Canlyniadau chwilio

853 - 864 of 2571 for "john hughes"

853 - 864 of 2571 for "john hughes"

  • HUGHES, JAMES (Iago Trichrug; 1779 - 1844), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, bardd, ac esboniwr Beiblaidd Ganwyd 3 Gorffennaf 1779, yn y Neuadd-ddu, Ciliau Aeron, Sir Aberteifi, mab Jenkin ac Ellen Hughes. Cafodd ychydig o addysg elfennol yn ei ardal a phrentisiwyd ef yn of. Cafodd dröedigaeth yn 1797 wrth wrando ar y Parch. Dafydd Parry, Llanwrtyd, ac ymaelododd gyda'r Methodistiaid yn Llangeitho. Aeth i Lundain yn 1799 ac ymsefydlodd yn Deptford, lle bu'n flaenllaw gyda chychwyniad achos crefyddol
  • HUGHES, JAMES (Iago Bencerdd; 1831 - 1878), cerddor
  • HUGHES, JANE (Deborah Maldwyn; 1811 - 1878), emynyddes Yn ôl copi John Hughes o lyfr bedyddiadau Capel Uchaf Pontrobert (yng nghasgliad llawysgrifau D. Teifigar Davies yn Ll.G.C.) ymddengys mai trydydd plentyn (a thrydedd ferch) y Parch. John Hughes (1775 - 1854), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ym Mhontrobert a Ruth (Evans) ei briod oedd Jane Hughes, ac iddi gael ei geni ar 25 Mehefin a'i bedyddio ar 2 Gorffennaf 1811 gan Evan Griffiths
  • HUGHES, JANE MYFANWY - gweler EAMES, WILLIAM
  • HUGHES, JOHN (1776 - 1843), gweinidog Wesleaidd, a hynafiaethydd Ganwyd yn Aberhonddu, 18 Mai 1776, mab i William Hughes, hetiwr, o'i ail wraig Elizabeth Thomas, o Dan-y-cefn gerllaw Aberhonddu; ar garreg fedd ei thad John Thomas (Jones, History of the County of Brecknock, 3ydd arg., iv, 159), a fu farw yn 1757 yn 55 oed, gelwir ef yn 'gent.'; aeth ei brawd John (1752 - 1829) i Rydychen, a bu'n ficer Caerlleon-ar-Wysg (1784?-1829). Yn 1778, aeth John Hughes i
  • HUGHES, JOHN (1787 - 1860), archddiacon Ceredigion, clerigwr efengylaidd, a llenor Ganwyd yn Llwynglas, Llanfihangel Geneu'r Glyn. Addysgwyd ef yn Ystrad Meurig yn nyddiau John Williams, mab ' Yr Hen Syr.' Wedi hynny, bu'n athro cynorthwyol yn ysgol Putney, ger Llundain, am 18 mis. Ordeiniwyd ef yn ddiacon ac offeiriad gan esgob Llanelwy yn 1811. Ei guradiaeth gyntaf oedd Llandrillo-yn-Rhos, ger Colwyn. Bu yno chwe mlynedd a'r wlad ogylch yn tyrru i'w wrando. Derbyniodd
  • HUGHES, JOHN (1827 - 1893), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd 27 Medi 1827 yn nhŷ capel y Methodistiaid Calfinaidd, Llannerch-y-medd, Môn, mab i John ac Ellen Hughes. Yn 15 oed prentisiwyd ef yn grydd; bu hefyd yn gyflogydd cryddion. Dysgodd William Roberts, Amlwch, Roeg iddo. Cyflwynwyd ei achos yng nghyfarfod misol Cemaes, 20 Rhagfyr 1847, a derbyniwyd ef yng nghyfarfod misol y Garreglefn, 17 Ionawr 1848. Aeth i athrofa'r Bala, Awst 1848; yr oedd
  • HUGHES, JOHN (1796 - 1860), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac awdur Ganwyd yn Adwy'r Clawdd, 11 Chwefror 1796, yn fab i Hugh (saer coed) a Mary Hughes, ac yn ŵyr i Richard Hughes o'r Sarffle, Llanarmon Dyffryn Ceiriog; yr oedd felly'n frawd i Richard Hughes, yr argraffydd yn Wrecsam, ac yn gyfyrder i John Ceiriog Hughes. Dechreuodd bregethu yn 1813, ac yn 1815 aeth i gadw ysgol mewn gwahanol fannau; yn 1819 agorodd ysgol yn Wrecsam, y bu iddi gryn enw, oblegid
  • HUGHES, JOHN (1775 - 1854), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, awdur, ac emynydd dduwioldeb. Ysgrifennodd lawer i gyfnodolion ei oes, a chyhoeddodd gofiannau, casgliadau o emynau, a phregethau. Ei gofiant hynotaf yw'r un i Ann Griffiths (a ymddangosodd yn Y Traethodydd, 1846, ac yn llyfryn yn 1854). Cyhoeddodd hefyd Cofiant Owen Jones o'r Gelli, 1830, Cofiant William Jones, Dol-y-fonddu, ac E. Griffiths, Meifod, 1841, a Cofiant Abraham Jones, Aber-rhaiadr, a John Price, Trefeglwys
  • HUGHES, JOHN (1814 - 1889), peiriannydd ac arloeswr gweithfeydd yn Rwsia diwydiannau heb ei datblygu; rhaid oedd i'r wlad ddwyn i mewn ddur a haearn o ardaloedd Merthyr a Dowlais ar draul enfawr. Er mwyn arbed hyn penderfynodd ddatblygu ei diwydiannau ei hun, a gwahoddwyd John Hughes i sefydlu gweithfeydd yn Rwsia. Caniatawyd iddo ddewis unrhyw safle addas, a thramwyodd y wlad o ben bwygilydd. O'r diwedd penderfynodd sefydlu yn nyffryn eang y Donetz mewn lle unig ar y Steppes
  • HUGHES, JOHN (c. 1790 - 1869), cerddor Ganwyd John Hughes yn Ninbych c. 1790. Gwasanaethai yng ngwesty'r Wynnstay Arms, Wrecsam, ym more ei oes. Hoffai gerddoriaeth, dysgodd ganu amryw offerynnau cerdd, a phenodwyd ef yn arweinydd seindorf catrawd filwrol sir Ddinbych. Yn eisteddfod Wrecsam, 1820, enillodd wobr am 'Yr amrywiaeth gorau o un o Geingciau Cymru.' Yn eisteddfod y Fenni, 1838, enillodd y wobr a thlws am yr erddygan Gymreig
  • HUGHES, JOHN (Glanystwyth; 1842 - 1902), gweinidog Wesleaidd Wilcox. Mab iddo oedd Henry Maldwyn Hughes. Golygodd Y Winllan, 1874-7; Y Gwyliedydd, 1890-2; Yr Eurgrawn, 1897-1902. Ef oedd golygydd y llyfr emynau newydd, 1900. Ysgrifennodd Arwrgerdd John Penri, Oesau Boreu y Byd, Bywyd Crist, Delw y Nefol (pregethau), Esponiad ar y Colosiaid, Cofiant Isaac Jones. Ef oedd cychwynnwr y mudiad i gael papur newydd enwadol, Y Gwyliedydd, 1877, a'r mudiadau i gael