Canlyniadau chwilio

37 - 48 of 88 for "morganwg"

37 - 48 of 88 for "morganwg"

  • IEUAN DDU ap DAFYDD ab OWAIN (fl. c. 1440-80) Forgannwg, bardd Ni wyddys dim pendant o'i hanes, nac am unrhyw brawf dros ei gysylltu, fel y gwnaeth ' Iolo Morganwg,' ag Ieuan Ddu, un o hynafiaid teulu'r Dyffryn, yn Aberdâr. Priodolir nifer o gywyddau iddo mewn llawysgrifau, ond yr unig ddarn sicr o'i waith yw'r un i Ieuan Gethin ab Ieuan ap Lleision.
  • IEUAN GETHIN ap IEUAN ap LLEISION (fl. c. 1450), bardd ac uchelwr . Cadwyd llawer o'i farddoniaeth, ac yn ei phlith gywydd i Owain Tudur o Benmynydd, a gyfansoddwyd pan garcharwyd ef yn Newgate, cywydd marwnad i blant y bardd sydd hefyd yn ddychan i'r nodau a'u lladdodd, cywydd i'w fab, ac awdl farwnad i un o'i ferched. Ymddengys mai ffug yw hanes 'Iolo Morganwg' am Ieuan, sef amdano'n ymladd o blaid Owain Glyndwr ym Morgannwg, yn gorfod ffoi i Fôn, a chael dychwelyd
  • IOLO MORGANWG - gweler WILLIAMS, EDWARD
  • IORWERTH FYNGLWYD (fl. c. 1480-1527), bardd ap Siôn o Aberpergwm wedi i'r gŵr hwnnw golli ei dreftadaeth am gyfnod a gorfod myned ar herw. Dyma rai o'r cywyddau mwyaf poblogaidd yng Nghymru yn yr 16eg ganrif, a dyfynnir ohonynt yng nghasgliad y Dr. John Davies o linellau trawgar o weithiau'r beirdd, sef y Flores Poetarum Britannicorum, 1710. Ceisiodd ' Iolo Morganwg ' ei wneuthur yn saer cerrig enwog, un o hynafiaid y seiri honedig hynny
  • JAMES, LEMUEL JOHN HOPKIN (Hopcyn; 1874 - 1937), clerigwr a hynafiaethydd sgrifennwr diwyd dros ben, eithr o'i ysgrifau a'i lyfrau niferus (ar bynciau agos at ei swydd fel clerigwr y mae a fynno'r rhan fwyaf ohonynt) ni ellir yma enwi ond y pedwar sy'n fwyaf eu gwerth i chwilotwyr, sef (a) Hopkiniaid Morganwg, 1909; (b) Hen Gwndidau, casgliad a olygwyd ganddo ef a T. C. Evans ('Cadrawd'), 1910; (c) Old Cowbridge, 1922; (ch) The Celtic Gospels, 1934.
  • JONES, Syr THOMAS (bu farw 1622?), clerigwr a bardd -72). Fe sylwir mai'r 'Iolo MS.' yn unig sy'n cysylltu'r bardd â Llandeilo'r Bertholau; ac y mae gan ' Iolo Morganwg ' nodyn arno (a ddyfynnir yn Hen Gwndidau, 282) a dynnwyd, meddai ef, ' o Lyfr Harri Siôn o Bont y Pwl ' (Henry John) - nid oes fodd gwybod pa faint ohono sy'n wir, nac ychwaith a yw W. O. Pughe yn iawn pan ddywed yn y Cambrian Biography (ar dystiolaeth ' Iolo,' mae'n debyg) i Thomas
  • JONES, Syr CYNAN (ALBERT) EVANS (Cynan; 1895 - 1970), bardd, dramodwr ac eisteddfodwr yr Orsedd a'i chyswyllt â'r derwyddon, gan gydnabod yn agored mai dyfais a chreadigaeth Iolo Morganwg ydoedd. Llwyddodd i gael llawer o aelodau newydd, ac yn eu plith rai gwŷr academig. Yn 1935 dechreuwyd ar yr addrefnu a ddug i fod Lys a Chyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, a bu i Cynan ran amlwg yn y gwaith. Yn 1967 etholwyd ef yn llywydd y Llys. Bu'n amlwg iawn hefyd fel cystadleuydd yn yr
  • JONES, DAVID WATKIN (Dafydd Morganwg; 1832 - 1905), bardd, hanesydd, a daearegydd am 30 mlynedd. Bu yn eisteddfodwr llwyddiannus iawn, yn cael ei brif wobrwyon ym Machynlleth 1870, Llanberis 1878, a Chaerdydd, 1883. Sgrifennodd lawer i'r Geninen a chylchgronau eraill, a chyfrannodd yn helaeth i Cymru (O.J.). Yn 1874, cyhoeddodd ei Hanes Morganwg. Ond ei waith mwyaf adnabyddus, efallai, yw Yr Ysgol Farddol, gwerslyfr barddonol a gyhoeddwyd gyntaf yn 1869. Cyhoeddodd hefyd ramadeg
  • LEWIS, TIMOTHY (1877 - 1958), ysgolhaig Cymraeg a Chelteg ysgrifennai llawer o bobl ato i ddangos eu bod yn falch iddo 'achub cam' Iolo Morganwg a'r Orsedd ac nad oedd arno gywilydd nac ofn anghytuno â J. Morris-Jones a W. J. Gruffydd. Gohebai'n gyson â llawer o gyfeillion ym myd ysgolheictod ac yn arbennig â Gwenogvryn Evans. Daeth y ddau deulu'n gyfeillion mynwesol yn y 1920au ac âi Timothy Lewis a'r teulu am wyliau droeon at Gwenogvryn a'i briod. Yr oedd ef ei
  • LLYWELYN BRYDYDD HODDNANT (fl. c. 1300-50), bardd Cysylltai ' Iolo Morganwg ' ef â Morgannwg, ond gan fod nentydd yn dwyn yr enw Hoddnant yn sir Faesyfed a Sir Benfro yn ogystal ag yn ymyl Llanilltud Fawr, nid oes unrhyw sicrwydd am gartref y bardd. Cadwyd dwy awdl o'i waith yn llawysgrif Hendregadredd a rhai llawysgrifau eraill, a'r ddwy ohonynt wedi eu cyfansoddi i Ieuan ap Gruffudd Foel o Ddyffryn Aeron yn Sir Aberteifi.
  • LLYWELYN SIÔN (fl. ail hanner yr 16eg ganrif), bardd, amaethwr, 'crier' neu ringyll mewn llys barn am gyfnod, a chopïwr proffesyddol wrth ei grefft, ac un o ffigurau pwysicaf bywyd llenyddol effro sir Forgannwg Gŵr a hanoedd o Langewydd yn Nhrelales yn ymyl Penybont-ar-Ogwr. Mynnai 'Iolo Morganwg' mai Llywelyn Siôn oedd yr athrylith a roes drefn a dosbarth ar 'Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain' ac mai 'trwy ei fanyldeb a'i ddiwydrwydd y cynullwyd deunydd Cyfrinach y Beirdd ' - y cwbl, wrth gwrs, yn ffugiad. Fel copïwr proffesyddol mwyaf ei gyfnod yr haedda ei gydnabod; nid oedd yn gopïwr mor doreithiog â
  • LLYWELYN, TOMAS (fl. c. 1580-1610), bardd ac uchelwr flwyddyn 1610. Sonnid amdano yn y ganrif ddiwethaf fel un o sêr bore Anghydffurfiaeth ym Mlaenau Morgannwg, a dywedid fod ganddo gynulleidfaoedd yn Rhigos a Blaencannaid a mannau eraill, ac iddo gyfieithu'r Beibl Saesneg yn Gymraeg. ' Iolo Morganwg ' a ddywedodd y pethau hyn gyntaf, a chyn belled ag y gellir barnu, nid oes dim sail iddynt.