Canlyniadau chwilio

829 - 840 of 2571 for "john hughes"

829 - 840 of 2571 for "john hughes"

  • HUGHES, GARETH - gweler HUGHES, WILLIAM JOHN
  • HUGHES, GARFIELD HOPKIN (1912 - 1969), darlithydd prifysgol ac ysgolhaig Cymraeg Ganwyd 13 Rhagfyr 1912 yn yr Hendy, Pontarddulais, Morgannwg, yn fab John a Rachel Hughes. Addysgwyd ef yn ysgol y cyngor, yr Hendy, ac ysgol ramadeg Llanelli. Aeth i G.P.C., Aberystwyth, yn 1932, ac wedi ennill ysgoloriaeth Cynddelw yn 1934, graddiodd gydag anrhydedd yn y dosb. I yn y Gymraeg yn 1935, ac yn y dosb. II, i, yn Saesneg yn 1936. Wedi blwyddyn o hyfforddiant fel athro ysgol, penodwyd
  • HUGHES, GRIFFITH (1707), naturiaethwr Ganwyd ym mhlwyf Towyn, Sir Feirionnydd (fe'i bedyddiwyd yn eglwys Towyn 29 Ebrill 1707), mab Edward a Bridget Hughes. Ymaelododd yng Ngholeg S. Ioan, Rhydychen, 16 Mai 1729 (yn 22 oed), graddiodd, a rhoddwyd iddo, ym mis Mai 1748, radd M.A. - yr oedd yn un o'r offeiriadon yn New England y rhoddwyd graddau 'er anrhydedd' iddynt yn y cyfnod hwnnw. Fe'i dewiswyd gan yr S.P.G. ('Society for the
  • HUGHES, GRIFFITH (1775 - 1839), gweinidog Annibynnol
  • HUGHES, GRIFFITH WILLIAM (1861 - 1941), cyfrifydd a cherddor Ganwyd yng Nghefnmawr 22 Chwefror 1861. Mab i Griffith ac Ann Hughes. Wedi gorffen ei addysg yn yr ysgol elfennol, rhoddodd y fonesig Williams Wynn flwyddyn o addysg iddo yn ysgol ramadeg Rhiwabon. Wedi gorffen ei gwrs addysg, penodwyd ef yn gyfrifydd yn swyddfa cwmni glo Wynnstay. Yn fachgen cafodd ei addysg gerddorol yn nosbarth J. O. Jones, Pen-y-cae, ac wedi hynny yn nosbarth Edward Hughes
  • HUGHES, HENRY (1841 - 1924), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a hanesydd (Caernarfon, 1895); (4) Trefecca, Llangeitho a'r Bala (Caernarfon, 1896); (5) Owen Owens, Cors-y-wlad (Dolgelley, 1898); (6) Hanes Diwygiadau Crefyddol Cymru (Caernarfon, 1906); (7) Adgofion am y diweddar Barch. John Williams, Llecheiddior, gan Richard Eames a Henry Hughes (Bangor, 1885). Yr oedd yn gryn awdurdod hefyd ar hanes hen deuluoedd sir Gaernarfon. Bu farw 13 Awst 1924.
  • HUGHES, HENRY BAILEY (1833 - 1887), offeiriad Catholig Ganwyd yng Nghaernarfon, lle'r oedd ei dad, y Parch. Howell Hughes, yn gurad. Yn ddiweddarach bu ei dad yn rheithor Trefriw (1833-9) a Rhoscolyn, Môn (1839-48). Ymunodd Henry Bailey ag Eglwys Rufain pan tua 16 oed. Bu yn y Coleg Dominicaidd yn Lisbon ac ar deithiau cenhadol yn Ewrob, Affrica, a'r Unol Daleithiau. Pan ddychwelodd i Gymru sefydlodd ar ynys Sant Tudwal, ar arfordir Llŷn, a bu'n
  • HUGHES, HENRY HAROLD (1864 - 1940), hynafiaethydd Ganwyd yn Lerpwl, mab Richard Hughes, ficer eglwys S. Catherine, Edge Hill, ac wyr John Hughes (1787 - 1860). Aeth i'r Liverpool College, a chafodd ei hyfforddi yng nghrefft pensaer dan Arthur Baker, F.R.I.B.A., a atgyweiriodd amryw eglwysi yng Ngogledd Cymru, merch yr hwn, sef Charlotte Elisabeth, a briododd. Cychwynnodd fel arch-adeiladydd ym Mangor tua 1891, a daeth yn A.R.I.B.A. Yn 1900
  • HUGHES, HENRY MALDWYN (1875 - 1940), diwinydd a gweinidog Wesleaidd Ganwyd yn Nhrefeglwys, Sir Drefaldwyn, 17 Medi 1875, mab y Parch. John Hughes ('Glanystwyth'). Addysgwyd ef yn ysgol Kingswood, Bath, Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, a Choleg Diwinyddol Didsbury, Manceinion. Graddiodd yn B.A. a D.D. ym Mhrifysgol Llundain. Ordeiniwyd ef i'r weinidogaeth Wesleaidd yn 1896 a bu'n gweinidogaethu yn Bromyard, Birmingham, Southport, Wallasey, Edinburgh, a Clapham
  • HUGHES, HOWEL HARRIS (1873 - 1956), gweinidog (MC), prifathro'r Coleg Diwinyddol, Aberystwyth Ganwyd 7 Medi 1873, ym Mryn-teg, Llanfair Mathafarn Eithaf, Môn, mab J. Richard Hughes, gweinidog (MC), a Jane ei briod. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Biwmares, Coleg y Brifysgol, Bangor (lle graddiodd yn y celfyddydau), a Choleg Diwinyddol y Bala (lle graddiodd mewn diwinyddiaeth - un o'r ddau gyntaf a gafodd radd B.D. Cymru). Ordeiniwyd ef yn 1901, a bu'n gweinidogaethu ym Mhenmachno (1901-03
  • HUGHES, HUGH (BRYTHON) (1848 - 1913), athro ysgol a llenor Ganwyd 8 Ebrill 1848 yn Tregarth, Bangor, unig fab Hugh Derfel Hughes. Addysgwyd ef yng Ngholeg Normal Bangor, ac wedi iddo gwpláu'r cwrs yno bu'n dal swyddi fel athro yn Walsall, Abercarn, Gwalchmai, Parc (y Bala), a Llanelian. Ysgrifennai farddoniaeth a rhyddiaith i gylchgronau a newyddiaduron Cymraeg, ac ysgrifennodd nifer o lyfrau darllen i blant: Tlysau Ynys Prydain, 1902, Ystorïwr y plant
  • HUGHES, HUGH (Huw ap Huw, Y Bardd Coch o Fôn; 1693 - 1776), bardd ac uchelwr O Lwydiarth Esgob ym mhlwyf Llandyfrydog, aelod gohebol o Gymdeithas y Cymmrodorion, ac un o gyfeillion y Morysiaid. Yn ôl J. E. Griffith, mab ydoedd i Hugh Hughes a Margaret, merch David ap William Parry o Fiwmares, barcer, a ganwyd ef 1 Awst 1693. Tua 1719 priododd Ann, merch Edward Jones o Rydyrarian, a ganwyd iddynt amryw o blant; bu hi farw ddechrau 1759. Rai blynyddoedd cyn diwedd ei oes