Canlyniadau chwilio

1105 - 1116 of 2571 for "john hughes"

1105 - 1116 of 2571 for "john hughes"

  • JONES, ELIZABETH MARY (Moelona; 1877 - 1953), athrawes a nofelydd Ganwyd 21 Mehefin 1877 ym Moylon, Rhydlewis, Ceredigion, yr ieuangaf o blant John Owen (a oedd yn cludo nwyddau fferm i'r Gweithiau â cheffyl a chart cyn cymryd tenantiaeth fferm y Moylon) a Mari, merch Abraham Jones (a oedd yntau yn garier). ' Moelona ' oedd yr ieuangaf o dri ar ddeg o blant; bu un ohonynt farw yn ieuanc tra oedd y rhieni yn y fynwent yn claddu dau arall. Brawd iddi, a'r hynaf
  • JONES, EMRYS (1920 - 2006), daearyddwr ddaeth i lywodraethu gweddill ei yrfa. Crynhowyd y gyntaf mewn cyfrol a gyhoeddwyd ym 1977, ar y cyd â John Eyles, o dan y teitl An Introduction to Social Geography. Yn y gyfrol hon, gosodwyd datganiad cadarn o'r angen sylfaenol i ddeall y prosesau cymdeithasol mewn unrhyw ddehongliad o gymeriad arwyneb y ddaear. Yn amlwg, fe ddaeth hyn yn driniaeth holl bwysig yn y ddealltwriaeth o strwythur fewnol
  • JONES, EVAN (PAN) (1834 - 1922), gweinidog gyda'r Annibynwyr blwyddyn. Yn 1857 aeth yn fyfyriwr i Goleg Annibynnol y Bala, ac yn 1860 ar gyngor 'Ioan Pedr' (John Peter) aeth am daith i'r Almaen. Derbyniwyd ef i Goleg Presbyteraidd Caerfyrddin yn 1862, ond gan na chafodd alwad ar derfyn ei gwrs aeth drachefn i'r Almaen a'r waith hon yn fyfyriwr i Brifysgol Marburg, lle y graddiodd yn M.A. a Ph.D. Diddorol yw sylwi mai y gŵr enwog August Dillmann oedd un o'r rhai a
  • JONES, EVAN (Ieuan Gwynedd; 1820 - 1852), gweinidog a newyddiadurwr , priododd Catherine, merch John Sankey, Rorrington Hall, Marton. Ganed iddynt un plentyn, ond bu farw'n fuan wedi ei eni. Bu farw'r fam hithau 25 Ebrill 1847. Ar ddiwedd 1847 ymddiswyddodd o'i ofal yn Nhredegar oherwydd afiechyd, a thua'r un adeg gorfu iddo wrthod y swydd o ysgrifennydd y Gymdeithas Ddirwest Genedlaethol, am yr un rheswm. Ym Mawrth 1848 symudodd i Gaerdydd i olygu The Principality, ond
  • JONES, EVAN (1836 - 1915), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, newyddiadurwr, a gwleidydd Ganwyd 27 Hydref 1836, yn Esgair Goch, Pennal, Sir Feirionnydd, mab John Jones, genedigol o Faestirau, Darowen, a'i briod Catherine Jervis, genedigol o Lanbrynmair. Yr oedd ei nain, mam ei fam, yn chwaer i Abraham Wood, pregethwr yng nghyfundeb arglwyddes Huntingdon. Ychydig o addysg fore a gafodd; prentisiwyd ef yn argraffydd gydag Adam Evans, Machynlleth, yn 1849, ac ar ôl hynny bu'n gweithio
  • JONES, EVAN (1777 - 1819), gweinidog gyda'r Bedyddwyr dadleuon a oedd ar y pryd yn corddi'r enwad yn y de-orllewin, oblegid y mae William Richards yn ensynio mai efe oedd yn fwyaf blaenllaw yn yr erlid yng nghymanfa Penybont yn 1797 ar John Williams ('Siôn Singer'). Bwriedid galw Evan Jones i fugeilio Penybont, ond ni ddygymyddai ag 'arddodiad dwylo'; felly ar 5 Tachwedd 1800 derbyniodd alwad eglwys (newydd) Bethania, Aberteifi. Yn y cyfamser yr oedd rhwyg
  • JONES, EVAN (1790 - 1860), y diwethaf o siapanwyr Brynbuga yr oedd yn disgyn o deulu Allgood. Prynodd y gwaith siapan gan John Pyrke yn 1826, eithr ar ôl marw John Hughes (1784 - 1851) - a marw Morgan Davies (1770 - 1837), ei arlunydd, cymharol ychydig o sylw a roes i'r busnes hwn gan ymddiddori fwy a mwy yn ei fferm, ei siop nwyddau haearn, ei waith priddfeini, a'i wai'th nwy - heb sôn am ei ran mewn bywyd cyhoeddus (bu'n aldramon Brynbuga a chwe gwaith
  • JONES, EVAN (Gurnos; 1840 - 1903), gweinidog gyda'r Annibynwyr a'r Bedyddwyr, bardd, beirniad, darlithydd, ac arweinydd eisteddfodol Ganwyd 14 Ebrill 1840 yn Hendrelywarch (Penrhipyn, medd eraill), Gwernogle, Sir Gaerfyrddin, yn fab i John a Mary Jones. Tua 1848 symudodd y teulu i Ystalyfera. Ymhen dwy flynedd bu farw ei fam, a'i dad ymhen pum mlynedd arall. Cafodd ei addysg fore yn ysgol y Parch. Daniel Evans yn y Plough and Harrow, Gwernogle, ac yn ysgol y gwaith, Ystalyfera. Ymddiddorodd ei frawd hyn (David, ' Dewi Ogle,' a
  • JONES, EVAN DAVID (1903 - 1987), llyfrgellydd ac archifydd Ganwyd E. D. Jones yn Llangeitho ar 6 Rhagfyr 1903, yr hynaf o saith o blant Evan Jones, oedd yn ffermio yn y Wenallt, a'i wraig Jane. Cafodd ei addysg yn Ysgol Sir Tregaron ac yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle graddiodd yn y Gymraeg yn 1926 ac mewn hanes yn 1927. Gan dderbyn ysgoloriaeth Syr John Williams ar gyfer 1928-9, dechreuodd olygu gwaith Lewis Glyn Cothi; ond yn fuan, fe'i
  • JONES, Syr EVAN DAVIES (1859 - 1949), barwnig, Pentower, Aber-gwaun, sir Benfro, peiriannydd sifil, arglwydd raglaw sir Benfro, etc. dros-oes o'r Llys yn rhinwedd ei roddion i'r Llyfrgell - prynodd a rhoes i'r Llyfrgell gasgliadau Compton House (Aberaeron), a Llywarch Reynolds, Merthyr Tudful, heblaw rhoddi hefyd amryw bethau o'i lyfrgell breifat ei hun (yr oedd yn gasglwr ar râdd helaeth), yn enwedig ei gasgliadau mawr o blatiau llyfrau. Y mae cerflun (1924) ohono (gwaith Syr William Goscombe John), a darlun ohono mewn olew (1929
  • JONES, GARETH RICHARD VAUGHAN (1905 - 1935), newyddiadurwr Ganwyd Gareth Jones ar 13 Awst 1905 yn Eryl, Ffordd Romilly, y Barri, yr iengaf o dri o blant Edgar William Jones (1868-1953), athro ysgol, a'i wraig Ann Gwenllian (g. Jones, 1867-1965). Cafodd ei addysgu gartref gan ei fam yn gyntaf, ac wedyn mynychodd Ysgol Sir y Barri lle roedd ei dad yn brifathro. Roedd ei fam wedi gweithio fel tiwtor i wyrion y diwydiannwr John Hughes a sefydlodd dref
  • JONES, GLADYS MAY (1899 - 1960), pianydd, cyfansoddwr a chynhyrchydd rhaglenni ysgafn ar y radio Ganed yng Nghasnewydd, Gwent, 16 Chwefror 1899, yn unig ferch i Thomas John Jones, gorsaf-feistr Casnewydd, a Beatrice ei wraig. Pan oedd yn wyth oed fe'i clywyd yn canu'r piano mewn eisteddfod gan D. Vaughan Thomas, ac awgrymodd i'w mam fod dyfodol disglair iddi fel pianydd ar yr amod ei bod yn cael ei hanfon at athro cymwys. Yn 10 oed fe'i penodwyd yn organydd eglwys Mynydd Seion (A), Hill