Canlyniadau chwilio

1681 - 1692 of 2571 for "john hughes"

1681 - 1692 of 2571 for "john hughes"

  • OWEN, JAMES (1654 - 1706), gweinidog ac athro Ymneilltuol, a diwinydd Ganwyd 1 Tachwedd 1654 yn y Bryn (Brynmeini), Abernant, Caerfyrddin, yn ail fab i John Owen. Yr oedd ei fam (na wyddys mo'i henw) yn nith i'r esgob Thomas Howell ac i'r llythyrwr James Howell; ei thref-tad hi oedd y Bryn, a berthynai i'w thaid Thomas Howell, ficer Cynwyl Elfed ac Abernant a chyn hynny curad Llangamarch - llithrodd Ant. Wood gan ddweud mai yn y Bryn, Abernant, y ganed James Howell
  • OWEN, JEREMY (fl. 1704-44), gweinidog Presbyteraidd ac awdur Mab David John Owen o'r Bryn, Abernant, Caerfyrddin (1651? - 1710), ac felly nai i James Owen ac i Charles Owen. Bu'r tad (a breswyliai ym Mhwllhwyaid) am amser maith yn henuriad athrawiaethol yng nghynulleidfa Henllan Amgoed, cyn ei urddo'n fugail arni tua 1705. Fel ei frawd James, yr oedd ef yn dilyn Baxter yn ei ddiwinyddiaeth, ac yn Bresbyteraidd ei syniadau ar drefn eglwysig. Ond yr oedd yn
  • OWEN, JOHN (1698 - 1755), canghellor eglwys Bangor Ganwyd yn Llanidloes yn 1698 yn fab i Pierce Owen; yn ôl Foster (Alumni Oxonienses), ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, fel ' John Owens,' 21 Mawrth 1718/9, yn 21 oed, ond annhebyg i'r eithaf yw cynnig Foster iddo raddio yn 1722 dan yr enw ' Joseph Owen.' I'r gwrthwyneb, yng nghofnodion A. Ivor Pryce (The Diocese of Bangor during Three Centuries), ni roddir gradd o gwbl iddo yn 1723; eithr
  • OWEN, JOHN (1757 - 1829), ysgrifennwr ar bynciau crefyddol Achosion ag Effeithiau'r Cyfnewidiad yn Ffrainc, dogfen bur nodedig o agwedd y Methodistiaid Cymreig at broblemau gwleidyddol - amlinelliad ohono gan J. J. Evans, Dylanwad y Chwyldro Ffrengig, 169-70. I 1818 y perthyn Golygiad ar Adfywiad Crefydd yn yr Eglwys Sefydledig yng Nghymru o ddeutu y flwyddyn 1737, gwaith a achlysurwyd gan farwolaeth John Evans o'r Bala, ac sy'n cynnwys nodiadau ar bregethwyr y
  • OWEN, JOHN (1733 - 1776), pregethwr cyntaf Methodistiaid sir y Fflint Ganwyd yn 1733 ym Mwrcwd, plwyf Ysgeifiog, Sir y Fflint. Brodorion o Aberdaron yn Llŷn oedd ei rieni, a bu iddynt bedwar o blant - John, Humphrey, Sarah, ac Ann. Saer oedd John wrth ei alwedigaeth, a phrydydd dawnus. Cyfansoddodd anterliwtiau, ac yr oedd yn chwaraewr poblogaidd ym more'i oes. Dychwelodd at grefydd tua'r flwyddyn 1762, trwy bregeth Daniel Rowland yn Nhŷ Modlen, Llandyrnog, Dyffryn
  • OWEN, JOHN (1564? - 1628?), epigramydd . Bu gwerthu mawr yn eu dydd ar lyfrau epigramau John Owen; ailargraffwyd y casgliad cyntaf (o dri llyfr) ymhen y mis. Serch eu dodi ar yr ' Index Expurgatorius ' yr oeddent yn fwy poblogaidd ar y Cyfandir nag ym Mhrydain. Bu iddynt ddylanwad arbennig ar Almaenwyr a ysgrifennai epigramau. Cyfieithwyd hwy yn Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, a Sbaeneg.
  • OWEN, JOHN (1616 - 1683), diwinydd Piwritanaidd (Annibynnwr) 'Gyda Baxter a Howe, saif ar flaen y diwinyddion Piwritanaidd'. Ganwyd yn 1616, a bu farw 24 Awst 1683. Adroddir ei yrfa'n llawn yn y D.N.B., ond nid oes a fynno hi ddim â Chymru, ond yn yr ystyr mai ar weithiau diwinyddol John Owen y magwyd cenedlaethau o bregethwyr Calfinaidd enwocaf Cymru. Ond yr oedd gwaed Cymreig ynddo. Mab oedd ef i Henry Owen, ficer Stadhampton (swydd Rhydychen), ŵyr felly
  • OWEN, JOHN (bu farw 1759), bardd, telynor, llythyrwr berthynas rhwng y ddau a thra bu yn Llundain cyfeillachodd John Owen â Richard Morris gan ei gynorthwyo i baratoi gwaith Goronwy Owen ar gyfer y wasg. Ceir tua 30 o lythyrau o'i waith yn ogystal â pheth barddoniaeth ar fesur y cywydd. Yn 1758 cafodd swydd fel clerc ar long ryfel a bu farw o glefyd yn Gibraltar yng Ngorffennaf 1759.
  • OWEN, JOHN (1788 - 1867), clerigwr ac awdur Ganwyd yn 1788 yn fab Owen ac Elinor Owen, Cilirwysg, Llanfihangel Ystrad, Sir Aberteifi - y rhieni yn aelodau gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Cymerth dau o'r meibion urddau eglwysig (sef John a David Owen). Aeth John i ysgol Ystrad Meurig, i'w addysgu gan John Williams ('Yr hen Syr'). Ordeiniwyd ef yn Llanelwy gan yr esgob Cleaver; diacon 1811, offeiriad 1812. Bu'n gurad i ddechrau yn Hirnant
  • OWEN, JOHN (1807 - 1876) Tyn-llwyn,, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac ysgrifennwr ar amaethyddiaeth . Yn 1853 symudodd o'r Gwindy i Dyn-llwyn, Pentir (Bangor), fferm fawr ond a oedd wedi cael ei hesgeuluso. Ond yr oedd y perchennog yn Geidwadwr, a throwyd John Owen allan yn 1869 am bleidio Love Jones Parry o Fadryn yn etholiad 1868. Methodd gael fferm arall a oedd wrth ei fodd, felly aeth i gadw banc ym Mhorthmadog, ond ni bu'n llwyddiannus yno, a chymerth fferm Caenewydd yn Llangybi; eithr yn 1873
  • OWEN, JOHN (Owain Alaw; 1821 - 1883) eisteddfod Rhuddlan, 1851, enillodd ar gyfansoddi'r anthem 'Deborah a Barac,' ac yn yr eisteddfod hon yr urddwyd ef yn 'Owain Alaw.' Yr un flwyddyn yr oedd yn gydradd â John Ambrose Lloyd ar y gantawd 'Gweddi Habacuc' yn eisteddfod Porthmadog. Yn 1855 yr oedd yn fuddugol yn eisteddfod Llundain ar 'Can Mair,' ac ym Merthyr ar 'Y ddaeargryn,' yng nghymanfa Gwent a Morgannwg ar anthem 'Och, Anuwiol,' ac yn
  • OWEN, JOHN (1836 - 1915), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur 'Cân y Mochyn Du' (mewn llawysgrif) at y faled, a hwnnw'n dangos bod yr awdur yn credu mai dylanwad er drwg a gâi'r faled ar bobl ieuanc. Yn 1857, pan oedd yn was fferm yn Blaenmeini, Sir Benfro, clywodd bregeth gan John Jones, Ceinewydd, Sir Aberteifi, a wnaeth iddo benderfynu ymuno â'r Methodistiaid Calfinaidd a mynd ei hunan i'r weinidogaeth. Ddwy flynedd yn ddiweddarach priododd Elizabeth, ferch Thomas Rees, Tŷ