Yn ôl yr achau hynaf yr oedd yn fab Rhodri, ŵyr Cadwaladr (bu farw 664). A chofio, fodd bynnag, i Rodri (Rhodri Molwynog, fel rheol) farw yn 754 ac mai yn 813 y sonnir gyntaf am Gynan, rhaid ystyried yr ach yn wallus. Mewn cysylltiad ag ymgais â Hywel (brawd iddo, yn ôl Dr. David Powel) i'w gyfrif yn bennaeth Môn y daw enw Cynan i dudalennau hanes. Yn 814, Hywel a orfu; enillodd Cynan yr ynys yn ôl yn 816, eithr bu farw'r flwyddyn honno. Yn ôl hanes bywyd Gruffydd ap Cynan, ei ddisgynnydd, o Gastell Dindaethwy yr oedd Cynan; barnwyd mai'r amddiffynfa sydd ar fryn gerllaw Plas Cadnant ym mhlwyf Llandysilio oedd y lle hwnnw. Gadawodd ferch o'r enw Ethyllt (am y ffurf gweler Rhys, Celtic Folklore, 480, n.) a ddaeth yn fam Merfyn Frych (bu farw 844) ac felly'n gychwynnydd llinach brenhinol Gwynedd a Deheubarth yn y Canol Oesoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.