Canlyniadau chwilio

1093 - 1104 of 2571 for "john hughes"

1093 - 1104 of 2571 for "john hughes"

  • JONES, EDWARD (Bardd y Brenin; 1752 - 1824), telynor, trefnydd a chyhoeddwr cerddoriaeth i'r delyn, casglwr a chyhoeddwr hen benillion, alawon cenedlaethol, a chyfieithiadau i'r Saesneg, hanesydd llenyddiaeth Gymraeg ac offerynnau cerdd y Cymry, casglwr llawysgrifau a hynafiaethydd Ganwyd yn Henblas, Llandderfel, Sir Feirionnydd, a'i fedyddio 29 Mawrth 1752, pedwerydd plentyn John a Jane Jones o naw o blant. Dywedir bod y tad yn gerddor galluog, yn fedrus ar ganu amryw o offerynnau, yn delynor, a gwneuthurwr telynau. Hyfforddwyd rhai o'r plant ganddo i ganu gwahanol offerynnau, a pharatowyd Edward ar gyfer galwedigaeth gerddorol. Ymddiddorodd yn gynnar mewn barddoniaeth ac
  • JONES, EDWARD (1761 - 1836) Maesyplwm,, bardd, amaethwr, ac athro ysgol Ganwyd yn Nhan-y-Waen, Prion, Llanrhaeadr yng Nghinmerch, 19 Mawrth 1761, yn fab i John Jones, amaethwr, a'i wraig Ann, ferch William Williams, Rhyd-y-Cilgwyn. Pan oedd ef tua blwydd oed symudodd y teulu i fyw ym Mryn-y-gwynt-isaf yn yr un plwyf. Bu'r tad farw pan oedd ef tua 10 oed. Ychydig o ysgol a gafodd, a hynny dan Daniel Lloyd, gweinidog yr Annibynwyr yn Ninbych, ond gwnaeth ei orau i'w
  • JONES, EDWARD (1741? - ar ôl 1806), pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg ac un o ddau gychwynnydd eu hachos yno; ond cafodd fwy o enw am ei ffaeleddau nag am ei rinweddau. Cytunir mai gŵr o Lansannan ydoedd, ac uniaetha D. E. Jenkins ef a'r Edward, fab i John Edwards, Arllwyd, a fedyddiwyd 1 Ebrill 1741; cydweddai hyn â'r 'tua 60 oed' a roddir i Edward Jones ddechrau 1801 yng nghofnodion y llys barn. Bu'n filwr yn y ' Life Guards '; daeth dan ddylanwad George
  • JONES, EDWARD (fl. 1781-1831) Temple,' ond dylid cofio mai 'the Temple ' a roddir fel cyfeiriad Robert Hughes ('Robin Ddu') yn rhestr aelodau'r Cymmrodorion yn 1778, a gwyddom mai clerc mewn swyddfa cyfreithwyr oedd hwnnw; gan nad ymddengys enw unrhyw Edward Jones yn rhestrau unrhyw un o'r ' Inns of Court,' haws yw credu mai clerc oedd ' Ned Môn ' yntau. Priodola ' Gwilym Lleyn ' dri llyfr iddo: cyfieithiad Saesneg o ddau draethawd
  • JONES, EDWARD (1826 - 1902), awdur Y Gymdeithasfa, 1891, llyfr defnyddiol iawn ar hanes y Methodistiaid Calfinaidd yng Ngogledd Cymru Ganwyd yn Cae-garw, Dyffryn Ardudwy, yn fab i John a Gwen Jones. Bu farw ei dad pan nad oedd ef ond plentyn, a bu'n gweithio ar ffermydd hyd 1853, pan aeth i Goleg y Bala i'w hyfforddi at fod yn athro ysgol. Bu wedyn yng ngholeg hyfforddi Borough Road, ac am dymor byr yn athro ysgol ym Mlaenau Ffestiniog; ond yn 1854 cafodd ysgol yn Llanllechid, lle y priododd ag Elizabeth Roberts o'r lle hwnnw
  • JONES, EDWARD (1782 - 1855), gweinidog Wesleaidd bu'n olygydd iddo, 1829-35; cyhoeddodd gasgliad o emynau, a chyfieithiad, 1833, o bregethau John Wesley. Eithr fel dadleuydd diwinyddol y gwnaeth ei brif enw. Yn 1812, cyfieithodd lyfr Thomas Oliver, Cyflawn Wrthbrawf i'r Athrawiaeth o Barhad Diammodol mewn Gras; yn 1819 cyhoeddodd Amddiffynydd y Gwir, yn ateb i bamffledyn gan John Parry o Gaerlleon Fawr, 1818; ac yn 1829 neu 1830 Lladmerydd - a
  • JONES, EDWARD (1790 - 1860), gweinidog gyda'r M.C. Ganwyd 11 Medi 1790, mab Edward Jones, Rhiwlas, plwyf Llanfihangel-genau'r-glyn, Sir Aberteifi, a Mary ei wraig. Addysgwyd ef i fod yn gyfrwywr, ac yn 20 oed aeth i Lundain lle y clywodd John Elias yn pregethu, ac yna i Fryste. Dychwelodd i'w gynefin a dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd; neilltuwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn 1829. Rhagorai nid yn gymaint fel pregethwr
  • JONES, EDWARD (1775 - 1838), gweinidog Wesleaidd weithiau a gyhoeddwyd yn Yr Eurgrawn Wesleyaidd yn H. Wesl. G., i, 276. Dywedir iddo ef a John Bryan gyhoeddi casgliad o emynau yn 1805, ond credai T. Jones Humphreys mai Edward Jones, Bathafarn oedd cydolygydd y gwaith hwnnw.
  • JONES, EDWARD (bu farw 1586), cynllwynwr mab hynaf Edward Jones o Blas Cadwgan, sir Ddinbych, a Cornhill, Llundain (teiliwr i Fari Tudur a meistr y wardrob yn llys Elisabeth I), a oedd yn fab i John ap David ap Robert, un o ddisgynyddion Cynwrig ap Rhiwallon. Bu Edward Jones, yr hynaf (siryf sir Ddinbych yn 1576), farw yng Nghadwgan yn 1581, gan adael symiau sylweddol o arian i'w berthnasau yng ngogledd Cymru ac i sefydlu ysgol ramadeg
  • JONES, EDWARD (1834 - 1900), meddyg ac arweinydd llywodraeth leol yn 1878. Bu farw 5 Chwefror 1900, gan adael gweddw a saith o blant - chwe mab ac un ferch. Bu dau o'i feibion, Hugh a John, hefyd yn feddygon yn Nolgellau.
  • JONES, ELEN ROGER (1908 - 1999), actores ac athrawes ffilm Owain Glyndŵr ar S4C. Fe wnaeth hi hefyd actio mewn cyfresi Saesneg, gan gynnwys District Nurse, gyda'r actores Nerys Hughes. Bu Nerys yn hael iawn ei chanmoliaeth tuag at Elen, gan sylwi ar ei phroffesiynoldeb yn syth, a'r ffaith nad oedd hi byth yn anghofio ei llinellau. Cafodd ei disgrifio gan John Hefin Evans fel actores '1 take'. Un peth sydd yn gyffredin yn yr amrywiaeth o rolau iddi hi eu
  • JONES, ELIZABETH JANE LOUIS (1889 - 1952), ysgolhaig Ganwyd 28 Ebrill 1889 yn Llanilar, Ceredigion, unig blentyn John Lloyd, marchnatwr coed, a'i wraig Elizabeth (ganwyd Edwards). Cafodd ei haddysg gynnar yn Ysgol y Sir, Aberystwyth ac oddi yno aeth i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, ac yn 1911 graddiodd gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn Cymraeg. Dyfarnwyd iddi Gymrodoriaeth gan y Brifysgol ar gyfrif ei theilyngdod. Parhaodd i astudio am