Canlyniadau chwilio

61 - 72 of 88 for "morganwg"

61 - 72 of 88 for "morganwg"

  • PRICHARD, JOHN WILLIAM (1749 - 1829), llenor Roberts yr almanaciwr o Gaergybi. Ar y llaw arall, drwg oedd hi rhyngddo a ' Dafydd Ddu Eryri,' ac yr oedd yn ffieiddio ' Iolo Morganwg ' - ar ' Iolyn ' y bwriai'r cwbl o'r bai am 'ddrysu' Pughe. Mewn byd gwahanol, llythyrai â Thomas Charles o'r Bala, a'i lythyr maith at Robert Jones, Rhoslan, ynghylch yr erlid a fu ar ei dad William Prichard, yw sail yr ymdriniaeth â hynny yn Drych yr Amseroedd
  • PRITCHARD, EVAN (Ieuan Lleyn; 1769 - 1832), bardd droeon yn eisteddfodau'r cyfnod, e.e. yn Ninbych yn 1792 ar ' Cyflafan y Beirdd,' yn y Bala yn 1793 ar ' Tymhorau'r Flwyddyn ' ac yn Ninbych yn 1828 ar ' Gwledd Belsassar.' Ar 16 Hydref 1799 urddwyd ef a ' Dafydd Ddu Eryri ' a ' Gutyn Peris ' yn feirdd Cadair Gwynedd gan ' Iolo Morganwg ' pan oedd y gŵr hwnnw ar ei daith ym Môn ac Arfon. Yn Ionawr 1800 ymddangosodd y rhifyn cyntaf o gylchgrawn a elwid
  • RICHARDS, THOMAS (c. 1710 - 1790), clerigwr a geiriadurwr Cymru na ddeallent Ladin gyfle i astudio gramadeg y Dr. John Davies, ac yr oedd y geiriadur yn rhoddi iddynt gyfle i ddeall geirfa'r cywyddwyr. Dyma lyfr a oedd wrth benelin y beirdd pan oeddynt yn cyfansoddi awdlau a chywyddau yn ail hanner y 18fed ganrif. Ac ef oedd un o'r rhai a enynnodd ddiddordeb 'Iolo Morganwg' yn llên Cymru, ac yn arbennig yng ngeirfa'r iaith. Yn ôl ei ewyllys, gadawodd ei
  • ROBERT (fl. 1099-1147), mab ordderch i'r brenin Harri I Ganwyd cyn i'w dad esgyn i'r orsedd. Honnir weithiau mai Nest, merch Rhys ap Tewdwr oedd ei fam; ond yr unig sail i hynny yw ' Brut Gwent ' (Myf. Arch., ii, 540) - h.y. ' Iolo Morganwg '; gwir ddigon i Harri gael mab o Nest ymhellach ymlaen. Y mae i Robert le mawr ac anrhydeddus yn hanes Lloegr (gweler y D.N.B. arno), eithr yma nid ymdrinir ond â'i ymwneuthur â Chymru. Arglwydd Normanaidd cyntaf
  • SAUNDERS, DAVID (Dafydd Glan Teifi; 1769 - 1840), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, bardd, a llenor : y gyntaf ar Elusengarwch, … yr ail, ar Farwolaeth Syr Thomas Picton, 1820; Awdl ar Fordaith yr Apostol Paul … at yr hyn yr ychwanegwyd ychydig o hymnau newyddion, 1828; a marwnadau i Samuel Breeze, Castellnewydd Emlyn, 1812; Zecharias Thomas, Aberduar (ail arg.), 1816; a Joseph Harris ('Gomer'), 1826. Drwy ymyrraeth Iolo Morganwg yn unig y llwyddwyd i gynnwys awdl Saunders i Picton yn Awen Dyfed
  • SILS ap SIÔN (fl. tua diwedd yr 16eg ganrif) Forgannwg, bardd A barnu wrth un cyfeiriad yn ei gywydd i 'hwsmonaeth,' gellir bwrw ei fod yn byw (fel y mynnai ' Iolo Morganwg ') heb fod nepell o gyffiniau Radyr a Llandaf. Sonnir mewn un llyfr achau am ryw Sils ap Siôn a oedd yn byw yng nghwmwd Meisgyn, ac y mae'n bosibl mai'r bardd ydoedd. Ceir casgliad bychan o'i waith ef a rhai o'i gyfoeswyr (yn ei law ef ei hun, yn ôl pob tebyg) yn llawysgrif Llanover B 6
  • SIMON, BEN (c. 1703 - 1793) Abergwili, Sir Gaerfyrddin. Cofnodir claddu ' Benjamin Simon, a Pauper,' yn Abergwili, 1 Mawrth 1793, ac y mae gan ' Iolo Morganwg ' yn ei ' Agricultural Observations,' 1795 (NLW MS 13115B, sef Llanover MS. C.28), ddarlun cofiadwy o'r hen ŵr yn ei dlodi. Dywed 'Iolo' ei fod yn 90 oed pan fu farw, ac mai fel rhwymwr llyfrau yr enillai ei fywoliaeth. Y mae traddodiad arall mai crydd oedd. Dengys ei
  • SION MOWDDWY (fl. c. 1575-1613), bardd Canai fawl i uchelwyr led-led Cymru, o Fostyn i Forgannwg. Arhosai'n hir ym Morgannwg weithiau. Bu ymryson rhyngddo a Meurug Dafydd o Lanisen ynglŷn â chlera yng Ngwent a'r cyffiniau, c. 1575-80, a bu ymryson rhyngddo hefyd a Llywelyn Siôn o Langewydd. Nid enwir mohono ymhlith beirdd eisteddfod Caerwys, 1567; efallai ei fod yn rhy ifanc. Nid oes dim sail i chwedl 'Iolo Morganwg' mai mab i'r
  • STEPHENS, THOMAS (Casnodyn, Gwrnerth, Caradawg; 1821 - 1875), hanesydd a diwygiwr cymdeithasol fynegi ei syniadau beirniadol a'i ymchwil arloesol ar hanes y Cymry, a'i amcan o ddisodli rhamantiaeth â dull wyddonol o ymchwil yr un mor gadarn ag erioed. Ymhlith ei brif erthyglau y mae cyfres ar y ffugiwr rhamantus Edward Williams (Iolo Morganwg) yn Yr Ymofynydd (1852-1853), ar y chwedlonol 'Dyfnwal Moelmud' a chyfreithiau cynnar y Cymry yn y Cambrian Journal ac yna yn Archaeologia Cambrensis (1854
  • THOMAS, DAVID (bu farw 1735), bardd Dywed Edward Evan mai o Geredigion yr hanoedd, ac iddo ddyfod i Forgannwg yn 1727 - yn ôl ' Iolo Morganwg ' yr oedd y pryd hynny rhwng 12 a 15 oed. Ymsefydlodd ym Metws Tir Iarll; yr oedd yn aelod o gynulleidfa Rees Price, Tyn-ton; tua 1730 dechreuodd brydyddu dan hyfforddiant John Bradford, ac yn 1734 y mae Bradford yn ei enwi ymhlith ' gramadegwyr ' Morgannwg. Ond cyn 1734 yr oedd wedi priodi
  • THOMAS, EZEKIEL (1818 - 1893), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur; Ganwyd 1818, mab Morgan a Catherine Thomas, Pwll-mawr, Llansamled, Morgannwg. Prentisiwyd ef yn saer maen, ond dechreuodd bregethu yn ieuanc yng nghapel y Cwm, Llansamled. Ordeiniwyd ef yn sasiwn y Bont-faen, 1857, ond ni bu â gofal eglwys erioed. Cyfrifid ef yn feddyliwr praff, ac ymddiddorai mewn pynciau allan o'r cyffredin. Ei lyfr cyntaf oedd Daeareg Parth Gorllewinol Morganwg (Cwmafan, 1875
  • TOMAS ab IEUAN ap RHYS (c. 1510 - 1617), cwndidwr enillodd enw iddo ei hun ym Morgannwg fel proffwyd. Diau mai'r traddodiad hwn a barodd i ' Iolo Morganwg ' lunio cynifer o straeon rhyfedd amdano. Ailadroddwyd y straeon ffug hyn yn llyfrau'r ganrif ddiwethaf. Canwyd ei farwnad gan ei gyfaill, Hopcyn Tomas Phylip. Cyhoeddwyd y rhan fwyaf o'i waith yn Hen Gwndidau, 1910.