Canlyniadau chwilio

1669 - 1680 of 2563 for "john hughes"

1669 - 1680 of 2563 for "john hughes"

  • OWEN, HUGH (1575? - 1642) Gwenynog,, cyfieithydd , a bu iddynt ddau fab a saith o ferched. Yr oedd yn ewythr i William Griffith, D.C.L., canghellor Bangor a Llanelwy, ac i George Griffith, D.D., esgob Llanelwy. Cofir amdano'n bennaf fel awdur Dilyniad Crist, y cyfieithiad cyntaf yn Gymraeg o De Imitatione Christi Thomas à Kempis, a olygwyd ac a gyhoeddwyd yn 1684 gan ei fab Hugh, yr offeiriad Jesiwitaidd a adwaenir yn well fel y tad John Hughes
  • OWEN, HUGH (1639 - 1700), pregethwr Piwritanaidd ac 'apostol Meirion.' Yr oedd o'r un teulu â'r barwn Lewis Owen, y diwinydd Dr. John Owen yn berthynas pell iddo, a phrif bobl Meirionnydd ymhlith ei gydnabod a'i gyfeillion. Ymaelododd yn Rhydychen (Coleg Iesu, 1660), dechreuodd bregethu, ond distawyd ef, ag arfer gair Calamy, gan Ddeddf Unffurfiaeth 1662. Ymunodd ag eglwys Biwritanaidd Wrecsam, ac etholwyd ef yn henuriad athrawus ynddi; yn 1668 priododd Martha Brown
  • OWEN, HUGH (1761 - 1827), clerigwr a hanesydd lleol mab Pryce Owen, meddyg, Amwythig (' Pryce Owen of Bettws,' Sir Drefaldwyn, medd Richard Williams, Montgomeryshire worthies), a'i wraig Bridget, merch John Whitfield. Er mai tenau braidd ydyw cysylltiad Owen â Chymru rhaid ei gynnwys yma pe na bai ond am ei fod yn gyd-awdur (â J. B. Blakeway) A History of Shrewsbury, gwaith gwerthfawr mewn dwy gyfrol bedwarplyg, 1825, sydd o ddiddordeb i haneswyr
  • OWEN, HUGH JOHN (1880 - 1961), cyfreithiwr, awdur a hanesydd lleol Ganwyd 5 Chwefror 1880 ym Mhwllheli, Caernarfon, yn fab i John Owen, master mariner, a'i wraig Elizabeth (ganwyd Hughes). Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg y Bala. Ar ôl cwblhau ei dymor erthyglau gyda chwmni Robyns-Owen, Pwllheli, a'i dderbyn yn gyfreithiwr yn 1903, ymunodd ag adran gyfreithiol cyngor sir Llundain. Gwasanaethodd gartref ac yng ngwlad Groeg gyda'r R.A.O.C. yn Rhyfel Byd I ac enillodd
  • OWEN, HUMPHREY (1702 - 1768), llyfrgellydd Bodley, a phennaeth Coleg Iesu, Rhydychen reithoraeth Rotherfield-Peppard; ond parhaodd yn ei swydd fel llyfrgellydd. Penododd nifer anarferol o Gymry i swyddi yn Bodley - yn eu plith John Price, ei olynydd. Barn E. G. Hardy amdano fel llyfrgellydd yw ei fod yn ' respectable if not distinguished.' Bu farw 26 Mawrth 1768, a chladdwyd yng nghapel ei goleg.
  • OWEN, JAMES (1654 - 1706), gweinidog ac athro Ymneilltuol, a diwinydd Ganwyd 1 Tachwedd 1654 yn y Bryn (Brynmeini), Abernant, Caerfyrddin, yn ail fab i John Owen. Yr oedd ei fam (na wyddys mo'i henw) yn nith i'r esgob Thomas Howell ac i'r llythyrwr James Howell; ei thref-tad hi oedd y Bryn, a berthynai i'w thaid Thomas Howell, ficer Cynwyl Elfed ac Abernant a chyn hynny curad Llangamarch - llithrodd Ant. Wood gan ddweud mai yn y Bryn, Abernant, y ganed James Howell
  • OWEN, JEREMY (fl. 1704-44), gweinidog Presbyteraidd ac awdur Mab David John Owen o'r Bryn, Abernant, Caerfyrddin (1651? - 1710), ac felly nai i James Owen ac i Charles Owen. Bu'r tad (a breswyliai ym Mhwllhwyaid) am amser maith yn henuriad athrawiaethol yng nghynulleidfa Henllan Amgoed, cyn ei urddo'n fugail arni tua 1705. Fel ei frawd James, yr oedd ef yn dilyn Baxter yn ei ddiwinyddiaeth, ac yn Bresbyteraidd ei syniadau ar drefn eglwysig. Ond yr oedd yn
  • OWEN, JOHN (1698 - 1755), canghellor eglwys Bangor Ganwyd yn Llanidloes yn 1698 yn fab i Pierce Owen; yn ôl Foster (Alumni Oxonienses), ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, fel ' John Owens,' 21 Mawrth 1718/9, yn 21 oed, ond annhebyg i'r eithaf yw cynnig Foster iddo raddio yn 1722 dan yr enw ' Joseph Owen.' I'r gwrthwyneb, yng nghofnodion A. Ivor Pryce (The Diocese of Bangor during Three Centuries), ni roddir gradd o gwbl iddo yn 1723; eithr
  • OWEN, JOHN (1757 - 1829), ysgrifennwr ar bynciau crefyddol Achosion ag Effeithiau'r Cyfnewidiad yn Ffrainc, dogfen bur nodedig o agwedd y Methodistiaid Cymreig at broblemau gwleidyddol - amlinelliad ohono gan J. J. Evans, Dylanwad y Chwyldro Ffrengig, 169-70. I 1818 y perthyn Golygiad ar Adfywiad Crefydd yn yr Eglwys Sefydledig yng Nghymru o ddeutu y flwyddyn 1737, gwaith a achlysurwyd gan farwolaeth John Evans o'r Bala, ac sy'n cynnwys nodiadau ar bregethwyr y
  • OWEN, JOHN (1733 - 1776), pregethwr cyntaf Methodistiaid sir y Fflint Ganwyd yn 1733 ym Mwrcwd, plwyf Ysgeifiog, Sir y Fflint. Brodorion o Aberdaron yn Llŷn oedd ei rieni, a bu iddynt bedwar o blant - John, Humphrey, Sarah, ac Ann. Saer oedd John wrth ei alwedigaeth, a phrydydd dawnus. Cyfansoddodd anterliwtiau, ac yr oedd yn chwaraewr poblogaidd ym more'i oes. Dychwelodd at grefydd tua'r flwyddyn 1762, trwy bregeth Daniel Rowland yn Nhŷ Modlen, Llandyrnog, Dyffryn
  • OWEN, JOHN (1564? - 1628?), epigramydd . Bu gwerthu mawr yn eu dydd ar lyfrau epigramau John Owen; ailargraffwyd y casgliad cyntaf (o dri llyfr) ymhen y mis. Serch eu dodi ar yr ' Index Expurgatorius ' yr oeddent yn fwy poblogaidd ar y Cyfandir nag ym Mhrydain. Bu iddynt ddylanwad arbennig ar Almaenwyr a ysgrifennai epigramau. Cyfieithwyd hwy yn Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, a Sbaeneg.
  • OWEN, JOHN (1616 - 1683), diwinydd Piwritanaidd (Annibynnwr) 'Gyda Baxter a Howe, saif ar flaen y diwinyddion Piwritanaidd'. Ganwyd yn 1616, a bu farw 24 Awst 1683. Adroddir ei yrfa'n llawn yn y D.N.B., ond nid oes a fynno hi ddim â Chymru, ond yn yr ystyr mai ar weithiau diwinyddol John Owen y magwyd cenedlaethau o bregethwyr Calfinaidd enwocaf Cymru. Ond yr oedd gwaed Cymreig ynddo. Mab oedd ef i Henry Owen, ficer Stadhampton (swydd Rhydychen), ŵyr felly