Canlyniadau chwilio

1657 - 1668 of 2571 for "john hughes"

1657 - 1668 of 2571 for "john hughes"

  • OLIVER, JOHN (1838 - 1866), bardd Pedwerydd plentyn John a Sarah Oliver. Ganwyd 7 Tachwedd 1838 yn White Hall, Llanfynydd, Sir Gaerfyrddin, a bedyddiwyd ar y 18fed o'r un mis. Derbyniodd ei addysg fore yn ysgol y pentref (1843-50) ac mewn ysgol yng Nghaerfyrddin (1850-3), ac wedyn penderfynodd ymbaratoi ar gyfer y weinidogaeth Annibynnol. Ar ôl bod o 1853 hyd 1859 yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin, lle yr astudiodd
  • OLIVER(S), THOMAS (1725 - 1799), pregethwr gyda'r Wesleaid Ganwyd yn Nhregynon, Maldwyn, yn 1725 (bedyddiwyd 8 Medi). Prentisiwyd ef yn grydd, a chrwydrai'r wlad gan ddilyn ei grefft. Argyhoeddwyd ef gan Whitefield, ym Mryste, ond â'r Wesleaid yr ymunodd. Yn 1753 dewisodd John Wesley ef yn bregethwr teithiol, a bu'n teithio am 22 mlynedd. Yn 1775 penododd Wesley ef yn arolygydd ei wasg yn Llundain, ond bu'n rhaid ei ddiswyddo yn 1789 am na wnâi'r gwaith
  • ORMSBY-GORE, WILLIAM DAVID (1918 - 1985), gwleidydd, diplomydd, impresario'r cyfryngau rhoi eu llyfrgell blas gwledig bwysig, gan gynnwys llawysgrifau prin, i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn y 1930au. Teulu oedd hwn a'i wreiddiau yn y Gororau a gogledd-orllewin Cymru, a'i aelodau'n gwneud eu gyrfaoedd gwleidyddol yn San Steffan. Trwy gysylltiadau yn Llundain, yn 1938 cyfarfu David Ormsby-Gore â John Kennedy, ail fab llysgennad newydd Unol Daleithiau America i Lundain. Dyna ddechrau
  • OSBWRN WYDDEL . Ceir y nodiad llawnaf ar Osbwrn gan W. W. E. Wynne yn Pedigree of the Family of Wynne, of Peniarth in the County of Merioneth (London, 1872). Aelod o dylwyth pwerus y Geraldines ydoedd. Geilw Syr William Betham, Ulster-King-at-Arms, ef yn fab 'John Fitz Thomas Fitz Maurice Fitz Gerald de Windsor the first Lord of Decies and Desmond,' Yr oedd Gerald (Fitz Walter) de Windsor yn gwnstabl castell Penfro
  • OULTON, WILFRID EWART (1911 - 1997), swyddog RAF arweiniodd 'Grapple X' ond fe'i holynwyd gan John Grandy ar gyfer y ddau arall. Yn Ebrill 1958 wedi iddo ddychwelyd o'r Môr Tawel, penodwyd Oulton yn CB ac ymunodd â phencadlys Rheolaeth y Glannau yn Northwood fel uwch-swyddog staff. Honno oedd ei swydd olaf, gan iddo ymddeol o'r RAF ar ei gais ei hun yn 1960. Yn ystod ei ymddeoliad, ymunodd ag EMI Electronics fel cyfarwyddwr prosiectau amddiffyn, ac am
  • OWAIN ap THOMAS ap RHODRI (bu farw 1378), milwr wrth ei grefft ac ymhonnwr i dywysogaeth Cymru Lawgoch yn abl i achosi perygl i'r wlad honno. Profir hyn gan y modd y cyfarfu â'i ddiwedd yn ystod gwarchae Mortagne-sur-Mer gerllaw Bordeaux - yn ddios gyda chydsyniad yr awdurdodau Seisnig - ym mis Gorffennaf 1378. Sgotyn o'r enw John Lamb a'i llofruddiodd, gwr a lwyddodd i ennill cyfeillgarwch Owain ac a ddysgodd beth oedd ei ddibenion. Claddwyd ef bedair milltir o'r man y lladdwyd ef, sef yn eglwys
  • teulu OWEN Orielton, Gwynedd. Yr oedd Elizabeth Wirriott yn ferch ac unig aeres George Wirriott a'i wraig Jane, merch John Philipps, Picton Castle. (Yr oedd teulu Wirriott wedi ymsefydlu yn Sir Benfro er y 12fed ganrif; cyfeiria Gerallt Gymro at un Stephen Wirriott. Yr oedd un David Wirriott, o farwniaeth Penfro, yn un o ddeuddeg rheithor a enwyd ynglŷn ag arian 'subsidy' a oedd i'w codi yn 1292.) Derbyniwyd Hugh Owen yn
  • teulu OWEN Plas Du, - 1631) a Syr William Maurice. Trydydd mab Thomas Owen oedd John Owen, yr epigramydd. Mab iau i Owen ap Gruffydd oedd HUGH OWEN (1538 - 1618), cynllwynwr Pabyddol. Cafodd ei addysg yn Lincoln's Inn (21 Ebrill 1556), a bu yng ngwasanaeth teuluol Henry Fitzalan, 12fed iarll Arundel ac arglwydd Croesoswallt, a bu gyda'i feistr, ac yng nghwmni Humphrey Llwyd, yn y 'Diet' yn Augsburg (1566); dylanwadwyd
  • teulu OWEN Peniarth, Adda yn eglwys Tywyn. Aer y briodas hon oedd ARON AB EDNYFED a ddilynwyd gan EDNYFED, hwnnw gan ei fab GRUFFYDD, a hwnnw gan RHYS AP GRUFFYDD, gŵr y gwnaethpwyd ei ewyllys yn 1476. Mab i Rys ap Gruffydd oedd JOHN AP RHYS a briododd Angharad, merch Dafydd ap Meurig Fychan, Nannau. Aer John ap Rhys ac Angharad oedd WILLIAM, a oedd yn fyw yn 1566, ac a briododd Elizabeth, merch Howel ap Jenkin ab
  • OWEN, ANEURIN (1792 - 1851), hanesydd ac ysgolhaig Cymreig a golygydd cyfreithiau Hywel Dda comin. Pan fu John Humffreys Parry farw (1825) rhoddwyd i Owen y gwaith o gwpláu yr hyn a gychwynasid gan hwnnw, sef paratoi argraffiad o gyfreithiau Hywel Dda a chasglu defnyddiau ar gyfer argraffiad o 'Brut y Tywysogion.' Cyhoeddwyd y 'cyfreithiau' yn 1841 - Ancient Laws and Institutes of Wales; Comprising the Laws … by Howel the Good and Anomalous Laws … with an English Translation (London, for the
  • OWEN, DAVID (Brutus; 1795 - 1866), golygydd a llenor Ganwyd tua diwedd 1795 (bedyddiwyd ef 25 Rhagfyr 1795) ym mhlwyf Llanpumpsaint, Sir Gaerfyrddin. Yr oedd ei dad, David Benjamin (Owen), yn grydd ac yn glochydd, a'i fam Rachel (Owen), yn aelod gyda'r Bedyddwyr. Cafodd addysg dda a hyfforddiant yn y clasuron. Bwriadai fod yn feddyg ac fe'i prentisiwyd gyda John Thomas, Aberduar, ger Llanbydder. Yn ystod ei brentisiaeth troes at y Bedyddwyr a rhoi
  • OWEN, DAVID (Dewi Wyn o Eifion; 1784 - 1841), amaethwr a bardd yn 1811 enillodd wobr eisteddfod Tremadog am ei 'Awdl i Amaethyddiaeth.' Ei waith enwocaf, a'r un a achosodd fwyaf o gynnwrf, oedd 'Awdl Elusengarwch,' a anfonodd i eisteddfod Dinbych yn 1819, pan enillwyd y wobr gan y Parch. E. Hughes ('Y Dryw'), Bodfari. Credai Dewi a'i gyfeillion ei fod wedi cael cam mawr; chwerwodd ei ysbryd, ac mewn llythyrau at gyfeillion ac mewn dychangerdd ymosododd yn llym