Canlyniadau chwilio

1117 - 1128 of 2571 for "john hughes"

1117 - 1128 of 2571 for "john hughes"

  • JONES, GRIFFITH (1683 - 1761), diwygiwr crefyddol ac addysgol Ganwyd 1683 yn Pant-yr-efel, Cwmhiraeth, Penboyr, Sir Gaerfyrddin, a'i fedyddio ar 1 Mai 1684, yn fab John ap Gruffydd ac Elinor John. Bu yn ysgol y pentref ac wedyn yn bugeilio defaid. Penderfynodd fynd yn glerigwr ac aeth i ysgol ramadeg Caerfyrddin. Tua 1707 gofynnodd am gael ei ordeinio; yn ôl John Evans, Eglwys Cymyn, fe'i gwrthodwyd fwy nag unwaith, eithr trwy ddylanwad Evan Evans, ficer
  • JONES, GRIFFITH (1808 - 1886) Tregarth, Bangor, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Mab John Humphreys, Ty'n-y-clawdd, Tregarth. Cafodd gwrs byr o ysgol yn y Carneddi, ac wedyn yn Llanfairfechan. Gyda'i dad dysgodd grefft crydd. Dechreuodd bregethu yn 1832. Wedi iddo fod yn y Bala am oddeutu blwyddyn a chael ei dderbyn i'r gymdeithasfa yn 1834 ordeiniwyd ef yn 1845. Gwrthododd gymryd ei symud o'i fro gynefin ac yno y bu farw 18 Ebrill 1886. Galwyd ef i fugeilio'r eglwys yn
  • JONES, GRIFFITH ARTHUR (1827 - 1906), clerigwr Ganwyd yn Rhiwabon, a'i fedyddio 16 Gorffennaf 1827, unig fab a phumed plentyn John Jones (curad Rhiwabon 1819-30, a rheithor Llangwm 1830-72) a Charlotte Harriett ei wraig. Ymaelododd ym Mhrifysgol Rhydychen o Goleg Iesu, Ebrill 1847, a graddio'n B.A. yn 1851 ac yn M.A. yn 1853. Ordeiniwyd ef yn ddiacon gan yr esgob Bethell o Fangor, 21 Rhagfyr 1851, a'i drwyddedu i guradiaeth Heneglwys a
  • JONES, GRIFFITH HARTWELL (1859 - 1944), offeiriad a hanesydd Ganwyd 16 Ebrill 1859, yn Llanrhaeadr Mochnant, lle'r oedd ei dad, Edward Jones (1826 - 1892), yn ficer. Hannai o deulu David Jones ('Dewi Fardd'), Trefriw, ac felly yr oedd yn ŵyr i John Jones (1786 - 1865) yr argraffydd enwog - Gwasg 'Gwyndod Wryf' o Lanrwst. Yn 16 oed aeth i ysgol Anwythig ac oddiyno i Goleg Iesu, Rhydychen. Yr oedd yn D.D. ac yn D.Litt. Rhydychen. O 1888 hyd 1893 bu'n athro
  • JONES, GRIFFITH RHYS (Caradog; 1834 - 1897), gof ac arweinydd cerddorol Ganwyd 21 Rhagfyr 1834 yn y Rose and Crown, Trecynon, Aberdâr. Peiriannydd oedd ei dad, John Jones, yng ngwaith haearn Llwydcoed, Aberdâr, a phrentisiwyd y mab yn of. Dysgodd gerddoriaeth yn ieuanc, a daeth yn chwaraewr medrus ar y ffidil. Yn 19 oed aeth â chôr i eisteddfod Aberafan, a chafodd wobr am ganu 'Haleliwia to the Father' (Beethoven); enw'r côr yn y gystadleuaeth oedd 'Côr Caradog,' ac
  • JONES, GWILYM CLEATON (1875 - 1961) Cape Town, Johannesburg, rheolwr banc Ganwyd 25 Mawrth 1875 yn Llanrug, Sir Gaernarfon, yn ail fab John Eiddon Jones a Sarah Jones. Gweinidog yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru oedd y tad. Cefnogai D. Lloyd George ac mewn llythyr cydymdeimlad a anfonodd Lloyd George at ei weddw o'r National Liberal Club, 16 Hydref 1903, cydnabu'r gwladweinydd mai Eiddon Jones a ofynnodd gyntaf iddo sefyll etholiad bwrdeistrefi Arfon. Addysgwyd Cleaton
  • JONES, GWILYM RICHARD (Gwilym Aman; 1874 - 1953), cerddor, arweinydd corau a chymanfaoedd, emynydd organydd capel (A) Ebeneser, Abertawe. Yr oedd ym Mrynaman gôr enwog dan arweiniad John Jones (Pen-crug), gyda David Vaughan Thomas yn cyfeilio iddo, a thraddodiad cerddorol gwych yn symbyliad i gerddor ieuanc fel Gwilym R. a oedd wedi ei eni i fod yn arweinydd. Cafodd ei swydd gyntaf fel côr-feistr eglwys (A) Weast, Manceinion lle y bu am 15 mlynedd yn arwain côr cymysg Cymreig a chôr meibion yn y
  • JONES, GWILYM THOMAS (1908 - 1956), cyfreithiwr a gweinyddwr Cyngor Sir Caernarfon. Yn 1942 fe'i penodwyd yn Ddirprwy Glarc Cyngor Sir Caernarfon, ac yn 1945 yn Glarc y Cyngor. Tra'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, cyfarfu â Marion Hughes o Lanelli, a oedd yn astudio yn Adran y Gymraeg. Priodasant yn 1940, gan ymgartrefu yn 'Penlan', 2 Llys Meirion, Caernarfon. Ganwyd iddynt dri mab: Geraint (g. 1942), a fu farw o gancr y gwaed yn ddwy flwydd oed, Goronwy Morys
  • JONES, HARRY LONGUEVILLE (1806 - 1870), archaeolegydd ac addysgwr Wright (1810-1877), i Memorials of Cambridge John Le Keux (1841-2). Datblygodd Jones ei ddiddordebau hynafiaethol ac archaeolegol ym Mharis hefyd. Yn Ionawr 1839 fe'i penodwyd yn un o wyth Aelod Gohebol Tramor dros Loegr i'r Comité historique des arts et monuments, un o'r sefydliadau a grewyd gan Frenhiniaeth Gorffennaf (1830-48) i gofnodi a diogelu treftadaeth Ffrainc. Daeth cydnabyddiaeth bellach o'i
  • JONES, HARRY LONGUEVILLE (1806 - 1870) Gogledd Cymru eisoes wedi arwain i gyfeillgarwch rhyngddo a John Williams ' ab Ithel ', a chan fod y ddeuddyn yn hynafiaethwyr selog, naturiol fu iddynt gychwyn (a chydolygu) y cylchgrawn Archaeologia Cambrensis (Ionawr 1846), a sefydlu'r Gymdeithas Hynafiaethol Gymreig ('Cambrian Archaeological Association') yn 1847. Longueville Jones a oedd yn gyfrifol am gostau'r cylchgrawn hyd 1850, ac ymddengys
  • JONES, HENRY (bu farw 1592), gŵr o'r gyfraith sifil , swydd Wilts (un o fwrdeisdrefi 'poced' iarll Pembroke, y mae'n debyg). Daeth i gael ei gyfrif yn awdurdod yn y gyfraith sifil; yn 1571 (17 Hydref) yr oedd yn un o'r pum doethur dysgedig (gyda William Awbrey, a David Lewis, barnwr) y bu'r frenhines Elisabeth yn gofyn eu barn ar y cwestiwn a ellid dwyn John Leslie, esgob Ross, gerbron llysoedd barn Lloegr i ateb am ei gynllwynion yn ei herbyn hi pan
  • JONES, HUGH (Erfyl; 1789 - 1858), llenor oddi wrtho, ac NLW MS 1899C yn cynnwys ei farddoniaeth. Ym mlynyddoedd diwethaf ei oes, bu'n gofalu am y gwaith o argraffu llyfrau Cymraeg yng Nghaerlleon Fawr dan Edward a John Parry. O 1835 hyd ddiwedd 1840 golygai'r Gwladgarwr, ac yr oedd yn un o gyfieithwyr Y Beibl Darluniadol, 1844-7, a gyhoeddwyd gan 'Ieuan Glan Geirionydd.' Bu farw 25 Mai 1858, yn 69 oed; claddwyd yn Llanerfyl.