Canlyniadau chwilio

817 - 828 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

817 - 828 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • EVANS, EVAN (1758 - 1828), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd yn 1758 a thrigai yn y Ffos, Llanwrtyd, sir Frycheiniog. Bedyddwyr oedd ei rieni, ond ymunodd ef â'r Methodistiaid yn 1775 a'i fedyddio yn Llangeitho gan Ddaniel Rowland. Dechreuodd bregethu yn 1778, ond nid esgynnodd erioed i'r rheng flaenaf. Bu'n gyfrwng i sicrhau tir i godi llawer o gapeli'r Methodistiaid ym Mrycheiniog. Dewiswyd ef gan ei sir i'w neilltuo yn ordeiniad cyntaf y
  • EVANS, EVAN (1671 - 1721), clerigwr a chenhadwr ym Mhennsylvania Ganwyd yng Ngharno, Sir Drefaldwyn, yn 1671. Graddiodd o goleg Brasenose, Rhydychen, yn 1695 (M.A. a D.D. 1714). O 1696 hyd 1700 yr oedd yn gurad yn Wrecsam ond aeth allan i Bennsylvania fel rheithor Christ Church, Philadelphia, yn 1700. Nodwedd fwyaf diddorol ei yrfa yno oedd ei waith cenhadol grymus ar ran yr achos esgobaethol ymhlith Crynwyr Cymreig y wladfa. Dywed cyfoeswr yn 1706 i Evans
  • EVANS, EVAN (1773 - 1827), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Ganwyd 3 Mehefin 1773 ym Mryn-y-gwdyn, Llanarmon (Eifionydd). Bedyddiwyd ef gan John Williams (1768 - 1825) yn Ebrill 1795, a thua 1797 symudodd i Rosllannerchrugog. Ar y pryd, gogwyddai at Sandemaniaeth, ond yn fuan penderfynodd weithio'n annibynnol ar y ddwy blaid a rannai'r Bedyddwyr yn y blynyddoedd hynny. Yn 1802, pan oedd wrth ei orchwyl yn ymyl Llanfyllin, agorodd achos i'r Bedyddwyr yn y
  • EVANS, EVAN (1882 - 1965), gŵr busnes gadw gwesty, busnes gwerthu ceir, a sefydlu cwmni twristiaeth Evan Evans Tours Ltd. ac iddo gysylltiadau bydeang. Cymerai ddiddordeb ym mywyd cyhoeddus Bwrdeistref S. Pancras fel cynghorydd 1922-59 a henadur 1935-45, maer 1939-41, dirprwy faer am 5 mlynedd, ac ynad heddwch. Gweithiodd yn ddygn i roi lloches i'r rhai a gollodd eu cartrefi trwy gyrchoedd awyr 1940. Bu'n aelod o gyngor sir Llundain 1931
  • EVANS, EVAN (Ieuan Fardd, Ieuan Brydydd Hir; 1731 - 1788), ysgolhaig, bardd, ac offeiriad ymddiddorai yn hanes a llenyddiaeth Cymru, e.e. Daines Barrington, yr hwn a'i cymhellodd i ddechrau cyfieithu barddoniaeth Gymraeg ac a âi ag enghreifftiau i'w dangos i Thomas Gray a Thomas Percy, a fu'n gohebu ag ef am flynyddoedd. Y Saeson hyn yn bennaf hefyd a symbylodd Ieuan i gyhoeddi'r gwaith a ddug iddo enwogrwydd fel ysgolhaig Cymraeg, sef Some Specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards
  • EVANS, EVAN (Ieuan Glan Geirionydd; 1795 - 1855), offeiriad a bardd Ganwyd yn Tan-y-celyn, Trefriw, Sir Gaernarfon, 20 Ebrill 1795. Yr oedd ei dad, Robert Evans, yn fardd a llenor gwlad, a'i fam, Elizabeth, yn fwy diwylliedig na'r cyffredin; medrai ddarllen Saesneg a Chymraeg - y ddau ymhlith cychwynwyr Methodistiaeth Galfinaidd yn Nhrefriw. Danfonwyd Evan Evans i ysgol a gedwid yn eglwys Trefriw gan ryw Griffiths, ac oddi yno aeth i ysgol rad Llanrwst. Wedi
  • EVANS, EVAN (1804 - 1886), gweinidog gyda'r Annibynwyr ac awdur . Williams, Talgarth, o The privie Key of Heaven, Thomas Brooks, 1845. Bu'n olygydd cyhoeddiad, Cyfaill Plentyn, a ymddangosodd gyntaf yn 1835, a cheir ganddo 'Atgofion Pedwar Ugain mlynedd' yn Cyfaill yr Aelwyd (vi a vii).
  • EVANS, EVAN JENKIN (1882 - 1944), gwyddonydd ac athro mewn prifysgolion Ganwyd 20 Mai 1882 yn Llanelli, mab David a Mary Evans. Bu'n ysgol ganolraddol ei dref enedigol cyn mynd i goleg y Brifysgol, Aberystwyth, lle y graddiodd yn 1902. Aeth wedyn i'r Royal College of Science, South Kensington, Llundain, a dyfod yn 'Associate' o'r sefydliad hwnnw (1906), yn athro cynorthwyol mewn astroffiseg, ac yn ddiweddarach mewn ffiseg, a gwneuthur gwaith ymchwil mewn
  • EVANS, EVAN KERI (1860 - 1941), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd 2 Mai 1860 ym Mhontceri ger Castell Newydd Emlyn. Wedi ei brentisio'n saer coed, ac ymgydnabyddu'n gynnar â'r awen, dechreuodd bregethu yn eglwys Annibynnol Trewen. Ar ôl tymor yn ysgol ramadeg Castell Newydd Emlyn derbyniwyd ef, yn 1881, i goleg presbyteraidd Caerfyrddin lle'r amlygodd allu eithriadol fel myfyriwr. Wedi ennill ysgoloriaeth Dr. Williams aeth i Brifysgol Glasgow yn 1884
  • EVANS, EVAN WILLIAM (1860 - 1925), cyhoeddwr a golygydd Llyfrgell Genedlaethol; gweler manylion am y Frondirion MSS., fel y'i gelwir, yn N.L.W. Handlist of MSS., ii, 154-7 (yn eu plith y mae rhai pethau a gynullasid gan T. Mordaf Pierce, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Llanidloes a Dolgellau). Bu Evans farw 28 Hydref 1925.
  • EVANS, EVAN WILLIAM (1827? - 1874), mathemategwr Ganwyd yn Llangyfelach, 6 Ionawr 1827 (neu 1828), yn fab i William a Catherine (ganwyd Howell) Evans. Cyfeirir ato weithiau fel Evander William Evans. Aeth gyda'i rieni yn 1833 i Bradford County, Pennsylvania, U.D.A. Graddiodd yn Yale yn 1851, a bu'n diwtor yno, 1855-7. Bu'n astudio diwinyddiaeth yn New Haven ar ôl graddio a bu'n brifathro y Delaware Institute, Franklin, Efrog Newydd, am flwyddyn
  • EVANS, FREDERICK (Ednyfed; 1840 - 1897), gweinidog y Bedyddwyr Ganwyd yn Llandybie, 21 Ebrill 1840, mab hynaf William a Mary Evans, a brawd T. V. Evans. Dechreuodd bregethu yn 1856 gyda'r Methodistiaid Wesleaidd. Ymunodd â'r Bedyddwyr yn 1857. Ar ôl cyfnod yn academi Brynmawr, aeth i Goleg Pontypŵl yn 1858. Ordeiniwyd ef yn Llangynidr, sir Frycheiniog, 1861, ac yno priododd Frances Williams. Mudodd i'r Unol Daleithiau yn 1866, ac aeth yn fugail ar yr eglwys