BEYNON, THOMAS (bu farw 1729), gweinidog

Enw: Thomas Beynon
Dyddiad marw: 1729
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Gweinidog cyntaf eglwys Annibynnol Brynberian (Nanhyfer) a chynulleidfaoedd eraill yn y cyffiniau. Ni wyddys pa bryd y ganwyd ef, ond yr oedd ganddo fab yn Academi Brynllywarch mor fore â 1696; dywedir mai yn 1690 y codwyd capel Brynberian.

Ymddengys enw Beynon yn rhestr John Evans (1715); ychwanegir mai yn Rhydlogyn gerllaw Aberteifi y preswyliai, ac iddo farw ym Mehefin 1729.

Yn D. M. Lewis, Cofiant Evan Lewis, Brynberian (Aberystwyth, 1903), y mae'r hanes llawnaf amdano. Yn Llyfryddiaeth y Cymry, dan 1719 (1), gwelir iddo fod yn un o noddwyr llyfr a gyhoeddwyd gan Isaac Carter yn Atpar; gweler hefyd yno dan 1717 (5).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.