mab Cadell tywysog Powys, a fu farw yn 808. Yr oedd o linach Brochwel Ysgithrog; ar ôl teyrnasu am gyfnod hir aeth ar bererindod i Rufain - y tywysog cyntaf o Gymru, hyd y gwyddys, i fynd i'r daith hon wedi i Gymru ymostwng i awdurdod y pab. Un peth yn unig a'i henwogodd; cododd mewn dyffryn yn Iâl a enwid wedi hynny yn Pant y Groes a Valle Crucis garreg goffa hardd, yn null Mercia, i'w hendaid Elise, gŵr y dywedir amdano, mewn arysgrif hir, iddo lwyddo i adennill Powys o law'r Saeson tua'r flwyddyn 725. Ychydig o'r arysgrif a ellir ei ddarllen erbyn hyn, ond cymerth Edward Lhuyd gopi cyflawn ohoni yn 1696, a'i gopi ef a ddefnyddir heddiw gan y rhai sydd yn ceisio ei dehongli. (gweler Archæologia Cambrensis, 1935, 330-3.) Gwnaeth y cerfiwr gamgymeriad wrth dorri'r enw yn ' Eliseg '; yr hen ffurf, fel y dengys yr achau, oedd Elized, a ddaeth, yn raddol, yn Elisedd, Elise, ac Elis. Cafodd y golofn, ' Pilar Eliseg,' anap fwy nag unwaith; fe'i dymchwelwyd yn y Rhyfel Cartrefol ond ailgodwyd y gweddillion yn 1779.
Daeth hen linach Powys i ben gyda Chyngen, serch y dywedir fod iddo dri mab nid ymddengys i un ohonynt ei ddilyn. Ni wyddys yn sicr pa beth a ddaeth o'r dalaith, ond y mae'n debyg i Rodri Mawr deyrnasu arni, gan ei hawlio trwy Nest, ei fam, chwaer Cyngen.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.