Canlyniadau chwilio

817 - 828 of 2571 for "john hughes"

817 - 828 of 2571 for "john hughes"

  • HUGHES, DEWI ARWEL (1947 - 2017), diwinydd ac arweinydd Cristnogol Ganwyd Dewi Arwel Hughes ar 1 Ionawr 1947 yn Bugeilfod, Llangwm, Sir Ddinbych, yr ieuengaf o bedwar o blant Gruffudd Evans Hughes (1912-1975), gwerthwr nwyddau amaethyddol, a'i wraig Annie (g. Edwards, 1908-1957), gwniadwraig. Roedd ganddo dair chwaer, Elen Haf, Lona Wyn a Gwenan Arwel. Flwyddyn wedi ei eni, symudodd y teulu i Garth Isa, Frongoch ger y Bala. Bu farw ei fam yn 1957, pan oedd Dewi
  • HUGHES, EDWARD (1856 - 1925), ysgrifennydd cyffredinol a chynrychiolydd y 'North Wales Miners Association' Ganwyd 22 Mawrth 1856 yn Trelogan, Sir y Fflint, mab Hugh a Maria Hughes, Ffordd Faen, Trelogan. Gweithiwr ar ffermydd oedd y tad. Yn ei atgofion (sydd heb eu cyhoeddi) dywed Edward Hughes iddo gael yr hyn nas cafodd ei frodyr, sef mynd am dair blynedd i ysgol ym mhentre Trelogan, a sefydlasid trwy ymdrechion blaenor gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a oedd yn farsiandwr yn Lerpwl. Yn 1863, yn
  • HUGHES, EDWARD (Y Dryw; 1772 - 1850), eisteddfodwr Ganwyd yn Nannerch (bedyddiwyd 9 Gorffennaf), mab Benjamin Hughes, Walgoch, Nannerch. Addysgwyd ef yn S. Alban's Hall, ac ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, yn 1794; B.A., 1797; M.A., 1800. Bu'n gaplan yn y fyddin am beth amser, a hefyd yn yr un swydd ar long ryfel yn yr ymgyrch anffodus i ynys Walcheren yn 1809. Bu'n rheithor Llanddulas o 1814 i 1818, a Bodfari o 1818 i 1850. Dyfarnwyd ei
  • HUGHES, EDWARD (bu farw 1862), telynor mab William Hughes, telynor, Llansantffraed, Sir Drefaldwyn. Enillodd ' Eos Maldwyn delyn werthfawr yn un o eisteddfodau Cymreigyddion y Fenni. Bu farw o'r darfodedigaeth, yn Lerpwl, 9 Rhagfyr 1862.
  • HUGHES, EDWARD (1738 - 1815) - gweler HUGHES, HUGH ROBERT
  • HUGHES, EDWARD DAVID (1906 - 1963), gwyddonydd ac Athro cemeg Coleg Prifysgol Llundain Ganwyd yn fferm Ynysgain Bach ger Llanystumdwy, Caernarfon, 18 Mehefin 1906 yn fab ieuangaf o naw o blant i Huw ac Ann Hughes a ddaeth yn wreiddiol o Landecwyn, Meirionnydd. Addysgwyd ef yn ysgol gynradd Llanystumdwy ac ysgol sir Porthmadog. Bu'n ffodus iawn i gael athro gwyddoniaeth arbennig yn W. J. Hughes ac o'r herwydd sicrhaodd le iddo'i hun yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, i astudio o dan
  • HUGHES, EDWARD ERNEST (1877 - 1953), Athro hanes cyntaf Coleg y Brifysgol, Abertawe, a dolen gyswllt nodedig rhwng y brifysgol a'r werin Ganwyd 7 Chwefror 1877 yn Nhywyn, Meirionnydd, yn un o wyth o blant Owen a Catherine Hughes, ei dad yn blismon a orffennodd ei yrfa yn is-brif gwnstabl ei sir. Mewn canlyniad i ddamwain pan oedd yn blentyn collodd Ernest Hughes olwg un llygad yn llwyr ac amharwyd ar y llall, anfanteision a orchfygodd i raddau helaeth trwy ddatblygu ei gof a'i glyw. Aeth i ysgol ramadeg y Bala, gan aros yn nhŷ'r
  • HUGHES, ELIZABETH PHILLIPS (1851 - 1925), addysgydd Ganwyd yng Nghaerfyrddin, 12 Gorffennaf 1851, merch John Hughes, meddyg, ac Anne (Phillips) ei wraig. Hugh Hughes, gweinidog gyda'r Methodistiaid Wesleaidd, oedd ei thaid; ar ochr ei mam yr oedd yn disgyn o Iddewon a Saeson. Arferai ei brawd, Hugh Price Hughes ddweud mai'r cymysgedd gwaed hwn oedd yn cyfrif am y bywiogrwydd meddwl a oedd yn nodweddiadol ohono ef a'i chwiorydd - gwnaethant i gyd
  • HUGHES, EMRYS DANIEL (1894 - 1969), gwleidydd, newyddiadurwr ac awdur Ganwyd 10 Gorffennaf 1894, yn fab i J.R. Hughes, 94 Henry Street, Tonypandy, Morgannwg, gweinidog (MC), ac Annie (ganwyd Williams) ei wraig. Addysgwyd ef yn ysgol y cyngor, Abercynon, Morgannwg, ysgol uwchradd Aberpennar, a choleg addysg dinas Leeds. Fel athro ysgol a newyddiadurwr ym Mhontypridd a'r Rhondda, daeth yn aelod brwd o'r Blaid Lafur a bu cysylltiad agos rhyngddo a Keir Hardie, A.S
  • HUGHES, EVAN (bu farw 1800), curad ac awdur
  • HUGHES, EZEKIEL (1766 - 1849), arloeswr ymfudo i orllewin U.D.A. Ganwyd 22 Awst 1766, mab Richard Hughes, Cwm Carnedd Uchaf, Llanbrynmair. Ymddengys iddo dderbyn rhyw gymaint o addysg yn Amwythig. Yn 20 oed, ymrwymodd i fod yn brentis i John Tibbott, y clociwr o'r Dre Newydd. Wedi gorffen ei brentisiaeth, symudodd i Fachynlleth i agor gweithdy clociau ar ei gyfrifoldeb ei hun (1789), pryd y daeth dan ddylanwad William Jones, Llangadfan. Ganol Gorffennaf 1795
  • HUGHES, GAINOR (1745 - 1780), ymprydwraig ('Ioan Pedr') a David Robert Daniel, oedd pwy oedd piau'r ddau englyn a ysgyrthrwyd ar garreg fedd Gainor Hughes. Barnodd Peter mai gwaith Jonathan Hughes oeddynt ac, wedi peth pendroni, daeth Daniel i'r casgliad ei fod yn gytûn, er na chredai i enw'r bardd erioed gael ei nodi ar y garreg. Mae tystiolaeth lawysgrifol yn awgrymu mai John Rees (Rice) o Lanrhaeadr-ym-Mochnant oedd y bardd, fodd bynnag