolion. I gwrdd â'r angen am ddeunydd darllen i'r plant cyhoeddodd Y Mabinogion i'r plant, 4
  • EVANS, EMYR ESTYN (1905 - 1989), daearyddwr Ganed E. Estyn Evans ar 29 o Fai 1905, yn Stryd Mownt, Frankwell, Amwythig, gyferbyn â man geni Darwin. Gweithiodd ei dad, George Owen Evans (1865-1921) mewn pyllau clai a phyllau glo ardal Acrefair, ger Rhiwabon, Sir Ddinbych cyn ei dderbyn yn fyfyriwr yng Ngholeg Diwinyddol Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn y Bala. Prentisiwyd ei fam Elizabeth (1864–1944) yn hetwraig yn Wrecsam. Hi oedd yr hynaf o
  • EVANS, ERNEST (1885 - 1965), barnwr llysoedd sir, A.S. Byd I gyda'r R.A.S.C. a chyrraedd rheng capten. O Dach. 1918 i Rag. 1920 bu'n ysgrifennydd preifat i David Lloyd George. Yn 1921 wedi dyrchafu M.L. Vaughan Davies i Dŷ'r Arglwyddi fel yr Arglwydd Ystwyth o Dan-y-bwlch, Tori rhonc a fu'n A.S. dros sir Aberteifi fel Rhyddfrydwr o 1895, cafodd gefnogaeth Lloyd George i ymladd is-etholiad am sedd y sir yn erbyn William Llewelyn Williams, dewis-ddyn
  • EVANS, EVAN (1851 - 1934), eisteddfodwr ac ysgrifennydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion Ganwyd yn Nancaw, Llangelynnin, Sir Feirionnydd, 25 Tachwedd 1852, yn ôl un cofnod - ar 18 Tachwedd 1851 yn ôl cofnod arall. Lewis Evans oedd ei dad, a'i fam yn Ann Lewis, o Arthog - bu hi farw ar eni ei hail fab, William. O'r adeg yr oedd yn bedair oed meithrinwyd Evan ym mhentref anghysbell Trawsfynydd gan fam ei dad, sef Beti Evans, gwraig o bersonoliaeth gref a foldiodd gymeriad ei hŵyr