Canlyniadau chwilio

25 - 36 of 95 for "morys clynnog"

25 - 36 of 95 for "morys clynnog"

  • HUGHES, HENRY (1841 - 1924), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a hanesydd Ganwyd 23 Ebrill 1841 yng Nghefn Isa, Rhoslan, Llanystumdwy, yr ieuengaf o naw o blant Owen ac Ann Hughes. Bu ei dad farw cyn ei eni. Symudodd y teulu i Borthmadog a chafodd ei addysg fore yn ysgol Frutanaidd Pont-ynys-galch. Dilynodd ei alwedigaeth fel gwneuthurwr hwyliau llongau nes bod yn 25 oed, pryd y dechreuodd bregethu. Addysgwyd ef yn ysgol Clynnog (1866-7) a Choleg y Bala (1867-71), ac
  • HUGHES, HUGH JOHN (1912 - 1978), athro ysgol, awdur, golygydd ac adolygydd Ganwyd 18 Awst 1912 ym Mwlch-gwyn, Garndolbenmaen, Sir Gaernarfon, yr hynaf o ddau fab Thomas Hughes, ffermwr, a'i wraig Mary Jane (gynt Jones). (Roedd y brodyr John Roberts, Llangwm, a Robert Roberts, Clynnog, pregethwyr amlwg gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn eu dydd, ymhlith ei hynafiaid). Addysgwyd ef yn ysgol y cyngor Brynengan (1917-25), ysgol sir Pen-y-groes (1925-31; (enillodd y gadair
  • HUGHES, JOHN EVAN (1865 - 1932), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a golygydd Ganwyd yng Nghaernarfon, mab Evan Hughes. Bu yn academi Tywyn, yn ysgol Clynnog, Coleg Aberystwyth, a Choleg S. Ioan, Caergrawnt. Graddiodd yn B.A. ym Mhrifysgol Llundain, 1886, ac yng Nghaergrawnt, 1891, gan gymryd ei M.A. yno yn 1896. Cymerodd radd B.D. Prifysgol Llundain yn 1911. Dechreuodd bregethu yn 1892, ac yn 1894 galwodd eglwys Seilo, Caernarfon, yr eglwys y magwyd ef ynddi, ef yn
  • HUGHES, RICHARD (c. 1565 - 1619) Cefn Llanfair,, bardd Bugail '; gweler Journal of the Welsh Bibliographical Society, ii, 243, ' An Early Printed Welsh Ballad.' Ceir ei waith hefyd yn Cynfeirdd Lleyn, Canu Rhydd Cynnar (T. H. Parry-Williams), ac yn Bulletin of the Board of Celtic Studies iii, 128, ' Cyfeiriadau at Richard Hughes, Cefn Llanfair.' Bardd serch ydoedd; bardd serch a ragflaenodd Huw Morys a'i ysgol. Tri mesur sydd ganddo yn ei gerddi, ac y
  • HUGHES, RICHARD SAMUEL (1888 - 1952), gweinidog (MC) ac athro Ganwyd 18 Mehefin 1888, yn Nhanycelyn, Rhostryfan, Sir Gaernarfon, mab Samuel a Mary Hughes. Ar ôl y cwrs arferol yn ysgol elfennol ei bentref bu am rai blynyddoedd yn gweithio mewn masnachdy, ac oddi yno aeth i ysgol Clynnog â'i fryd ar y weinidogaeth. Enillodd ysgoloriaeth i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth (lle graddiodd yn y celfyddydau), a graddiodd mewn diwinyddiaeth yn y Coleg Diwinyddol
  • HUW TALAI (fl. c. 1550-80), bardd ni wyddys dim am ei fywyd, ond cadwyd o leiaf ddwy enghraifft o'i waith mewn llawysgrifau. Cywyddau moliant i Rys ap Morys o Fryn y Beirdd, ger Llandeilo [Fawr], a Gruffudd Dwn o Gydweli yw'r rheini.
  • JENKINS, DAVID (1912 - 2002), llyfrgellydd ac ysgolhaig . Dechreuodd ymchwilio i hanes bywyd a gwaith Huw Morys (Eos Ceiriog, 1624-1709) yn Efrydydd Ymchwil Syr John Williams (1937-39) a chyhoeddodd erthygl werthfawr yn Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd (cyfrol 8, 1935-37, 140-5) ar enwau personau a lleoedd yng nghywyddau Dafydd ap Gwilym. Ei athro, T. Gwynn Jones, a awgrymodd y pwnc hwn iddo, fel un a adweinai dirwedd ac enwau lleoedd y cylch, a chafwyd ganddo
  • JONES, DAVID HUGH (Dewi Arfon; 1833 - 1869), gweinidog (MC), ysgolfeistr a bardd yn yr ysgol. Codwyd ysgoldy a thy ar ei gyfer, ond bu farw cyn mynd ohono i'r naill na'r llall. Gwr bregus ei iechyd ydoedd a gorfu iddo adael Clynnog a dychwelyd adref i'r Ty Du, Llanberis, ac yno y bu farw fore'r Nadolig 1869. Claddwyd ef ym mynwent Nant Peris, a defnyddiwyd yr arian a gasglwyd yn dysteb iddo yn ystod ei waeledd i godi maen coffa ar ei fedd. Adroddir am ddigwyddiad hynod ynglyn
  • JONES, DAVID LLOYD (1843 - 1905) Llanidloes, Llandinam, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd 5 Ionawr 1843 yn Nhalysarn, mab yr enwog John Jones. Bu dan addysg yn Ysgol Frutanaidd y pentref, ysgol Clynnog 1860, Coleg y Bala 1861, Prifysgol Edinburgh 1865-9 (M.A. 1869). Daeth dan ddylanwad diwygiad 1859. Bu'n weinidog eglwys China Street, Llanidloes, 1870 (ordeiniwyd ef yn Amlwch, 1872), ac yn weinidog eglwys Saesneg Llandinam o 1875 i ddiwedd ei oes. Priododd, (1), Sophie Williams
  • JONES, GWILYM THOMAS (1908 - 1956), cyfreithiwr a gweinyddwr Cyngor Sir Caernarfon. Yn 1942 fe'i penodwyd yn Ddirprwy Glarc Cyngor Sir Caernarfon, ac yn 1945 yn Glarc y Cyngor. Tra'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, cyfarfu â Marion Hughes o Lanelli, a oedd yn astudio yn Adran y Gymraeg. Priodasant yn 1940, gan ymgartrefu yn 'Penlan', 2 Llys Meirion, Caernarfon. Ganwyd iddynt dri mab: Geraint (g. 1942), a fu farw o gancr y gwaed yn ddwy flwydd oed, Goronwy Morys
  • JONES, JOHN Maesygarnedd,, 'y brenin-leiddiad' - 1718), a dderbyniwyd (fel 'pauper') i Goleg Iesu, Rhydychen, yn 1682, ac a raddiodd yn 1685; daeth ef yn ficer Clynnog yn 1692, etifeddodd Maes-y-garnedd, eithr gwerthodd Gerddi Bluog (stad teulu'r Prys iaid) yn 1710. Yr oedd brawd arall, HUMPHREY JONES (bu farw c. 1690), yn farsiandwr ('mercer') yn Paternoster Row; efe oedd bancer, cynrychiolydd busnes, ac ysgutor ei frawd John, a bu'n gynghorwr
  • JONES, RICHARD (1772? - 1833), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a llenor ordeiniwyd ef - ac, wedi iddynt fod rhyw dair blynedd yn Llwynimpia, Clynnog Fawr, symudwyd i'r Wern, Llanfrothen, ac wrth y lle hwnnw y cysylltwyd ei enw rhagllaw. Daeth y Wern yn gartref i grefydd. Credai Richard Jones fwy mewn ysgol Sul a Beibl agored nag mewn dogma o eiddo dynion, a bu'n werth ganddo wneuthur dau holwyddoreg o ddwy ris ar y Beibl. Ceir amryw o'i gynhyrchion yn Seren Gomer, Goleuad