DAFYDD, MEURIG (1514 - 1595), bardd proffesyddol, Pabydd selog, ac un o'r ffigurau pwysicaf yn hanes llên Morgannwg yn hanner olaf yr 16eg. ganrif

Enw: Meurig Dafydd
Dyddiad geni: 1514
Dyddiad marw: 1595
Priod: Joan Dafydd (née Mathew)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd proffesyddol, Pabydd selog, ac un o'r ffigurau pwysicaf yn hanes llên Morgannwg
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Thomas Oswald Phillips

Gŵr a hanoedd o Lanisien yn ymyl Caerdydd ydoedd. Priododd Joan Mathau, wyres Syr Cristor Mathau o Landaf. Bu'n fardd teulu i Lewysiaid y Fann (Caerffili) am yn agos i ddeugain mlynedd, ond mynychai dai bonedd Morgannwg, Gwent, a De Brycheiniog ar ei deithiau clera. Corfforir ei holl waith prydyddol yn Llanofer MS. B 5, a hynny yn ei ysgriflaw ef ei hun. Yn ôl ffasiwn beirdd ei gyfnod ymddiddorai mewn achau a hynafiaethau, a llanwodd y swydd o 'herehaut,' neu wr yn medru achau, yn y cyngaws yn Llwydlo. Ystrydebol, oer, a diawen yw ei farddoniaeth gaeth, heb ddim o'r grymuster a nodweddai farddoniaeth ei athro 'Lewys Morgannwg'. Gwyntyllwyd yn llwyr ffug ddamcaniaethau 'Iolo Morganwg' ynghylch pwysigrwydd Meurig Dafydd yn hanes datblygiad y gyfundrefn farddol a luniodd 'Iolo' ac a gorfforir yn 'Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain .'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.