Canlyniadau chwilio

85 - 96 of 247 for "Llywelyn"

85 - 96 of 247 for "Llywelyn"

  • HUW LLWYD ap DAFYDD ap LLYWELYN ap MADOG - gweler HUW ap DAFYDD ap LLYWELYN ap MADOG
  • HYWEL ab EDWIN (bu farw 1044), brenin Deheubarth mab Edwin ab Einion a gor-wyr i Hywel Dda. Pan fu'r cipiwr Rhydderch ap Iestyn farw yn 1033, daeth Hywel a'i frawd Maredudd, fel etifeddion hynaf Hywel Dda, yn gydfrenhinoedd Deheubarth. Bu Maredudd farw yn 1035, gan adael Hywel i deyrnasu ar ei ben ei hun, ac ar ei ysgwyddau ef y cwympodd y baich trwm o amddiffyn y De yn erbyn y Vikingiaid a chipiwr y Gogledd, Gruffydd ap Llywelyn. Alltudiwyd ef
  • HYWEL ap DAFYDD ap IEUAN ap RHYS (fl. c. 1450-80) Raglan, bardd un o'r ddau ymryson a ganwyd rhyngddo a Guto'r Glyn ei fod yn fardd teulu yn Rhaglan. Canwyd ymrysonau eraill rhyngddo a Bedo Brwynllys, a hefyd Gruffudd ap Dafydd Fychan a Llywelyn Goch y Dant. Dywedir gan Edward Jones (ar dystiolaeth Rhys Cain, y mae'n debyg) ei fod yn M.A., yn awdur hanes Prydain yn Lladin a hanes Cymru yn Gymraeg, a bod ei lawysgrifau yn dda a gwerthfawr. Ni ddaethpwyd o hyd
  • HYWEL ap DAFYDD LLWYD ab Y GOF (fl. c. 1500), bardd ni wyddys dim o'i hanes, ond cadwyd peth o'i waith mewn llawysgrifau, sef cywyddau serch a chywydd marwnad i'r bardd Dafydd Llwyd ap Llywelyn ap Gruffudd.
  • HYWEL ap LLYWELYN ap MAREDUDD (fl. c. 1500?), bardd
  • HYWEL ap RHEINALLT (fl. c. 1471-94), bardd y ceir swm mawr o'i waith mewn llawysgrifau. Cynnwys hwn lawer o ganu traddodiadol i aelodau teuluoedd bonheddig Gogledd Cymru, yn cynnwys rhai Ynys y Maengwyn, Coetmor, Clenennau, ac Emral; ceir cywydd ganddo i Ddafydd ab Owain, abad Ystrad Marchell. Cadwyd hefyd nifer o'i gywyddau serch a'i ymryson gyda Lewys Môn; ceir cyfeiriad ato yng nghywydd ymryson Llywelyn ap Gutun i Lewys Môn
  • HYWEL FOEL ap GRIFFRI ap PWYLL GWYDDEL (fl. c. 1240-1300), bardd Canodd ddwy awdl i Owain Goch ap Gruffudd pan oedd hwnnw yng ngharchar gan ei frawd, y tywysog Llywelyn ap Gruffudd. Ni wyddys dim amdano ac ni chafwyd unrhyw enghraifft arall o'i waith.
  • IAGO ab IDWAL ap MEURIG (bu farw 1039), brenin Gwynedd gor-wyr i Idwal Foel. Wedi i dreiswyr yn olynol gipio'r awdurdod yng Ngwynedd rhwng 986 a 1033 - gweler Maredudd ab Owain, Llywelyn ap Seisyll, Rhydderch ap Iestyn - adferwyd yr hen linach ym mherson Iago. Teyrnasiad byr o chwe mlynedd a gafodd cyn ei lofruddio ac i Gruffydd ap Llywelyn ap Seisyll gymryd ei le. Mab iddo oedd Cynan, tad Gruffydd ap Cynan, y tywysog a lwyddodd o'r diwedd i ail
  • IEUAN ap LLYWELYN FYCHAN (bu farw 1532), bardd Aelod o deulu'r Llannerch, Dyffryn Clwyd, a thad y bardd Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan. Cadwyd peth o'i waith, yn cynnwys cywyddau brud a serch.
  • IEUAN ap RHYS ap LLYWELYN (fl. dechrau'r 16eg ganrif), bardd
  • IEUAN DEULWYN (fl. c. 1460), bardd brodor o Gydweli, Sir Gaerfyrddin. Cadwyd llawer o'i waith mewn llawysgrifau, y rhan fwyaf ohono yn gywyddau i gylch eang o foneddigion cyfoes. Yn eu plith ceir rhai i Wiliam, iarll Penfro, a'i frawd Syr Rhisiart Herbert, a laddwyd ym mrwydr Banbury (1469), ac i fab ifanc Syr Rhisiart, i Dr. Siôn Morgan, esgob Tyddewi, Wiliam Siôn o Lanegwad, Dafydd Llwyd ap Gwilym o Gastell Hywel, Llywelyn ap
  • IEUAN DU'R BILWG (fl. c. 1470) Forgannwg, bardd Ni wyddys dim am ei fywyd, ond cadwyd tri chywydd diddorol o'i waith, sef Cywydd y Gown Coch, Cywydd i ofyn Llyfr y Greal gan abad Glyn Nedd (gweler Cywyddau'r Ychwanegiad, 144), ac un arall ' i ymofyn Llywelyn Goch y Dant i wraig oedd yn nithio haidd.'