Rydych yn darllen erthygl a archifwyd.

STEPHENS, THOMAS (1821 - 1875), hynafiaethydd, beirniad llenyddol

Enw: Thomas Stephens
Dyddiad geni: 1821
Dyddiad marw: 1875
Priod: Margaret Elizabeth Stephens (née Davies)
Rhiant: Rachel Stephens (née Williams)
Rhiant: Evan Stephens
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Hanes a Diwylliant
Awdur: David Jacob Davies

Ganwyd 21 Ebrill 1821 yn Tan-y-gyrchen (a gyfenwyd Ty To Cam) ym Mhont Nedd Fechan, Morgannwg, mab Evan Stephens, crydd, a Margaret, merch y Parch. William Williams, gweinidog Undodaidd Blaengwrach. Yr unig addysg ffurfiol a gafodd oedd tua thair blynedd yn ysgol John Davies, Castellnewydd. Oddi yno aeth yn brentis i fferyllydd ym Merthyr Tydfil yn 1835; daeth yn berchen y siop honno yn ddiweddarach. Bu'n uwch gwnstabl Merthyr yn 1858, yn rheolwr y Merthyr Express, ac ef oedd prif sylfaenydd llyfrgell y dref.

Ar ôl 1840 daeth yn enwog fel eisteddfodwr ac yn 1848, yn eisteddfod y Fenni, enillodd wobr am draethawd mawr ar lên Cymru yng nghyfnod y Gogynfeirdd, a dyma'r traethawd a ymddangosodd yn 1849 fel ei lyfr a'i waith enwocaf, The Literature of the Kymry. Hwn oedd yr ymdriniaeth feirniadol gyntaf ar y cyfnod yma a ddaeth yn adnabyddus i lenorion Ewrop. Eraill o'i gyfansoddiadau yw ‘The history of the Trial by Jury in Wales’ (N.L.W.); Madoc: an essay on the Discovery of America by Madoc ap Owen Gwynedd in the Twelfth Century (trwy ystryw ar ran pwyllgor yr eisteddfod collodd y wobr am y traethawd yma yn Llangollen 1858, ond fe'i cyhoeddwyd dan olygyddiaeth Llywarch Reynolds yn 1893); Orgraff yr Iaith Gymraeg, 1859, gyda ‘Gweirydd ap Rhys.’ Cyfrannodd erthyglau i'r Beirniad, 1861-3, a'r Archæologia Cambrensis, 1851-3. Ef oedd y cyntaf i fabwysiadu'r dull gwyddonol o feirniadu llenyddiaeth.

Bu farw 4 Ionawr 1875, a chladdwyd yng nghladdfa gyhoeddus Cefn Coed Cymer.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/