Canlyniadau chwilio

805 - 816 of 2571 for "john hughes"

805 - 816 of 2571 for "john hughes"

  • HUGHES, ARTHUR (1878 - 1965), llenor Ganwyd 2 Ionawr 1878 ym Bryn Melyn, ger Harlech, Meironnydd, yn fab i John Hughes Jones, meddyg yn Clwt y Bont, Sir Gaernarfon, a roes heibio'r cyfenw 'Jones'. Ei fam oedd Annie Harriet Hughes, (Gwyneth Vaughan, y nofelydd. Bu'n ' ysgolor Cymraeg ' yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, ac enillodd radd yno. Ef oedd golygydd dwy gyfrol a fu'n werthfawr iawn i efrydwyr, sef Cywyddau Cymru
  • HUGHES, ARWEL (1909 - 1988), cerddor Ganed Arwel Hughes ar 25 Awst 1909 yn 'Arwelfa', Rhosllannerchrugog, yn un o naw plentyn William a Catherine Hughes. Brawd iddo oedd y cerddor John Hughes (1896-1968). Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Rhiwabon ac yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, lle bu'n astudio cyfansoddi gyda C. H. Kitson a Ralph Vaughan Williams. Bu'n organydd eglwys St Margaret's, Westminster ac eglwys St Philip a St
  • HUGHES, CHARLES (1823 - 1886), cyhoeddwr Ganwyd 3 Mawrth 1823, mab Richard ac Anne Hughes, Wrecsam. Derbyniodd addysg yn y Fairfield Academy ac yn ysgol ramadeg Bridgnorth. Bu am bedair blynedd yn dysgu crefft y cyhoeddwr yn swyddfa Simpkin and Marshall, Llundain (1844-8), ac ar ôl gorffen ei brentisiaeth dychwelodd i dŷ cyhoeddi ei dad yn Church Street, Wrecsam. Fe'i dewiswyd yn gynrychiolydd i'r gynhadledd heddwch yn Frankfurt-Main yn
  • HUGHES, CLEDWYN (BARWN CLEDWYN O BENRHOS), (1916 - 2001), gwleidydd Ganwyd Cledwyn Hughes ar y 14eg o Fedi 1916 yn 13 Teras Plashyfryd, Caergybi, mab hynaf Henry David Hughes ac Emma Davies (gynt Hughes, a oedd yn weddw ifanc a mab bach, Emlyn, ganddi wrth iddi ail-briodi ym 1915). Trwy ei dad, yr oedd Cledwyn Hughes yn ddisgynnydd i genedlaethau o chwarelwyr llechi yn Sir Gaernarfon. Gadawodd Henry Hughes, a adweinid yn gyffredinol fel Harri Hughes, yr ysgol yn
  • HUGHES, DAVID (bu farw 1609), sefydlydd ysgol ramadeg rydd Biwmares ei eni c. 1536 ac na chafodd addysg brifathrofaol (John Morgan, David Hughes, Founder of Beaumaris Free Grammar School …, 1883; gweler hefyd Poetical Works of Richard Llwyd, t. 21n). Ymsefydlodd yn sir Norfolk ac apwyntiwyd ef yn stiward maenor Woodrising, c. 1596. Sefydlodd y 'Free Grammar School,' Biwmares, yn 1602. Yn ei ewyllys, sydd wedi ei dyddio 30 Medi 1609, gwaddolodd yr ysgol a gwnaeth
  • HUGHES, DAVID (1785 - 1850), clerigwr ac awdur Mab Daniel Hughes, Trefilan, Sir Aberteifi. Addysgwyd yn ysgol Ystrad Meurig a Choleg Iesu, Rhydychen, a graddio yn B.A. yn 1806 ac yn M.A. yn 1809. Yn 1805 dechreuodd weithio i Wasg Prifysgol Rhydychen fel un o'r rhai a oedd yn cywiro argraffiad diwygiedig y Beibl Cymraeg, a gyhoeddwyd yn 1809; yn 1806 etholwyd ef yn ysgolor o Goleg Iesu. Urddwyd ef yn esgobaeth Rhydychen (?) ac yn Rhagfyr, 1808
  • HUGHES, DAVID (1813 - 1872), gweinidog gyda'r Annibynwyr, ac awdur Ganwyd 21 Mehefin 1813 yn y Cefn-uchaf, Llanddeiniolen, Arfon, yn fab i Hugh ac Anne Hughes. Dechreuodd bregethu (yn eglwys Bethel) yn 19 oed, ac aeth i goleg Hackney, Llundain, ac oddi yno i Glasgow; dywedir iddo gael gradd B.A. yn Glasgow (nid cyn 1862 y peidiodd Glasgow â rhoi'r radd honno), a digon tebyg fod hynny'n wir, serch nad ymddengys ei enw ef yn rhestr argraffedig graddedigion y
  • HUGHES, DAVID (Cristiolus Môn; 1810 - 1881), ysgolfeistr a cherddor Ganwyd yn Llangristiolus, Môn. Bu'n cadw ysgol yn Nhrefdraeth a lleoedd eraill ym Môn, ac yn Rhewl gerllaw Rhuthun. Gadawodd y swydd o ysgolfeistr ac aeth yn ddarllenydd i swyddfa Thomas Gee, Dinbych. Wedi hynny bu'n llyfr-rwymydd, crefft a ddysgodd ei hun. Rhoddodd y gwaith o rwymo llyfrau i fyny, a phenodwyd ef yn gyfrifydd i John Parry, gwneuthurwr menyg, Dinbych a Chroesoswallt, a daliodd y
  • HUGHES, DAVID (1800 - 1849), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd yn Amlwch, sir Fôn, mab amaethwr cefnog. Cafodd addysg dda yng nghylch ei gartref; bu hefyd mewn ysgol yn Lerpwl. Ymaelododd yng nghapel y Tabernacl, Lerpwl, o dan weinidogaeth John Breese, a dechreuodd bregethu yno. Wedi iddo fod yng Ngholeg Caerfyrddin, 1824-28, urddwyd ef yn weinidog eglwys Heol y Felin, Casnewydd-ar-Wysg, 1 Ionawr 1829. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach urddwyd ef (11-13
  • HUGHES, DAVID (Eos Ial; 1794? - 1862), bardd a chyhoeddwr yn dwyn y teitlau, Ffrwyth y Profiad neu Waedd yn Erbyn Meddwdod ac Araith Beelsebub Tywysog y Fagddu Fawr. Rhaid fyddai i unrhyw hanes y mudiad dirwestol yn y ganrif ddiwethaf ystyried ei gyfraniad. Yr oedd hefyd yn aelod selog o'r Oddfellows. Am beth amser tua 1836 bu Hughes yn mynychu capel y Bedyddwyr yng Nghynwyd, ac y mae'n bosibl iddo'n ddiweddarach gael ei dderbyn fel aelod yng nghapel y
  • HUGHES, DAVID EDWARD (1829 - 1900), physegwr a dyfeisydd Ganwyd 18 Mehefin 1829 yn Llundain (myn rhai awdurdodau iddo gael ei eni yn Green y Ddwyryd, gerllaw Corwen), mab David Hughes, gynt o'r Bala ac wedi hynny o Lundain. Ymfudodd gyda'i deulu i Virginia, U.D.A. yn 1840, a chafodd ei addysg yn S. Joseph's College, Bardstown, Kentucky. Pan oedd yn 19 dewiswyd ef yn broffesor cerddoriaeth yn y coleg hwnnw a'r flwyddyn ddilynol cafodd gadair
  • HUGHES, DAVID ROWLAND (Myfyr Eifion; 1874 - 1953), ysgrifennydd yr Eisteddfod Genedlaethol Ganwyd 9 Medi 1874 ym Maesglas, Holywell, Fflint, yn fab i'r gorsaf-feistr William Hughes ac Elizabeth ei wraig. Addysgwyd ef yn ysgolion elfennol Porthmadog a Bangor; ysgol golegol Llandudno (1888-91); a cholegau Prifysgol Cymru ym Mangor (1891-92) ac yn Aberystwyth, ond bu'n rhaid iddo adael yn gynnar i ennill ei damaid. Dychwelodd i'w hen ysgol yn Llandudno fel athro am flwyddyn cyn troi i fyd