Canlyniadau chwilio

13 - 24 of 95 for "morys clynnog"

13 - 24 of 95 for "morys clynnog"

  • DEIO LLIWIEL (LLYWEL?) (fl. dechrau'r 16eg ganrif?)), bardd Cedwir cywydd mawl o'i eiddo i Rys ap Morys yn Llanstephan MS 226, a chywydd i'r cybydd a'r ocrwr yn Llanstephan MS 133, Llanstephan MS 134, Llanstephan MS 135, Hafod MS. 20, B.M. Add. MS. 14886, a NLW MS 970E, NLW MS 6511B, NLW MSS 13064D, NLW MS 13079B.
  • EDWARD MAELOR (fl. c. 1580-1620), bardd Ni wyddys dim o'i hanes, ond ceir nifer o'r gywyddau ac englynion mewn llawysgrifau. Ymhlith y rhain ceir cywyddau mawl i rai o foneddigion Gogledd Cymru, Hwmffre Huws o'r Werclys, Sion Eutun a'i wraig, a chywydd priodas i Andrew Meredydd o Glan Tanad a chywydd marwnad i'r bardd Sion Tudur. Canodd amryw englynion yn cynnwys rhai ymryson â Morys Powel.
  • EDWARDS, JONATHAN (1629 - 1712), clerigwr a dadleuwr Ganwyd yn Wrecsam. Yn 1655 aeth i Christ Church, Rhydychen, graddiodd yn 1659, a daeth yn gymrawd o Goleg Iesu yn 1662 ac yn ddirprwy-brifathro yn 1668. Daliodd nifer o swyddi a bu'n rheithor Kiddington; rheithor Hinton Ampner; rheithor Llandysul, Sir Aberteifi; ficer Clynnog Fawr; prifathro Coleg Iesu, Rhydychen yn 1686, ac is-ganghellor y brifysgol 1689-91; trysorydd eglwys gadeiriol Llandaf
  • ELIS ap SION ap MORYS (fl. tua diwedd y 15fed ganrif), cywyddwr
  • EVANS, CHRISTMAS (1766 - 1838), gweinidog gyda'r Bedyddwyr ac un o bregethwyr enwocaf Cymru . Ordeiniwyd ef yn haf 1789; priododd Catherine Jones yn eglwys Bryncroes, 23 Hydref 1789; cerddodd, marchogodd, pregethodd yn ei blwyf eang, a'r effeithiau yn rhyfeddol. Wrth draed Robert Roberts, Clynnog, pregethwr aruthraf pulpud Cymru, ryw brynhawn Sul, cafodd olwg a gafael newydd ar grefft pregethu, a chanfu yn y ddrama ddefnydd y pregethu hwnnw a weddai i'w ddawn arbennig ef. Robert Roberts a roes iddo
  • EVANS, HUGH (Hywel Eryri; 1767 - 1841?), bardd Ganwyd ym mhlwyf Llanfairmathafarneithaf, sir Fôn. Gwehydd ydoedd wrth ei alwedigaeth. Bu'n byw yn Abererch, Chwilog, Plas Madog ym mhlwy Clynnog, a Phenygroes, Sir Gaernarfon. Dechreuodd gystadlu mewn eisteddfodau yn gynnar ar ei oes; ysgrifennodd gywydd ar ' Cariad ' ar gyfer eisteddfod Bangor, c. 1790, ac un arall yn 1802 ar ' Drylliad y llong Minerva, Ionawr 21, 1802.' Ceir swm o'i waith yn y
  • EVANS, JOHN (1723 - 1817), pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd fywyd yn ' tallow-chandler ' (yn ôl gweithred Capel yr Adwy yn 1804). Yn 1744, priododd â Margaret, ferch y bardd Morys ap Rhobert o Lanuwchllyn; merch iddynt oedd gwraig William Edwards (1773 - 1853), yr emynydd. Ymaelododd yn seiat newydd y Methodistiaid Calfinaidd yn y Bala yn 1745, ac yn gynnar iawn dechreuodd deithio i gynghori yn yr ardaloedd oddi amgylch, ond nid cyn 1765 y cydnabyddwyd ef yn
  • teulu GLYN Glynllifon, chladdwyd ef yn Clynnog. Ni chododd ei fab, THOMAS GLYN, i'r un amlygrwydd ag ef, ond rhifid yntau hefyd ymhlith y beirdd. Brawd iddo ydoedd RHISIART GLYN, M.A., a fu'n rheithor Llanfaethlu, Môn - ohono ef y tarddodd barwnigiaid Ewell (Surrey) a fu'n gyfrannog yn sefydlu'r banc a elwir wrth yr enw Glyn Mills Currie and Co. Olynydd Thomas Glyn yn Glynllifon ydoedd ei fab hynaf, WILLIAM GLYN (a wnaed yn
  • GRUFFUDD ap CYNAN (c. 1055 - 1137), brenin Gwynedd Rhuddlan, er gwaethaf yr help a gawsai gan Robert. Dug ymaith gryn ysbail, ond nid enillodd y castell. Oherwydd casineb at y Daniaid ym myddin Gruffudd gwrthryfelodd gwŷr Llŷn, a manteisiodd Trahaearn ar y cyfle i ymosod ar Gruffudd a'i orchfygu ym Mron-yr-erw ger Clynnog. Ffoes Gruffudd yn ôl i Iwerddon. Yn 1081 dychwelodd, a glanio ym Mhorth Clais yn Nyfed, ac ymuno â Rhys ap Tewdwr, gŵr a oedd yntau
  • GWYN, JOHN (bu farw 1574), gŵr o'r gyfraith a noddwr addysg Ganwyd yn Gwydir, Llanrwst, y pumed a'r ieuengaf o feibion John Wyn ap Meredydd, a oedd yn disgyn yn uniongyrchol o Owain Gwynedd. Ei frawd hynaf, Morys, ydoedd tad Syr John Wynn o Wydir; daeth ei frawd Robert (y gŵr a adeiladodd y Plas Mawr, Conwy) yn ail ŵr Dorothy Williams, nain yr archesgob John Williams. Aeth John Gwyn i Goleg Queens ', Caergrawnt, yn 1545, a graddiodd (B.A.) yn 1548; yna
  • GWYNNETH, JOHN (1490? - 1562?), offeiriad Pabyddol a cherddor pryd daliai, 'sine cura,' reithoraeth Clynnog Fawr, Sir Gaernarfon, i'r hon y cyflwynwyd ef gan Harri VIII. Er iddo gael cryn drafferth cyn ei sefydlu, a'i orfodi i gyngaws ynghylch degymau ac elwau eraill y plwyf, ddwywaith yn y canghellys ac unwaith yn llys y Seren, ymddengys iddo ddal y swydd hon hyd ei farw. Haedda Gwynneth ei gofio yn fwyaf arbennig am ei gyfraniad i gerddoriaeth yr eglwys. Yn
  • HOWELL, GWILYM (1705 - 1775), almanaciwr a bardd Ganwyd ef ym mhlwyf Llangurig, Sir Drefaldwyn, ond treuliodd y rhan fwyaf o'i oes ym mhlwyf Llanidloes, lle bu'n stiward ar stad Berthllwyd am lawer blwyddyn. Bu'n faer Llanidloes, 1762-3. Yr oedd yn fardd ei hun a chasglodd weithiau beirdd eraill, yn arbennig barddoniaeth Huw Morys. Dywed ' Iolo Morganwg ' i ' Gwallter Mechain ' wneud defnydd helaeth o'r casgliad hwn wrth gyhoeddi Eos Ceiriog