Ganwyd yn sir Gaerefrog. Addysgwyd ef yn Rotherham o dan Dr. Edward Williams, a daeth, yn 1813, yn fugail tŷ cwrdd Albany (yr ' Albany Meeting'), Hwlffordd, Sir Benfro, lle yr arhosodd hyd 1840. Treuliodd weddill ei oes yn gweinidogaethu yn Rugeley, Bryste, Newbury, ac (ar ôl cyfnod) yn Langmore a Ruxton, gerllaw Ross-on-Wye. Bu farw 26 Tachwedd 1857.
Tra bu yn Hwlffordd cyhoeddodd Bulmer ddeg cyfrol yn cynnwys barddoniaeth, pregethau, a phethau crefyddol eraill. Yn eu mysg gellir nodi The Vicar of Llandovery, 1821, 1831, sef fersiwn Saesneg o waith Rees Prichard, Memoirs of Howell Harris, 1824, a Memoirs of Benjamin Evans, 1826, un o'i ragflaenwyr yn Albany.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.