Canlyniadau chwilio

841 - 852 of 2571 for "john hughes"

841 - 852 of 2571 for "john hughes"

  • HUGHES, HUGH (1790 - 1863), arlunydd ac awdur Ganwyd ym Mhwll-y-gwichiaid, Llandudno (bedyddiwyd 20 Chwefror 1790), yn fab i Thomas a Jane Hughes. Addysgwyd ef gan ei daid, Hugh Williams, a gadwai ysgol yn y Meddiant, Llansantffraid Glan Conwy. Bu farw ei fam yn 1802, a'i dad yn fuan wedyn yn Lerpwl. Yno y dysgodd Hugh Hughes gerfio, a darlunio mewn olew; y gwaith cyntaf sydd gennym o'i law yw'r darlun hysbys o John Evans o'r Bala sydd yn y
  • HUGHES, HUGH (Tegai; 1805 - 1864), gweinidog Annibynnol Ganwyd yn Llandegai, 1805, mab Thomas a Barbara Hughes, Annibynwyr eiddgar o sir Fôn. Pan gaewyd capel Annibynnol Cororion, Tregarth, Llandegai, ymunodd â'r Wesleaid yn Shiloh, Tregarth, a daeth yn bregethwr cynorthwyol. Ni bu mewn ysgol ddydd, ond cafodd addysg ysgolion Sul Cororion a Shiloh. Yn ieuanc iawn, aeth i weithio yn chwarel lechau Bethesda, a rhagorodd fel chwarelwr. Darllenai ac
  • HUGHES, HUGH (1778 - 1855), gweinidog Wesleaidd Nodiadau John Wesley ar y Testament Newydd, 1831. Ysgrifennodd ei hunangofiant, a chyhoeddwyd ef ar ôl ei farwolaeth dan olygiaeth ei fab-yng-nghyfraith, Isaac Jenkins. Mab iddo oedd JOHN HUGHES, meddyg, crwner, ac ustus heddwch yng Nghaerfyrddin, a thad Hugh Price Hughes; merch iddo oedd gwraig Isaac Jenkins; bu ei ddau blentyn arall farw, y naill yn faban a'r llall, Hugh, yn 27 oed.
  • HUGHES, HUGH (Cadfan Gwynedd, Hughes Cadfan; 1824 - 1898), un o'r arloeswyr yn Patagonia y ffugenw ' Cadfan Gwynedd,' ac adwaenid ef yn y Wladfa fel ' Hughes Cadfan.' Bu farw 7 Mawrth 1898.
  • HUGHES, HUGH DERFEL (1816 - 1890) Ganwyd 7 Mawrth 1816 ym Melin y Cletwr, Llandderfel, Meirionnydd; ei dad Hugh Hughes oedd y melinydd yno hyd 1822, pan symudodd i Landderfel (bu farw yn 1829). Gorfu i'r bachgen wasnaethu ar ffermydd yma ac acw am rai blynyddoedd ond o'r diwedd cafodd le fel pwyswr yn chwarel y Penrhyn, Bethesda, Arfon. Priododd yn 1846 ac ymsefydlu yng nghartref ei wraig ym Mhendinas, Tregarth, lle bu byw hyd ei
  • HUGHES, HUGH JOHN (1828? - 1872), awdur a cherddor
  • HUGHES, HUGH JOHN (1912 - 1978), athro ysgol, awdur, golygydd ac adolygydd Ganwyd 18 Awst 1912 ym Mwlch-gwyn, Garndolbenmaen, Sir Gaernarfon, yr hynaf o ddau fab Thomas Hughes, ffermwr, a'i wraig Mary Jane (gynt Jones). (Roedd y brodyr John Roberts, Llangwm, a Robert Roberts, Clynnog, pregethwyr amlwg gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn eu dydd, ymhlith ei hynafiaid). Addysgwyd ef yn ysgol y cyngor Brynengan (1917-25), ysgol sir Pen-y-groes (1925-31; (enillodd y gadair
  • HUGHES, HUGH MICHAEL (1858 - 1933), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd 13 Awst 1858 yn Llanllechid, Sir Gaernarfon, mab Michael ac Elisabeth Hughes. Cafodd ei addysg yn y Coleg Coffa, Aberhonddu, ac yng ngholegau'r brifysgol yn Aberystwyth a Chaerdydd. Fe'i hordeiniwyd yn 1886 a bu'n bugeilio eglwysi'r Hen Dabernacl, Caergybi; Grove Street, Lerpwl; ac Ebenezer, Caerdydd - yr olaf o'r rhain am yn agos i 40 mlynedd. Yr oedd yn bregethwr nodedig, yn amlwg iawn
  • HUGHES, HUGH PRICE (1847 - 1902), gweinidog Wesleaidd mab John Hughes, llawfeddyg, Caerfyrddin, ac Anne ei wraig (ŵyres Samuel Levi Phillips); ganed yn y dref honno 8 Chwefror. O du ei fam perthynai i David Charles (I a II). Bu mewn ysgolion yng Nghaerfyrddin ac Abertawe, ac yna aeth i Goleg Richmond, Llundain. Graddiodd B.A. ym Mhrifysgol Llundain yn 1869, ac M.A. yn 1884. Yn Dover yr oedd ei ofalaeth gyntaf, ac ar ôl gweinidogaethu yn Brighton
  • HUGHES, HUGH ROBERT (1827 - 1911) Kinmel, Dinorben,, yswain ac achyddwr Ganwyd 6 Mehefin 1827, yn fab i Hugh Robert Hughes, Bache Hall, sir Gaer, o'i ail wraig, Anne, merch Thomas Lance, Wavertree Hall Lancashire. Y cyntaf o'r teulu i ymsefydlu yng Nghinmel, hen gartref yr Holandiaid oedd ei daid y Parch. Edward Hughes, M.A. (1738 - 1815), a brynodd y stad yn niwedd y 18fed ganrif. Mab ydoedd ef i Hugh Hughes, Lleiniog, Môn (1705/6 - 1773/4), a fu'n ysgrifennydd
  • HUGHES, HYWEL STANFORD (1886 - 1970), ranshwr, cymwynaswr a chenedlaetholwr Ganwyd 24 Ebrill 1886, yn yr Wyddgrug, Fflint, plentyn ieuangaf ac unig fab Owen Hughes, gweinidog (EF), a'i wraig, Elizabeth. Daeth ei chwiorydd yn flaenllaw ym mudiad y swffragetiaid, yn arbennig Vyrnwy a fu'n amlwg fel newyddiadurwraig a cholofnydd i'r Daily Mail dan yr enw Anne Temple. Bu hi fel ei chwiorydd, Morfudd a Blodwen, yn gyfeillgar â Mrs. Pankhurst. Cyfnither iddynt oedd Sarah Pugh
  • HUGHES, ISAAC (Craigfryn; 1852 - 1928), nofelydd Ganwyd yn Quakers Yard, Sir Forgannwg, yn fab i Daniel Hughes, crydd. Ychydig o ysgol a gafodd. Yr oedd yn gweithio yng nglofa Llancaiach, Gelligaer, pan oedd yn 9 oed. Yn ddiweddarach, treuliodd chwe mis yn yr ysgol a gedwid gan Thomas Evans yn y Carpenters Arms. Ysgrifennai farddoniaeth a storïau byrion i gylchgronau a chyfnodolion Cymraeg, ond yn 1881 y daeth i fri pan enillodd ei nofel, Rhys